Ateb eich cwestiynau

Gwraig yn eistedd gyda chath ar soffa yn siarad â dynes arall

Mae'n normal i fod eisiau gofyn cwestiynau am fabwysiadu. Dyma'r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir i ni. Os na allwch ddod o hyd i ateb i’ch ymholiad, yna cysylltwch â’ch gwasanaeth mabwysiadu lleol sydd yno i helpu.

Allai fabwysiadu os…?

Rhaid i chi fod dros 21 oed i fabwysiadu ond does dim uchafswm oedran. Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod yn ddigon ffit ac iach i gefnogi plentyn hyd nes bydd yn oedolyn. Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un all gynnig sefydlogrwydd, diogelwch, amgylchedd anogol diogel a digon o amser i fodloni anghenion corfforol ac emosiynol plentyn.

Ar yr amod nad yw eich anifeiliaid anwes yn fygythiad i iechyd neu ddiogelwch plentyn, rydym yn hapus i ystyried cais gennych. Gall rhai anifeiliaid anwes hyd yn oed helpu plentyn i setlo i mewn i gartref newydd.

Rydym yn croesawu ymholiadau gan bobl sy’n breswylwyr yn y DU, neu sy’n hanu o Brydain. Cysylltwch â’ch asiantaeth ddewisol os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu ond yn ansicr ynglŷn â’ch statws a byddant yn hapus i’ch cynghori.

Rydym yn croesawu ymholiadau gan bob math o fabwysiadwyr, o bob rhan o sbectrwm rhywioldeb neu hunaniaeth rhywedd. Rydym yn chwilio am fabwysiadwyr sydd â’r sgiliau a’r rhinweddau i gynnig amgylchedd diogel, sefydlog a meithringar i blentyn fedru tyfu a ffynnu.

Gall pobl sengl fabwysiadu. Nid oes dim byd yn anarferol am fod yn rhiant sengl – mae tua chwarter y cartrefi yn y DU sydd â phlant dibynnol yn gartrefi rhiant sengl. Rydym yn cefnogi mabwysiadwyr o ystod eang o wahanol fathau o deuluoedd drwy gydol y broses, ac rydym wedi helpu llawer o bobl sengl i fabwysiadu’n llwyddiannus.

Nid yw cyflyrau fel iselder neu orbryder o reidrwydd yn rhwystr i fabwysiadu. Fodd bynnag, byddant yn cael eu hystyried pan fyddwch yn gwneud eich cais er mwyn sicrhau eich bod yn gallu bodloni anghenion plentyn.

Ni fydd pob trosedd yn eich atal rhag mabwysiadu – ond bydd rhai yn, fel troseddau yn erbyn plant a rhai troseddau yn erbyn oedolion eraill. Os oes gennych chi gofnod troseddol siaradwch â’ch gwasanaeth mabwysiadu lleol ynglŷn â beth mae hyn yn ei olygu, a byddan nhw’n hapus i roi cyngor pellach i chi.

Ni fydd cael eich plant eich hun yn eich rhwystro rhag mabwysiadu. Yr unig beth rydym yn gofyn yw fod eich plant yn hapus gyda’ch penderfyniad a’ch bod yn gallu reoli eu hanghenion ochr yn ochr â gofalu am blentyn mabwysiedig. Rydym yn awgrymu bwlch o ddwy flynedd o leiaf rhwng y plant sydd eisoes yn eich teulu ac unrhyw rai sy’n cael eu mabwysiadu.

Gallwch, ond bydd angen amser i ffwrdd arnoch i helpu’r plentyn i ymgartrefu yn eich cartref. O ran plant iau, mae’n bwysig eich bod adref mor hir â phosib. Hyd yn oed pan fyddant yn yr ysgol, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser iddynt ddod i arfer â threfn newydd, felly efallai y bydd angen i chi fod wrth law pan fyddan nhw eich angen. Y peth pwysicaf yw eich bod yn hyblyg ac yn gallu trefnu eich gwaith o amgylch anghenion eich plentyn mabwysiedig, nid i’r gwrthwyneb. Ewch i’n tudalen gwybodaeth i gyflogwyr i ddeall mwy am eich absenoldeb mabwysiadu a’ch gwaith.

Mae’n well i bob plentyn fyw mewn amgylchedd di-fwg ac felly mae’n bosibl na fydd ymgeiswyr sy’n ysmygu yn ei chael hi’n hawdd paru â phlentyn o’i gymharu â rhywun nad yw’n ysmygu. Ni fydd plant o dan 5 oed, neu blentyn o unrhyw oedran â phroblemau anadlu neu broblemau cardiaidd neu anabledd yn cael eu lleoli gyda darpar fabwysiadwyr sy’n ysmygu. Rydym yn hapus i drafod hyn gyda chi, yn enwedig os ydych wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi er mwyn gwneud cais i fabwysiadu.

