Cofrestr Mabwysiadu Cymru
Adnodd canfod teulu ar-lein yw Cofrestr Mabwysiadu Cymru a ddefnyddir gan fabwysiadwyr wedi eu cymeradwyo a gweithwyr cymdeithasol i ddod o hyd i deuluoedd i blant yn gynt.
Cofrestr Mabwysiadu Cymru yw’r offeryn statudol cenedlaethol ar gyfer cysylltu a chanfod teuluoedd sy’n helpu i ddod o hyd i’r pariad gorau i blant sy’n aros i gael eu mabwysiadu.
Mae’n gronfa ddata ddiogel, ddwyieithog o broffiliau mabwysiadwyr a phlant a reolir gennym ni ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae’n ofyniad cyfreithiol* i wasanaethau mabwysiadu rhanbarthol ac asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol ychwanegu mabwysiadwyr at y gofrestr o fewn mis iddynt gael eu cymeradwyo, ac ychwanegu plant at y gofrestr o fewn mis i’r gorchymyn mabwysiadu. *Cyfarwyddydau Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002, Cyddrefniadau Mabwysiadu, Cymru, Diwygio, 2019.
Mae ein tîm profiadol ac ymroddedig yn gweithio’n ddyddiol gyda gweithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr ledled Cymru i ddefnyddio’r gofrestr er mwyn adnabod pariad posibl rhwng plant a darpar fabwysiadwyr.
Mae gan fabwysiadwyr cymeradwy hefyd fynediad i’r gronfa ddata i greu eu proffil eu hunain ac i ddarganfod mwy am y plant sy’n aros er mwyn eu helpu i ddod o hyd i deulu.
Defnyddir y gofrestr ochr yn ochr ag arferion dod o hyd i deulu eraill megis diwrnodau o weithgarwch mabwysiadu, diwrnodau cyfnewid a digwyddiadau proffilio ar-lein.
Rydym yn gweithio mor galed ag y gallwn i baru’n lleol, ond yn yr achosion prin yna ble na ellir gwneud hynny, rydym yn defnyddio’r Protocol Cyfeirio Rhwng Cofrestrau Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban i gael mynediad i gofrestrau eraill y DU a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i ddod o hyd i’r teulu iawn ar gyfer plentyn.
Mae Cofrestr Mabwysiadu Cymru yn ein helpu i adnabod tueddiadau gydag amseroedd aros, gwybodaeth am anghenion plant a pham efallai bod rhai plant yn aros yn hirach. Hefyd, sut mae’r wybodaeth hon yn bwydo i mewn i’r broses recriwtio e.e. sicrhau bod y mabwysiadwyr cywir yn cael eu recriwtio i ddiwallu anghenion y plant hynny sy’n aros hiraf ac mae’n ein helpu i wella ein gwasanaeth.
493
o blant wedi eu paru trwy Gofrestr Mabwysiadu Cymru Ebrill 2014 – Mawrth 2024
Ebill 2014 – Mawrth 2024
I gofrestru ar gyfer digwyddiad, cysylltwch â:
AdoptionRegisterWales@adoptcymru.com / 029 2087 3799
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9:00am a 1:00pm.
Caiff galwadau y tu allan i’r oriau hyn eu hateb yn ystod y diwrnod gwaith nesaf.
Digwyddiadau Canfod Teulu
22 Hydref 2024
Digwyddiad Proffilio Ar-lein
Fforwm Ymarferwyr a Rheolwyr
Cyfarfod nesaf: 10 Medi 2024
Cynrychiolir pob asiantaeth fabwysiadu; i rannu arfer da, proffiliau ac i ganfod teulu ar gyfer yr holl blant sy’n aros ar y Gofrestr.
Cysylltwch â ni
Llinell gymorth y Gofrestr Fabwysiadu
Siaradwch ag aelod o dîm Cofrestr Mabwysiadu Cymru.
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9:00am a 1:00pm.
Caiff galwadau y tu allan i’r oriau hyn eu hateb yn ystod y diwrnod gwaith nesaf.
029 2087 3799
AdoptionRegisterWales@adoptcymru.com