Gwaith Taith Bywyd
Mae angen i bob plentyn yng Nghymru na allant dderbyn gofal gan eu teuluoedd geni ddeall hanes eu teulu a’u taith bywyd unigryw.
Gwneir Gwaith Taith Bywyd er mwyn cefnogi hunaniaeth plentyn a’i ymdeimlad o berthyn. Mae’n hybu hunan-barch a lles drwy ddarparu:
- Cyfle i gadw gwybodaeth ffeithiol bwysig, sy’n briodol i’w hoedran, am hanes ac amgylchiadau teuluol
- Ffordd o gadw atgofion wrth i blant dyfu’n hŷn a dechrau gofyn mwy o gwestiynau
- Strwythur i archwilio emosiynau a siarad am faterion poenus
Mae Fframwaith Y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cynnwys cyfres o adnoddau ar gyfer pawb sy’n ymwneud â gofal plentyn – o ofalwyr maeth a mabwysiadwyr i weithwyr proffesiynol a rhieni geni – i helpu plentyn i wneud synnwyr o’i orffennol a deall ei sefyllfa bresennol i’w helpu i ffynnu wrth iddo dyfu.
Dewiswch yr opsiwn sy’n eich disgrifio orau i ddod o hyd i’r adnodd Taith Bywyd sy’n iawn i chi.
Canllaw Gwaith Taith Bywyd i Weithwyr Cymdeithasol a Gweithiwr Proffesiynol Eraill
Canllaw i Weithgareddau Gwaith Taith Bywyd
Canllaw Gwaith Taith Bywyd i Fabwysiadwyr
Canllaw Gwaith Taith Bywyd i Rieni Biolegol
Canllaw Gwaith Taith Bywyd ar gyfer plant a phobl ifanc wedi eu mabwysiadu
Gwaith Taith Bywyd Canllaw i Ofalwyr Maeth
Fframwaith Gwaith Taith Bywyd
Cylchlythyr Gwaith Taith Bywyd (2024)
Cylchlythyr Gwaith Taith Bywyd (2023)
Cylchlythyr Gwaith Taith Bywyd (2022)
Cylchlythyr Gwaith Taith Bywyd (2021)
Pam fod Gwaith Taith Bywyd mor bwysig?