Er y gallai defnyddio e-sigaréts yn lle ysmygu tybaco beri llai o risg i iechyd yr unigolyn sy’n newid o un i’r llall, nid yw’r dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn cadarnhau eu bod yn gwbl ddiogel ac felly, o ganlyniad, bydd asiantaethau eisiau ystyried yr effaith neu’r risg bosibl i blant ac efallai y byddant yn dewis peidio â lleoli gyda mabwysiadwyr sy’n eu defnyddio.

Gallwch. Dim ond os yw’n effeithio ar eich iechyd neu’ch gallu i ofalu am blentyn fydd eich pwysau yn broblem. Bydd eich meddyg teulu yn cofnodi eich pwysau fel rhan o’r prawf meddygol yn ogystal ag unrhyw faterion sy’n ymwneud â ffordd o fyw.

Gallwch, yn sicr. Nid yw anableddau na’r rhan fwyaf o gyflyrau meddygol yn rhwystr i fabwysiadu. Bydd Ymgynghorwyr Meddygol yr Asiantaeth yn edrych ar y wybodaeth a ddarperir gan eich meddyg teulu a bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn trafod gyda chi sut y gallai hyn effeithio ar eich iechyd, ffordd o fyw a’ch gallu i fod yn rhiant. Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod yn ddigon iach i gefnogi plentyn i dyfu’n oedolyn.

Nid yw llawer o gyflyrau iechyd yn rhwystr i fabwysiadu, ac rydym yn croesawu trafodaethau am faterion iechyd. Yn ôl rheoliadau statudol, mae’n ofynnol i bob darpar fabwysiadydd gael archwiliad meddygol llawn gyda’i feddyg teulu, yna bydd Ymgynghorydd Meddygol eich asiantaeth yn rhoi cyngor ar unrhyw faterion a allai effeithio eich cais. Ein prif bryder yw bod gennych yr iechyd a’r egni sydd ei angen i fodloni anghenion plentyn hyd nes y bydd yn oedolyn.

Byddwn yn ystyried eich sefyllfa ariannol a’ch statws cyflogaeth, ond ni fydd derbyn incwm is neu fod yn ddi-waith yn eich gwneud yn ddigymwys yn awtomatig, cyn belled ag y gallwch ddarparu cartref sefydlog a diogel i blentyn.

Mae gan y rhan fwyaf o fabwysiadwyr hawl gyfreithiol i absenoldeb mabwysiadu a byddwn yn trafod gyda chi sut mae hyn yn gweithio a faint o amser y gallwch ei gymryd. Gofynnwn i chi ystyried anghenion eich plentyn wrth feddwl am ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb mabwysiadu. Rydym yn deall efallai y bydd angen i chi ddychwelyd am resymau ariannol, ond byddem yn awgrymu, ar gyfer y rhan fwyaf o blant, y bydd angen iddynt gael gofal cyson gan o leiaf un mabwysiadwr am gyfnod estynedig ar ôl eulleoli.

Nid oes angen i chi fod yn berchen ar eich cartref, ond mae angen i chi fod wedi setlo mewn llety diogel sy’n addas ar gyfer plentyn. Bydd hyn fel arfer yn golygu bod gennych ystafell wely sbâr a chynllun i aros yn eich cartref presennol am beth amser er mwyn sicrhau sefydlogrwydd i blentyn. Rydym yn edrych ar bob achos yn seiliadig ar eich amgylchiadau personol.

Mae rhai, er nid pawb, sy’n mabwysiadu wedi profi rhyw fath o ymchwiliad neu driniaeth anffrwythlondeb. Bydd gwasanaethau mabwysiadu yn awgrymu eich bod yn cymryd cyfnod o amser ar ôl eich triniaeth i addasu ac adfer yn emosiynol, cyn dechrau’r broses fabwysiadu. Mae hyn fel arfer tua 6 mis o hyd. Gall magu plant sydd wedi cael profiadau cynnar anodd fod yn heriol yn emosiynol ac felly nid yw bob amser yn addas ar gyfer darpar fabwysiadwyr sydd wedi cael profiad emosiynol arwyddocaol arall yn ddiweddar iawn.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd yn briodol i chi fabwysiadu plentyn dan eich gofal. Bydd angen i chi gael eich asesu i sicrhau eich bod yn addas i fabwysiadu. Siaradwch â gweithiwr cymdeithasol y plentyn a’ch gweithiwr cymdeithasol chi er mwyn iddyn nhw eich cynghori.

