Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn hyrwyddo ac yn cefnogi arfer gorau ym maes mabwysiadu ledled Cymru. Os ydych yn ystyried mabwysiadu neu ddim ond am gael rhagor o wybodaeth, rydych wedi dod i'r lle cywir.
Gall y broses o fabwysiadu fod yn daith hir ac emosiynol, ond mae'r canlyniadau'n werth chweil. Ewch ati i ymchwilio, siarad â'r bobl gywir a pharatoi. Unwaith y dewch i ddeall pob cam yn y broses fabwysiadu, gallwch fwynhau eich siwrnai. Ac ni fyddwch yn gwneud y siwrnai ar eich pen eich hun. Mae cymorth wrth law bob amser.
Mabwysiadodd Clare a Gareth drwy Mabwysiadu'r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd yn 2016. Grŵp o frodyr a chwiorydd. Bachgen a dwy ferch a oedd yn 4, 3 ac 1 oed pan ddaethant i'w cartref newydd yn ne Cymru. Roedd y cwpl eisiau teulu mawr a phan sylweddolon nhw na fydden nhw'n gallu cael eu teulu'n naturiol, fe benderfynon nhw fabwysiadu grŵp o frodyr a chwiorydd o dri - er y byddai Gareth wedi cymryd saith neu wyth yn hawdd - i wireddu'r freuddwyd honno.
Darganfyddwch mwy and y story hyn
Roedd Rosie a Paul yn gwybod o ddechrau eu taith fabwysiadu na fyddai oedran yn ffactor iddyn nhw. Gan nodi ystod oedran 0-6 oed i ddechrau, penderfynodd y cwpl nad cael babi oedd y ffactor pwysicaf - y cyfle i greu atgofion a bywyd gwych i blentyn oedd flaenaf.
Roedd mabwysiadu plentyn hÅ·n yn golygu eu bod yn gallu parhau i wneud y pethau yr oeddent yn eu caru gyda phlentyn a fyddai mewn oedran y gallent hefyd fwynhau'r profiadau.
Darganfyddwch mwy and y story hyn
Mabwysiadwyd Greg, sy'n gweithio ym maes TG yn ystod y dydd ac sy'n DJ gyda'r nos, pan oedd bron yn saith oed. Dim ond ychydig o atgofion plentyndod sydd ganddo cyn ei fabwysiadu, yn bennaf o'i amser mewn gofal maeth.
Darganfyddwch mwy and y story hyn
O oedran ifanc, sylweddolodd Lowri, mabwysiadwr sengl o VVC, nad oedd yn rhaid i gariad fod yn gysylltiedig â gwaed - a bod y teulu hwnnw'n golygu mwy na DNA. Ar ôl gwarchod plant i deulu lle roedd y plentyn wedi ei fabwysiadu, roedd Lowri, 16 oed, yn gwybod ei bod am fabwysiadu.
Darganfyddwch mwy and y story hyn
Nid yw siarad am gael plant a mabwysiadu ar ddêt cyntaf yn iawn i bawb. Ond i Martyn, 35, a Lee 40, gwnaeth y syniad o gychwyn teulu iddyn nhw deimlo'n gyflawn. Mabwysiadodd y cwpl fachgen pump oed trwy Wasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin yn 2018. Dair blynedd yn ddiweddarach, mabwysiadodd y cwpwl fachgen pedair oed.
Darganfyddwch mwy and y story hyn
Ar y dechrau, roedd Damian a'i bartner yn bwriadu mabwysiadu un plentyn. Ond ar ôl sylweddoli faint o grwpiau siblingiaid oedd yn aros i ddod o hyd i gartref newydd, fe wnaethant benderfynu mabwysiadu efeilliaid tair oed.
Darganfyddwch mwy and y story hyn
Nid oedd yn bosibl i'r cwpl gael plenty yn naturiol, felly cawsant IVF a chael eu mab cyntaf. Er gwaethaf anawsterau a blinder emosiynol triniaethau IVF aflwyddiannus blaenorol, ni aeth yr awydd i gael teulu mwy i ffwrdd, felly dair blynedd yn ddiweddarach fe wnaethant benderfynu mabwysiadu a rhoi brawd i'w mab.
Darganfyddwch mwy and y story hyn
Dewisodd Meinir a'i phartner gadw siblingiaid gyda'i gilydd, gan roi cartref cariadus i fachgen pedair oed a'i chwaer ddwy oed trwy Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 2016.
Darganfyddwch mwy and y story hyn
Karyn yn benderfynol o gael plentyn a phenderfynodd fynd ar hyd llwybr mabwysiadwr sengl. Mabwysiadodd ferch 11 mis oed trwy wasanaeth mabwysiadu Bae'r Gorllewin, a ddaeth i'w chartref newydd ychydig cyn y Nadolig yn 2019.
Darganfyddwch mwy and y story hyn
I ddechrau, roedd gan wraig Christopher amheuaeth ynghylch mabwysiadu ond ar ôl oriau o ymchwil, penderfynodd ei fod yn gyfle perffaith. Mabwysiadodd y cwpl ferch dair oed trwy Wasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin yn 2015 ac ni allent aros i gychwyn y bennod newydd hon yn eu bywydau.
Darganfyddwch mwy and y story hyn
Pan gyfarfu'r cwpl, ag Ellen am y tro cyntaf roedd hi'n dal mewn cewynnau yn saith oed, erioed wedi cael llyfr wedi'i ddarllen iddi, yn arfer rhewi wrth glywed sŵn uchel ac yn cuddio y tu ôl i'r soffa pryd bynnag y byddai hi yn teimlo ofn - ond er gwaethaf ei hanghenion cymhleth, roedd Amanda a Martin yn gwybod o'r eiliad y gwnaethant ddarllen am stori Ellen mai eu merch nhw oedd hi.
Darganfyddwch mwy and y story hyn
Dylanwadodd ei gyrfa fel gweithiwr ieuenctid yn drwm ar benderfyniad y rhiant sengl, Sarah, i fabwysiadu. Mabwysiadodd chwiorydd 4 a 6 oed yn 2019 trwy Gymdeithas Plant Dewi Sant ac mae'n siarad yn agored am eu taith ar ei blog, 2StarfishSolo.
Darganfyddwch mwy and y story hyn
Cyflawnodd Caroline a Siobhan rywbeth yr oeddent bob amser wedi breuddwydio amdano pan wnaethant fabwysiadu grŵp siblingiaid yn 2017. Mabwysiadodd y cwpl trwy Wasanaeth Mabwysiadu De Ddwyrain Cymru a mabwysiadu siblingiaid tair oed.
Darganfyddwch mwy and y story hyn
Yn 2011, ni allai cartref dwy ystafell i fyny grisiau a dwy ystafell i lawr dderbyn mwy nag un plentyn felly ar ôl mabwysiadu eu mab yn 4 oed trwy Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, fe wnaethant fabwysiadu eu merch bum mlynedd yn ddiweddarach.
Darganfyddwch mwy and y story hyn
Mabwysiadodd Tasha, sy'n athrawes, frodyr a chwiorydd o dreftadaeth Gwlad Thai - merch dair oed a bachgen 20 mis oed - oherwydd ei bod yn gwybod bod bechgyn, plant lleiafrifol ethnig a brodyr a chwiorydd fel arfer yn aros yr hiraf i gael eu mabwysiadu.
Darganfyddwch mwy and y story hyn
By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again