Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi

Menyw iau gyda gliniadur yn eistedd ar soffa gyda menyw hŷn yn pwyntio at rywbeth ar y sgrin

Mae cymorth gydol oes ar gael i unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan fabwysiadu - heddiw, yn y gorffennol neu o bosibl yn y dyfodol.

Ymrwymiad Cymorth Mabwysiadu

Y cyntaf o’i fath yn y DU, mae ein Hymrwymiad Cymorth Mabwysiadu yn amlinellu pa gymorth sydd ar gael i bob teulu mabwysiadol yng Nghymru.

Mae'n rhan o ymgyrch barhaus i ddatblygu a gwella ansawdd, cysondeb ac ystod y gwasanaethau cymorth mabwysiadu.

Darllenwch yr ymrwymiad.

Darllen yr Ymrwymiad
Family

Ochr yn ochr â’r gwasanaethau mabwysiadu rhanbarthol a gwirfoddol, yr asiantaethau a all ddarparu cymorth mabwysiadu yw:

AdoptionUK

Adoption UK – Cymru

Mae Adoption UK yn elusen ar gyfer pobl sydd wedi’u mabwysiadu, teuluoedd mabwysiadol, ac eraill sy’n magu plant na allant fyw gyda’u rhieni biolegol. Mae Adoption UK Cymru yn un o’r asiantaethau partner sy’n rhan o Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru ac mae’n darparu amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi pawb ar eu taith fabwysiadu. I weld yr ystod lawn o wasanaethau a ddarperir yng Nghymru ewch i https://www.adoptionuk.org/wales neu siaradwch â’ch Gwasanaeth Cymorth Mabwysiadu Rhanbarthol lleol neu VAA a all eich cynorthwyo i gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Cymdeithas Maethu, Perthynas a Mabwysiadu

Fel un o ‘bartneriaid strategol’ NAS, mae AFKA Cymru yn hyrwyddo arfer da ar draws ehangder cynllunio sefydlogrwydd ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae AFKA yn cefnogi dysgu a datblygu ac yn cynnig cyngor, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth i weithwyr proffesiynol, mabwysiadwyr, gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau, yn ogystal ag aelodau eraill o’r cyhoedd i gynnal arfer gorau mewn maethu, perthynas a mabwysiadu.

Caiff AFKA Cymru ei lywodraethu gan Gymdeithas Plant Dewi Sant o dan delerau ei statws elusennol.

https://afkacymru.org.uk/?lang=cy

Pan fydd pethau’n anodd, gall siarad â gweithiwr proffesiynol hyfforddedig helpu. Mae dwy linell gymorth fabwysiadu lle gallwch gael sgwrs anffurfiol neu ofyn am wybodaeth a chyngor.

Llinell Gymorth Adoption UK
0300 666 0006 (opsiwn 5)
Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10:00am a 2:30pm.

Cymdeithas ar gyfer Maethu, Gofal Perthynas a Mabwysiadu Cymru
Caerdydd 029 20761155 neu Rhyl 01745 336336.

Fel arall, gallwch gysylltu â’ch asiantaeth fabwysiadu neu awdurdod lleol i gael cymorth mwy penodol.

Yn ogystal â’r hyfforddiant y byddwch wedi’i dderbyn yn ystod y broses gymeradwyo, mae yna hefyd nifer o gyrsiau sgiliau magu plant lle gallwch ddysgu strategaethau newydd ar gyfer helpu plentyn i ddelio â bywyd teuluol. Mae’r cyrsiau hefyd yn gyfle i gwrdd a siarad â mabwysiadwyr eraill sy’n deall eich sefyllfa.

Mae rhai cyrsiau wythnosol ac eraill yn para sawl diwrnod.

Mae cyrsiau sgiliau magu plant yn cynnwys Parenting our Children drwy Adoption UK a drwy After Adoption.

Bydd eich asiantaeth fabwysiadu hefyd yn gallu rhoi cyngor ar gyrsiau magu plant eraill yn eich ardal chi.

Cysylltu gyda fy asiantaeth.

Gofynnir i ysgolion roi blaenoriaeth mynediad i bob plentyn mabwysiedig, sy’n golygu y dylai eich plentyn allu mynychu pa bynnag ysgol sy’n diwallu eu hanghenion orau yn eich barn chi.

Os ydych yn teimlo bod angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn o ganlyniad i’r mabwysiadu, mae gennych hawl i dderbyn asesiad o anghenion cymorth mabwysiadu. Os ydych yn credu bod gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig, gallwch ofyn i’ch awdurdod lleol asesu’r anghenion hyn hefyd.

