Natasha
Adopter, 43
He wasn't so concerned that it was just the three of us.
Natasha (43)
Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru
‘Rydych chi’n barod am rywfaint o hyn, ar adegau eraill fe all eich llorio chi’n llwyr.’
Aeth mam sengl Natasha ati i fabwysiadu trwy Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 2014. Gyda meddwl agored, ymchwiliodd Tasha i fabwysiadu yn drylwyr cyn iddi gychwyn ar y broses ar ei phen ei hun.
Mabwysiadodd Tasha, sy’n athrawes, frodyr a chwiorydd o dreftadaeth Gwlad Thai – merch dair oed a bachgen 20 mis oed – oherwydd ei bod yn gwybod bod bechgyn, plant lleiafrifol ethnig a brodyr a chwiorydd fel arfer yn aros yr hiraf i gael eu mabwysiadu.
Dyma eu stori nhw…
“Fel athrawes ac o brofiad yn fy nheulu fy hun, rwy’n ymwybodol y gallai plant, waeth beth fo’u hamgylchiad, dyfu i fyny â materion ymddygiad neu anghenion dysgu ychwanegol. Roeddwn yn ffodus yn y loteri DNA ac roeddwn eisiau cefnogi plentyn neu blant, a fyddai’n elwa o sefydlogrwydd.
“Gwneir yn glir yn gynnar iawn y bydd pob plentyn mabwysiedig yn amlygu ei drawma mewn un ffordd neu’r llall ar ryw adeg yn eu bywyd. Rydych chi’n barod am rywfaint o hyn, ar adegau eraill fe all eich llorio chi’n llwyr.”
“Fy merch oedd y mwyaf pryderus a hypersensitif o fy nau blentyn. Rwy’n credu, oherwydd ei bod hi’n hŷn pan aeth i ofal, mae ganddi fwy o atgof o esgeulustod. Roedd fy nheulu yn gwybod i fod yn fwy gofalus a rhoi sicrwydd ychwanegol iddi pan oedd hi’n dywyll neu pan oedd synau uchel – ond un peth na wnaethon ni baratoi ar ei gyfer yw pa mor bryderus oedd hi o falŵns ac unrhyw un yn canu Pen-blwydd Hapus.
“Ni allai ddweud wrthym pam, ond roedd yn storio cof na allwn ond dyfalu amdano. Fe achosodd iddi rewi a chrio neu ddod i redeg er mwyn cwtsio’n dynn arna i. Byddai rhieni eraill yn gofyn pam y gwnes i fynnu dod â hi i bartïon, ond doeddwn i ddim eisiau iddi golli allan na gorfod gofyn i’r dosbarth beidio â dathlu penblwyddi, felly buom yn gweithio gyda’n gilydd dros amser i’w helpu i ddod o hyd i strategaethau ymdopi. Nawr, mae hi wedi bod i ychydig o bartïon penblwyddi cysgu dros nos a bydd yn codi i ddawnsio mewn clwb plant ar wyliau – mae hi wedi dod yn bell.”
“Rwy’n cofio cael dadl gyfeillgar gyda gweithiwr cymdeithasol ynglŷn â mabwysiadu rhynghiliol a theimlo’n gryf am beidio â gadael i’r gwahaniaeth yn lliw ein croen fod yn rhwystr. Cefais fy herio ar hyn wrth i’r gweithiwr cymdeithasol dynnu sylw nad fi fyddai’r un sy’n tyfu i fyny yn wahanol.
“Mewn sawl ffordd roedd hi’n iawn, a diolch byth, rydyn ni wedi llywio’r sgyrsiau am ein gwahaniaethau yn hawdd. Mae gennym ffrindiau aml-ethnig ac yn aml mae’n hoffi tynnu sylw pan mai fi yw’r un rhyfedd allan yn y car neu ar wyliau teuluol.
“Mae’r byd yn cynnwys cymaint o wahanol deuluoedd ac mae cymdeithas a mabwysiadu wedi dal i fyny â’i gilydd. Nid yn unig y gwnaeth hynny hi’n haws i mi fel person sengl fabwysiadu, mae cael enghreifftiau i ddangos sut mae’r teulu niwclear amrywiol yn helpu fy mab i ddeall bod pawb yn wahanol. Y diwrnod o’r blaen gofynnodd i mi pryd yr oedd yn cael tad, oherwydd mae gan bawb un. Pan wnaethon ni ailedrych ar stori ei dad biolegol a dechrau mynd trwy’r rhestr o deulu a ffrindiau a oedd yn ddibriod, wedi colli partneriaid neu sydd mewn cyplau o’r un rhyw, nid oedd mor bryderus mai dim ond y tri ohonom ni ydoedd. ”