Cyn-gam un
Cam 1
Gwnewch ymchwil
Mae mabwysiadu yn benderfyniad arwyddocaol. Os ydych yn ystyried mabwysiadu, dylech ddarllen ac ymchwilio cymaint â phosibl, er mwyn gwybod beth i’w ddisgwyl. Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol i’ch rhoi ar ben ffordd yma, gan gynnwys y pecyn ymarfer defnyddiol hwn i’ch helpu chi i ystyried sut hoffech chi fagu plant a pha gryfderau sydd gennych.
Cam 2
Dod o hyd i asiantaeth
Gallwch ddewis mabwysiadu gyda’r gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol sy’n lleol i chi, neu gydag asiantaeth fabwysiadu wirfoddol sy’n gwasanaethu Cymru gyfan. Gallwch ddod o hyd i’ch asiantaeth leol yma.
Dod o hyd i asiantaethCam 3
Gwnewch ymholiad cychwynnol
Bydd eich asiantaeth ddewisol yn rhoi gwybodaeth ysgrifenedig fanwl i chi ac yn cynnig cyfarfod cychwynnol er mwyn trafod yr hyn y mae’r broses yn ei olygu a rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau. Bydd hyn yn digwydd o fewn 10 diwrnod gwaith i’ch ymholiad a gall gael ei gynnal yn eich cartref, yn swyddfa’r asiantaeth neu dros y ffôn. Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i fynychu digwyddiad gwybodaeth gyda phobl eraill sydd â diddordeb mewn mabwysiadu.
Cam 4
Llenwch Ffurflen i Gofrestru eich Diddordeb
Os hoffech ddechrau’r broses fabwysiadu yn ffurfiol ar ôl eich cyfarfod cyntaf a’r digwyddiad gwybodaeth, cewch ffurflen Cofrestru Diddordeb i’w chwblhau a’i dychwelyd.
Pan dderbynnir eich ffurflen, caiff gweithiwr cymdeithasol ei neilltuo i chi a fydd yn dechrau eich asesiad cyn gynted â phosibl. Os na allwn dderbyn eich cais am ryw reswm, caiff y rhesymau eu trafod gyda chi, a cewch wybod pa gamau y gall fod angen i chi eu cymryd er mwyn cael eich ystyried fel mabwysiadwr yn y dyfodol.