Sefydlogrwydd Cynnar Cymru

Teulu yn gweini pryd o fwyd

Sefydlogrwydd Cynnar Cymru (SCC) yw’r term ymbarél a roddir i’r arfer o leoli plant gyda darpar rieni mabwysiadol sydd hefyd wedi’u cymeradwyo fel gofalwyr maeth dros dro.

Beth yw Sefydlogrwydd Cynnar Cymru?

I’r rhan fwyaf o blant yng Nghymru, pan yn cael eu symud o’u teulu geni am y tro cyntaf, naill ai ychydig cyn neu ar ddechrau achosion gofal, maent naill ai’n cael eu lleoli gydag aelodau o’r teulu neu mewn lleoliad maeth gyda gofalwyr maeth sydd wedi eu cymeradwyo. Os caiff y cynllun gofal ar gyfer mabwysiadu ei dderbyn gan y llys, bydd y gofalwr maeth yn gweld y plentyn yn ystod y cyfnod pontio i’r lleoliad mabwysiadol.

Mae Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yn cynnwys y gofalwyr maeth sy’n gofalu am y plentyn sy’n cael ei gymeradwyo a hynny fel darpar rieni mabwysiadol. Maent yn gofalu am y plentyn, yn hwyluso cyswllt â’r teulu geni ac yn cymryd rhan yn adolygiadau’r plentyn sy’n derbyn gofal.

Os yw’r cynllun gofal ar gyfer ailuno â’r teulu geni, mae’r gofalwyr yn helpu’r plentyn gyda’r cyfnod pontio.

Os yw’r cynllun gofal ar gyfer mabwysiadu, mae’r plentyn yn aros gyda’r gofalwyr a gallan nhw wedyn wneud cais i ddod yn rhieni mabwysiadol y plentyn. Mae hyn o fudd i’r plentyn oherwydd nid yw’n wynebu cyfnod pontio o leoliad maeth i leoliad mabwysiadol.

Ydy Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yn addas i chi?

Nid yw dod yn ofalwr SCC yn addas ar gyfer pob mabwysiadwr ond os yw’n rhywbeth yr hoffech ei archwilio ymhellach, gall eich asiantaeth eich cofrestru ar gyfer gweminar ‘Ydy Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yn addas i chi?’, lle cewch glywed mwy am rôl gofalwr SCC.

Laura a Jonny oedd rhai o’r gofalwyr cyntaf yng Nghymru i gael eu cymeradwyo o dan Fframwaith SCC. Dangosodd Laura a Jonny ymrwymiad cryf i ofalu am eu mab tra bod penderfyniadau’n cael eu gwneud am ei ddyfodol. Yn y fideo hwn, maent yn rhannu eu taith trwy’r broses faethu a mabwysiadu ac yn myfyrio ar yr elfennau cadarnhaol a’r heriau a gyflwynodd SCC iddyn nhw a’u teulu.