Cam dau

dwy fenyw a chath ar y soffa

Cam 1

Eich hanes a phrofiadau bywyd

Bydd cam dau yn golygu y bydd gweithiwr cymdeithasol yn ymweld â chi yn eich cartref yn rheolaidd i drafod eich cryfderau a’ch sgiliau, eich profiadau wrth dyfu i fyny a sut rydych wedi delio ag unrhyw heriau neu straen yn eich bywyd.

Os ydych wedi bod mewn perthynas hirdymor o’r blaen, neu wedi gofalu am blant mewn perthynas flaenorol, bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn trafod hyn gyda chi ac efallai yn gofyn i siarad â’ch partner blaenorol. Bydd hyn ond yn digwydd gyda’ch caniatâd chi ac ni fydd yn digwydd os yw’n debygol o achosi unrhyw loes i chi, eich teulu, neu’ch cyn bartner.

Os oes gennych chi blant, naill ai’n byw gyda chi neu’n byw yn rhywle arall, bydd angen eu cyfweld nhw hefyd neu, yn dibynnu ar eu hoedran, gael eu gweld gyda chi.

Gall hyn i gyd ymddangos yn eithaf brawychus, ond bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn sicrhau y caiff pob tasg ei chyflawni gyda sensitifrwydd.

Y diben ar y cam hwn yw ystyried eich addasrwydd cyffredinol, y mathau o blant sydd fwyaf addas i chi ofalu amdanynt, ac asesu eich anghenion cymorth personol.

Dau berson yn rhoi pump uchel i'w gilydd

Cam 2

Y Panel Mabwysiadu

Unwaith y bydd yr asesiad wedi’i gwblhau, bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn ysgrifennu adroddiad fydd yn amlinellu eich cryfderau fel mabwysiadwr ac yn cyflwyno hwn i Banel Mabwysiadu annibynnol. Mae’r panel yn cynnwys mabwysiadwyr profiadol a phobl sydd â gwybodaeth am feysydd mabwysiadu perthnasol yn ogystal â Chynghorydd Meddygol.

Byddant yn ystyried yr holl wybodaeth a gasglwyd yn ystod y broses asesu ac yn gwneud argymhelliad am eich addasrwydd i ddod yn rhiant mabwysiadol i’r sawl yn yr asiantaeth sy’n gwneud y penderfyniad.

Byddwch yn cael gweld yr adroddiad, yn cael cyfle i roi sylwadau arno ac i fynychu’r panel.

Dau berson yn gosod blanced ar y llawr yn yr ardd

Cam 3

Eich paru â phlentyn

Unwaith y byddwch wedi’ch cymeradwyo i fabwysiadu, byddwn yn dechrau chwilio am blentyn y byddwch yn gallu diwallu ei anghenion. O bryd i’w gilydd, bydd gan eich asiantaeth blentyn mewn golwg yn barod, a gall hyn wneud y broses baru yn un llawer cynt i chi a’r plentyn.

Gellir dod o hyd i bariad addas mewn sawl ffordd:

  • Trwy Gofrestr Fabwysiadu Cymru. Cewch eich annog i roi eich manylion ar y gofrestr ar ôl i chi gael eich cymeradwyo. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn esbonio sut mae’r gofrestr yn gweithio a sut i’w defnyddio.
  • Trwy Ddiwrnod Gweithgareddau Mabwysiadu. Cynhelir y digwyddiadau hyn yn flynyddol ac maent yn rhoi mwy o wybodaeth am y plant sy’n aros am deulu ledled Cymru.
  • Trwy Ddigwyddiadau Proffilio lleol, rhanbarthol neu genedlaethol. Yma, rhennir eich manylion chi a manylion plant mewn amgylchedd diogel a chyfrinachol.

Pan fydd eich asiantaeth yn dod o hyd i blentyn y mae’n meddwl sy’n addas i chi, bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn cyfnewid gwybodaeth gyda gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Dyma’ch cyfle i ddarganfod mwy am y plentyn. Byddwch yn gweld fideo neu luniau ohonyn nhw ac yn cael cwrdd â’r bobl allweddol yn eu bywyd, fel eu gofalwr maeth presennol. Unwaith y bydd gennych yr holl wybodaeth am y plentyn a’ch bod yn teimlo’n barod i symud ymlaen, bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn cyflwyno’r pariad i’r panel mabwysiadu.

dau berson a phlentyn yn mwynhau hufen iâ

Cam 4

Cyfarfod eich plentyn

Ar ôl i’ch pariad gael ei gymeradwyo gan yr asiantaeth sy’n gyfrifol am y plentyn, y cam nesaf yw’r mwyaf cyffrous o bosib, sef cyfarfod â’ch plentyn am y tro cyntaf! Byddwch yn dod i adnabod eich gilydd trwy gyfres o ymweliadau rhagarweiniol. Yna, pan fyddwch chi i gyd yn barod, byddan nhw’n symud o’u teulu maeth i ymuno â chi yn eich cartref. Wrth gwrs, pan fydd eich plentyn neu blant yn symud i mewn, bydd cyfnod o ymgartrefu ac addasu, ac yn ystod y cyfnod hwn bydd yr asiantaeth yn parhau i ymweld â chi a’ch cefnogi.

Dau berson a phlentyn yn edrych ar arwydd

Cam 5

Gorchymyn Mabwysiadu

Ar ôl lleiafswm o 10 wythnos, gallwch wneud cais i’r llys am Orchymyn Mabwysiadu i wneud y mabwysiadu’n gyfreithlon. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol a gweithiwr cymdeithasol y plentyn yn eich helpu i benderfynu pryd yw’r amser iawn i wneud y cais. Pan fydd y llys yn caniatáu’r Gorchymyn Mabwysiadu bydd yr holl gyfrifoldeb cyfreithiol fel rhiant yn cael ei drosglwyddo i chi a bydd y plentyn yn cymryd eich cyfenw. Ar ôl caniatáu’r gorchymyn mabwysiadu bydd gweithwyr cymdeithasol yn parhau i roi help llaw i chi. Byddant yn gallu rhannu nifer o strategaethau cymorth a chefnogaeth emosiynol gyda chi am gyhyd ag y byddwch ei angen.

NAS logo

Cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin am fabwysiadu

Cwestiynau cyffredin
NAS logo

Cymorth

Cymorth ar ôl Mabwysiadu

Cymorth