Bydd cyllid hefyd o fewn y consortia addysg lleol i helpu ysgol eich plentyn i ddeall a diwallu unrhyw anghenion ychwanegol sydd gan eich plentyn.

Cael arweiniad ar dderbyniadau i ysgolion.

Dysgwch fwy am y Grant Amddifadedd Disgyblion.

Mae Connected yn grŵp cymorth sy’n cael ei redeg gan Adoption UK ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu.

Mae grwpiau ledled Cymru sy’n darparu cyfleoedd i gwrdd â phlant eraill sydd wedi’u mabwysiadu, cymryd rhan mewn gweithgareddau difyr, yn ogystal â siarad am brofiadau cyffredin.

Ymunwch â’ch grŵp Connected lleol.

Rydym wedi gweithio gyda theuluoedd mabwysiadol i greu taflen y gallwch fynd â hi i’ch apwyntiad gofal iechyd nesaf er mwyn helpu’ch ymgynghorydd i ddeall yn well sut i reoli anghenion eich plentyn – yn yr ystafell ymgynghori ac yn yr ystafell aros.

Lawrlwythwch y daflen.

Nid yw bob amser yn bosibl cadw brodyr a chwiorydd geni gyda’i gilydd. Fodd bynnag, lle mae’n ddiogel, yn briodol ac yn gyfreithiol bosibl, rydym yn annog cyswllt gynaliadwy rhwng brodyr a chwiorydd.

Rydym wedi creu taflen ffeithiau ddefnyddiol i egluro mwy am yr hawliau cyfreithiol sy’n ymwneud â chyswllt rhwng brodyr a chwiorydd sydd â threfniadau cyswllt gwahanol a gytunwyd arnynt gan lys.

Lawrlwythwch y daflen ffeithiau ddefnyddiol hon.

Os ydych yn oedolyn mabwysiedig, rhiant geni neu berthynas geni arall sydd wedi eich effeithio gan fabwysiadu yn y 1950au, 60au a’r 70au cynnar, mae amrywiaeth o wasanaethau a all eich cefnogi.

Gall eich gwasanaeth mabwysiadu lleol eich cynghori ar yr help sydd ar gael yn lleol i ddelio ag effaith y mabwysiadu hanesyddol arnoch chi, eich plentyn neu berthynas.

Dewch o hyd i’ch asiantaeth leol.

Mae yna lawer o ffyrdd i chwilio am gofnodion geni a pherthnasau geni. Mae rhai yn rhad ac am ddim ac eraill sydd angen talu amdanynt.

Cymerwch olwg ar yr opsiynau sydd ar gael i chi.

Cronfa ymddiriedolaeth plant:

Dylai’r rhan fwyaf o blant a aned yn y DU rhwng 01/09/2002 a 02/01/2011 fod â chyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant (CTF) unigol yn eu henw, yn barod ar gyfer pan fyddant yn 18 oed.

Fel rhan o’r fenter hon, rhoddodd y Llywodraeth £250 yng nghronfa’r plentyn adeg ei eni a £250 ychwanegol pan roedd y plentyn 7 oed. Dyblwyd y symiau hyn ar gyfer plant mewn teuluoedd sy’n derbyn Credyd Treth Plant.

Dylai’r cyfrifon gwreiddiol fod wedi’u sefydlu gan Rieni Geni (gan ddefnyddio Enw Geni’r plentyn). Os na wnaethant hyn (am ba bynnag reswm), sefydlodd y llywodraeth (Cyllid y Wlad) gyfrif CYP ar gyfer y plentyn.

Buddsoddwyd y rhan fwyaf o’r cyfrifon hyn yn y farchnad stoc, felly mae llawer wedi tyfu dros y blynyddoedd, a gallant fod werth £1,000 neu fwy erbyn hyn.

Os bydd mabwysiadwyr (neu bobl ifanc mabwysiedig dros 16 oed) yn dymuno darganfod ble mae’r cyfrifon hyn, dylent gysylltu â ‘The Share Foundation’ (a elwir hefyd yn ‘Sharefound’), yr elusen gofrestredig sy’n rhedeg y cynlluniau CYP a’r ISA Iau ar gyfer pobl ifanc mewn gofal.

Mae’r Share Foundation hefyd yn darparu digwyddiadau rhithwir rheolaidd sy’n darparu ac yn trafod mwy o fanylion am yr uchod, y gall pobl ifanc 16 oed a hŷn, rhieni, gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol eu mynychu.

Darganfod mwy o wybodaeth a chael cyngor

Teulu

Blogiau

Blogiau gan ein cymuned fabwysiadu

Blogiau
Teulu

Ymgysylltu a defynddwyr

Sut rydyn ni'n gweithio gyda phobl i wella ein gwasanaethau

Cwestiynau cyffredin