Os ydych yn LGBTQIA+ yng Nghymru FE ALLWCH fabwysiadu.
Rydym yn croesawu ymholiadau gan bawb, waeth beth fo’u cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd. Mewn gwirionedd, mae mabwysiadwyr LGBTQIA+ yn fwy tebygol o ddod at fabwysiadu fel eu dewis cyntaf na mabwysiadwyr heterorywiol.
Mae ymchwil yn dangos:
Bod ansawdd y berthynas rhwng rhiant a phlentyn pan gaiff plant eu mabwysiadu gan gyplau lesbiaidd neu hoyw yn union yr un fath â chyplau heterorywiol.
Nad yw datblygiad seicolegol a lles plant gaiff eu mabwysiadu gan gyplau lesbiaidd neu hoyw yn wahanol i gyplau heterorywiol.
Bod mabwysiadwyr LGBTQIA+ mewn sefyllfa dda i helpu plant i ddelio â gwahaniaeth ac mae’n debygol y bydd plant yn tyfu i fod yn oddefgar o wahaniaeth mewn eraill.
Nad yw plant sydd wedi eu mabwysiadu gan rieni LGBTQIA+ yn profi mwy o broblemau yn yr ysgol na gyda chyfeillgarwch, fel gyda phlant sydd â rhieni heterorywiol.
Pa gymorth sydd ar gael i fabwysiadwyr LGBTQ+?
Mae ein gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn agored i’n holl fabwysiadwyr. Os oes angen cymorth arnoch ar unrhyw gam o’r broses fabwysiadu, cysylltwch â’ch tîm cymorth mabwysiadu lleol.
Mae adnoddau pellach yn cynnwys:
New Family Social sy’n elusen yn y DU ar gyfer mabwysiadwyr LGBTQ+ a gofalwyr maeth sy’n darparu gwybodaeth am fabwysiadu a maethu LHDT+, cyfarfodydd aelodau, digwyddiadau, cymorth a gwasanaethau dod o hyd i deuluoedd.
Stonewall yw’r elusen lesbiaidd, hoyw a deurywiol ledled y DU, ac mae’n darparu gwybodaeth ac adnoddau am bob agwedd o fod yn riant gan gynnwys mabwysiadu.
Mae’r Canllaw i Fabwysiadu LGBTQ+ gan Wasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant yn adnodd amhrisiadwy i’r rhai sy’n cychwyn ar y daith fabwysiadu. Gyda mewnwelediadau twymgalon gan eiriolwyr, mae’r canllaw yn mynd i’r afael â phryderon, gan hyrwyddo cynhwysedd a chefnogaeth. Mae’n amlygu pynciau fel cofleidio amrywiaeth, llywio deinameg teulu, a herio normau cymdeithasol. Mae’r canllaw yn dathlu llwyddiant lleoli plant gyda rhieni LGBTQ+ wrth feithrin hyder, gwytnwch, ac ymdeimlad o berthyn.