Am y broses

Mae’r ddwy yn asiantaethau mabwysiadu cofrestredig ac maent yn recriwtio, paratoi ac asesu darpar fabwysiadwyr. Yn wahanol i asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol, mae gwasanaethau mabwysiadu rhanbarthol hefyd yn ymwneud â chynlluniau gofal ar gyfer plant mewn gofal.

Gallwch gysylltu â mwy nag un asiantaeth am wybodaeth a chyngor, ond dylech wneud cais ffurfiol i un yn unig – naill ai drwy’r gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol ar gyfer eich ardal cyngor neu drwy wasanaeth mabwysiadu gwirfoddol. Mae pob asiantaeth yng Nghymru yn defnyddio’r un broses ar gyfer ceisiadau mabwysiadu ond mae’n bwysig eich bod yn teimlo’n gyfforddus gyda’r un yr ydych yn ymgeisio iddi.

Ni ddylai’r asesiad gymryd mwy na 6 mis. Rydym yn cydnabod bod pawb yn wahanol a gall rhai amgylchiadau unigol effeithio ar hyd y broses. Ein nod yw sicrhau eich bod yn cael eich hysbysu ar bob cam o’r ffordd ac yn gwybod yr hyn a ddisgwylir gennych a beth allwch chi ddisgwyl gennym ni o ran pa mor hir fydd pethau’n cymryd.

I’r rhai sydd wedi mabwysiadu o’r blaen neu sy’n ofalwyr maeth, ein nod yw crynhoi’r broses i amserlen fyrrach 4 mis o hyd. Efallai na fydd hyn yn bosibl bob amser, ond byddwn yn cydnabod y profiad sydd gennych eisoes o ofalu am blant sydd dan ofal yr awdurdod lleol.

Dylai plant wybod eu bod wedi’u mabwysiadu a phwy yw eu teulu biolegol bob amser. Cewch eich cefnogi i helpu’ch plentyn i ddeall hanes eu teulu mewn ffordd sy’n sensitif ac yn briodol i’w hoedran.

Weithiau, mae mabwysiadwyr yn cwrdd â rhieni biolegol y plentyn pan fydd pariad yn digwydd. Bydd hyn yn dibynnu ar anghenion y plentyn, amgylchiadau’r rhiant geni a’r hyn sydd orau i’r plentyn yn yr hir dymor.

Gyda rhai plant bydd angen cadw mewn cysylltiad â’u brodyr a’u chwiorydd neu aelodau arwyddocaol eraill o’r teulu.

Byddwn bob amser yn trafod hyn gyda chi ac yn ateb unrhyw bryderon sydd gennych. Byddai’r holl drefniadau a sefydlir yn ddiogel, heb fod yn fygythiol a dim ond yn digwydd pan fyddai orau i’r plentyn.

Nid ydym yn codi tâl i asesu na chymeradwyo mabwysiadwyr. Fodd bynnag, mae rhai costau i’w hystyried cyn i chi wneud ymholiad.

  • Eich archwiliad meddygol. Bydd cost prawf meddygol yn amrywio fesul practis meddygol a gall gostio rhwng £80 a £120. Gosodir y ffi yma gan feddygon teulu ac nid gan y gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru.
  • Costau gofal plant: gyda pob rhiant, mae yna bethau rydych chi eisiau ac angen eu prynu ar gyfer pan fydd eich plentyn yn cyrraedd i sicrhau bod eich cartref yn gyfforddus ac yn ddiogel. Efallai y byddwch hefyd yn gweld bod angen i chi wneud rhai newidiadau i’ch ffordd o fyw megis lleihau eich oriau gwaith er mwyn gofalu am eich plentyn, a allai effeithio ar lefel eich incwm gwario.

 

  • Ffi llys untro. Pan wneir cais mabwysiadu i’r llys, mae yna ffi llys untro. Os bydd dau neu fwy o blant mewn grŵp o frodyr a chwiorydd yn cael eu mabwysiadu ar yr un pryd, dim ond un ffi a godir. Mae llawer o awdurdodau lleol sy’n gofalu am y plentyn yn talu’r ffioedd llys ar ran y mabwysiadwyr, ac mewn llawer o sefyllfaoedd efallai y byddant hefyd yn ymrwymo i dalu unrhyw ffioedd cyfreithiol ychwanegol neu gostau llys, felly ni ddylai’r rhain fod yn gost i chi. Hyd yn oed os nad yw’r awdurdod lleol yn talu ffioedd y llys, os ydych ar fudd-daliadau penodol neu ar incwm isel, efallai y gallwch gael help gyda ffi’r llys. I gael rhagor o fanylion gweler Cymorth gyda thalu ffioedd llys a thribiwnlys – GOV.UK (www.gov.uk)

Na, mae’r broses fabwysiadu ar gyfer llys-rieni yn wahanol iawn. Gall eich gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol roi cyngor a gwybodaeth i chi ar fabwysiadu fel llys-riant.

