Dewis Teulu
10 mis. 10 oed. Bachgen. Merch. Brodyr. Chwiorydd. Pan fyddwch chi’n mabwysiadu, nid dewis plentyn yn unig ydych chi – rydych chi’n dewis teulu.
Waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, os cânt eu mabwysiadu ar eu pennau eu hunain neu fel brodyr a chwiorydd, mae angen sylw, sicrwydd a diogelwch ychwanegol ar blant mabwysiedig oherwydd eu profiadau yn y gorffennol.
Darllenwch y straeon gan eraill sydd wedi mabwysiadu i’ch helpu i ddeall mwy am y plant sy’n aros amdanoch.