Damian

Mabwysiadwr, 31

Rydyn ni fel un. Rydyn ni'n symud ymlaen gyda'n gilydd - ac mae gennym ni deulu bach hyfryd.

Damian, 31

Cymdeithas Plant Dewi Sant

Mabwysiadodd Damian, 31, trwy Asiantaeth Mabwysiadu Cymdeithas Plant Dewi Sant pan oedd yn 27 oed. I Damian a’i bartner, mabwysiadu oedd eu dewis cyntaf erioed wrth feddwl am ddechrau teulu.

Penderfynodd y cwpl beidio â chynnal ymchwil i’r broses fabwysiadu, gan gredu bod llawer o’r pryderon oedd gan bobl am fabwysiadu wedi dyddio.

Ar y dechrau, roedd Damian a’i bartner yn bwriadu mabwysiadu un plentyn. Ond ar ôl sylweddoli faint o grwpiau siblingiaid oedd yn aros i ddod o hyd i gartref newydd, fe wnaethant benderfynu mabwysiadu efeilliaid tair oed.

Dyma stori Damian…

“Mabwysiadodd fy mhartner a minnau yn 2018. I ni, mabwysiadu oedd yr unig ddewis. Nid oeddem wedi ystyried unrhyw lwybr arall, roeddem am ddarparu cartref cariadus i blant. Cafodd llawer o bobl y gwnaethom siarad â nhw a oedd wedi mabwysiadu yn ystod cenhedlaeth flaenorol brofiadau cadarnhaol cyfyngedig. Fodd bynnag, mae mabwysiadu yn wahanol iawn nawr. Rydych chi’n ymwneud llawer mwy â’r naratif a’r broses.

“Roedd y broses yn drylwyr a bron yn therapiwtig. Gofynnodd y ddau ohonom gwestiynau, a hwythau hefyd. Fe helpodd y broses yn fawr ac roedd yn golygu nad oedd angen i ni wneud unrhyw ymchwil ar-lein wrth i’n holl gwestiynau gael eu hateb. Mae’r broses fabwysiadu yn gofyn am lawer o feddwl – ond mae’n rhaid i chi fynd drwyddi. Fe wnaethon ni gofleidio’r cyfan.

“Pan benderfynodd fy mhartner a minnau fabwysiadu, dim ond un plentyn yr oeddem am ei fabwysiadu. Ond wrth i ni symud ymlaen trwy’r asesiad, dywedodd ein gweithiwr cymdeithasol wrthym fod llawer o grwpiau siblingiaid yn y system yn aros i gael eu lleoli. Ar y pryd, gadawyd plant dros dair oed i aros yn llawer hirach felly ein dewis oedran oedd plant dros dair oed.

“Y canfyddiad sydd gan bobl yw, os ydych chi’n mabwysiadu plentyn iau, efallai nad ydyn nhw wedi bod yn dyst i unrhyw drawma, neu nad oes ganddyn nhw atgofion melys o’u plentyndod. Ond nid yw hyn yn wir – a chredaf y dylid darparu gwybodaeth bellach i ddarpar fabwysiadwyr ar hyn.

“Roedd y tro cyntaf i ni gwrdd â’r plant yn anhygoel. Ar y dechrau, roedd yn teimlo fel ein bod ni’n gwarchod plant rhywun arall ac roedd y cyfan yn teimlo’n swrrealaidd. Pan gerddodd y plant trwy ein drws am y tro cyntaf, fe wnaethant redeg i mewn yn sgrechian a chwerthin a rhedeg yn syth i fyny’r grisiau. Fe wnaethon ni addurno’r tŷ a phrynu llawer o deganau iddyn nhw hefyd.

“Roedd y tro cyntaf iddyn nhw gwrdd â’u neiniau a theidiau yn swrrealaidd i mi a fy mhartner. Mae ein rhieni yn dal i fod yn ddigon ifanc i gael yr egni i redeg o gwmpas a chwarae gyda phlant tair oed – a wna i fyth anghofio’r eiliad honno. Roedd mor arbennig. Pan ddywedon ni wrth ein rhieni ein bod ni’n mabwysiadu, roedd gan rai o’u ffrindiau ychydig o amheuon ond dwi’n meddwl mai dim ond peth cenhedlaeth yw hynny, gyda diffyg ymchwil ac ymwybyddiaeth.

“Pan gyfarfu ein plant â’n rhieni o’r diwedd, roedd yn teimlo mor normal. Rhoddwyd y plant mewn sefyllfa nad oeddent byth wedi gofyn am fod ynddo ac roeddent yn gallu dod allan yr ochr arall iddo mewn modd cadarnhaol. Roedd y plant yn wirioneddol cofleidio cwrdd â’u teulu newydd, eu teulu am byth. Nid yw hynny’n golygu nad oes problemau, ond rydym yn gweithio gyda nhw, nid yn unig ni, ond ein teulu cyfan.

“Mae’r bechgyn yn ei chael hi’n anodd adnabod eu hemosiynau weithiau. Yn gynharach eleni, gwnaethom gysylltu yn ôl â’r asiantaeth fabwysiadu a gofyn am gefnogaeth gan ein gweithiwr cymdeithasol. Fel teulu, roeddem yn teimlo ei bod yn broblem yr oedd angen ei datrys. Fe wnaethon ni eistedd i lawr ac egluro i’r plant nad oedden ni’n gallu datrys y broblem hon, felly byddem ni’n ceisio cymorth rhywun a allai rhoi tro arni.

“Mae’r plant wedi ei gofleidio mewn ffordd na allwn i byth ei ddychmygu. Maen nhw wedi bod mor agored i ddysgu a chael help. Efallai na fydd llawer o rieni mabwysiadol yn gwybod bod y gefnogaeth hon ar gael. Os oes angen unrhyw help arnom, rydyn ni’n gofyn ac yn gweithio gyda’r plant wrth symud ymlaen.

“Mae mabwysiadu wedi ein gwneud yn fwy agored ac yn fwy deinamig. Rydyn ni wir wedi dod i werthfawrogi’r anhawster yr aeth y plant drwyddo cyn iddyn nhw ddod atom ni. Rydyn ni fel un. Rydyn ni’n symud ymlaen gyda’n gilydd – ac mae gennym ni deulu bach hyfryd. “

Straeon Mabwysiadu