Am y plant sy’n aros

Mae’n debygol y bydd plant sydd angen teuluoedd mabwysiadol newydd wedi profi plentyndod anodd ac felly’n wynebu rhai heriau a bydd angen cymorth arnynt i’w goresgyn. Maent yn debygol o fod naill ai’n fabanod a phlant bach, yn blant oed cynradd, yn frodyr a chwiorydd sydd angen aros gyda’i gilydd, neu ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau.

Bydd eich plentyn yn cymryd eich cyfenw chi pan fydd y Gorchymyn Mabwysiadu terfynol yn cael ei gadarnhau. Mewn rhai amgylchiadau, gall fod yn briodol i newid neu amrywio eu henw cyntaf ond gofynnwn i chi feddwl yn ofalus am yr effaith y gallai hyn ei gael ar y plentyn a’i hunaniaeth – ar y pryd ac yn y dyfodol. Bydd gweithiwr cymdeithasol yn gallu trafod hyn gyda chi.

Cefnogaeth mabwysiadu

Mae ein profiad yn dangos y gall teuluoedd mabwysiadol fod angen cymorth ar wahanol adegau dros y blynyddoedd. Dyna pam, yn ogystal â chymorth yn ystod y broses fabwysiadu, rydym yn cynnig cymorth i’n teuluoedd mabwysiadol ar ôl mabwysiadu am gyhyd ag y mae ei angen, a phryd bynnag y mae ei angen. Mae’r ystod o wasanaethau sydd ar gael yn cynnwys cyngor, cymorth ymarferol ac emosiynol, grwpiau, cymorth therapiwtig, cymorth ariannol a hyfforddiant. Darganfyddwch fwy am y gefnogaeth sydd ar gael i chi a’ch plentyn yma.

Mae sawl sefydliad sy’n cynnig llawer o gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol am fabwysiadu. Dyma rai ohonynt:

Adoption UK

Adoption UK yw’r unig elusen genedlaethol sy’n cael ei rhedeg gan ac ar gyfer rhieni mabwysiadol a gofalwyr maeth. Mae’n cynnig cymorth cyn, yn ystod, ac ar ôl mabwysiadu.

0844 8487900| www.adoptionuk.org

AFKA Cymru (Cymdeithas Maethu, Perthynas a Mabwysiadu)

Mae AFKA Cymru yn hyrwyddo arfer da ar draws ehangder cynllunio sefydlogrwydd ar gyfer plant a phobl ifanc a hynny trwy hyfforddiant ac ymgynghoriaeth.

029 20761155 neu 01745 336336 | www.afacymru.org

New Family Social

New Family Social yw’r unig elusen yn y DU a arweinir gan, ac sydd ar gyfer mabwysiadwyr a gofalwyr maeth LHDTC+ (lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol).

0843 289 9457 | www.newfamilysocial.org.uk

Mewn rhai achosion, gallwch wneud cais am Lwfans Mabwysiadu, er enghraifft pan fydd angen gofal arbennig neu gyfleusterau ar blentyn mabwysiadol i’w helpu i fyw bywyd llawn wrth iddynt dyfu. Efallai y bydd cymorth ariannol ar gael os ydych yn bwriadu mabwysiadu brodyr a chwiorydd.

Am y gwasanaeth

Caiff Asiantaeth Mabwysiadu Gwirfoddol ei sefydlu i weithio gyda darpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr cymeradwy yn yr un modd ag y mae’r gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol yn gwneud. Nid yw’r VAA yn gysylltiedig â’r awdurdod lleol, felly yn wahanol i’r gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol nid ydynt yn ymwneud â llunio cynlluniau gofal ar gyfer plant mewn gofal. Mae dau VAA yng Nghymru, sef Gwasanaeth Mabwysiadu Barnardo’s a Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant. Mae’r ddwy asiantaeth yn recriwtio ac yn cefnogi mabwysiadwyr ledled Cymru gyfan.

Ydy. Mae dwy Asiantaeth Mabwysiadu Gwirfoddol sy’n asesu darpar fabwysiadwyr yng Nghymru. Gallwch ymweld â Chymdeithas Plant Dewi Sant ar www.adoptionwales.org neu cysylltwch drwy ffonio 029 20667007. Gallwch ymweld â Barnardo’s ar www.barnardos.org.uk neu cysylltwch drwy ffonio 0800 054 6788.

Teulu

Y broses fabwysiadu

Darllenwch fwy am y broses fabwysiadu

Y broses fabwysiadu
Teulu

Cefnogaeth

Dod o hyd i'r gefnogaeth sy’n iawn i chi

Cefnogaeth
Teulu

Cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin