Meinir

Mabwysiadwr, 40

Yn yr eiliad honno, nid oedd ots pa mor frawychus ydoedd.

Meinir, 40

Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru

Roedd Meinir, 40, a’i phartner bob amser yn breuddwydio am gael eu plant eu hunain un diwrnod. Ond roedd Meinir, sy’n dioddef o glefyd cynhenid ​​y galon ac yn gwisgo rheoliadur, yn poeni am yr effeithiau y byddai beichiogrwydd yn eu cael ar ei chorff. Er gwaethaf cael sicrwydd gan gardiolegwyr ei bod yn ddiogel ceisio am fabi, penderfynodd y cwpl fabwysiadu.

Dewisodd Meinir a’i phartner gadw siblingiaid gyda’i gilydd, gan roi cartref cariadus i fachgen pedair oed a’i chwaer ddwy oed trwy Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 2016.

Dyma ei stori hi…

“Roeddwn i bob amser eisiau plant fy hun, fel fy mhartner hefyd, ond oherwydd fy nghalon roeddem yn gwybod y byddai bob amser yn anodd. Cawsom sêl bendith cardiolegydd, ond fe wnaethon ni benderfynu nad oedden ni eisiau mynd i lawr llwybr IVF nac unrhyw beth arall, roedden ni am fabwysiadu.

“Roedd rhyddhad fy nhad yn arbennig o amlwg wedi iddo ddarganfod ein bod yn mabwysiadu gan ei fod yn poeni am effeithiau beichiogrwydd ar fy nghorff. Roeddwn i hefyd yn heneiddio – ond roedd cael teulu yn rhywbeth roedden ni wirioneddol ei eisiau.

“I ddechrau, cymerodd dipyn o amser i ni gael ein lleoli felly fe benderfynon ni ehangu ein meini prawf a dewis mabwysiadu siblingiaid. Sbardunodd hyn y broses, gan fod llawer o grwpiau siblingiaid yn aros i gael eu mabwysiadu.

“Mae gan fy mhartner a minnau frodyr a chwiorydd. Roeddem bob amser yn meddwl y byddem yn mabwysiadu un plentyn yn gyntaf, ac yna’n mabwysiadu eto ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Fodd bynnag, trwy fabwysiadu siblingiaid, maent yn deall eu taith a byddant yn gallu cefnogi ei gilydd a all helpu’r broses gyfan. Roedd yn gwneud synnwyr i ni wneud hyn.

“Mae’n rhaid i chi ddeall yr hyn rydych chi’n dod i mewn iddo wrth fabwysiadu. Mae’n dorcalonnus gweld faint o blant hŷn sy’n aros.

“Roedd y tro cyntaf i ni gwrdd â’r plant yn eu cartref maeth mor swrrealaidd. Rhedodd fy merch ataf yn gweiddi ‘Mummy’ ac roedd yn gwneud popeth yn berffaith. Yn yr eiliad honno, nid oedd ots pa mor frawychus ydoedd. Mae’r plant wedi ein gwneud ni’n gyflawn; maen nhw wedi newid ein bywydau er gwell.

“Cyn i ni gael ein plant, nid oedd gennym unrhyw gyfrifoldebau mawr. Ac ar y dechrau, roedd yn frawychus iawn cael cyfrifoldeb am ddau blentyn fwyaf sydyn. Am ychydig, allwn i ddim cysgu oherwydd roeddwn i eisiau bod yno ar gyfer y plant, pryd bynnag y byddan nhw fy angen i.

“Mabwysiadu yw un o’r pethau anoddaf y gallwch chi ei wneud – ond dyna’r mwyaf buddiol. Bydd yr eiliadau da bob amser yn gorbwyso’r drwg. Gallwch chi roi ail gyfle i blentyn mewn bywyd: y cyfle i fod yn hapus.

“Mae cymaint o gefnogaeth ar gael a dwi’n difaru peidio cael gafael ar gymorth lawer yn gynharach nag y gwnaethom. Roedd ein gweithiwr cymdeithasol yn wych, mae’r gefnogaeth allan yna, does ond angen i chi ofyn. ”

 

Straeon Mabwysiadu