Cam un

Family playing in the garden

Cam 1

Gwiriadau a chanolwyr

Mae cam un yn cychwyn gyda gwiriadau statudol a geirdaon gyda’r awdurdodau a phobl rydych yn eu hadnabod. Mae hyn yn cymryd 2 fis.

Bydd eich asiantaeth yn cysylltu â’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, yr heddlu, eich awdurdod lleol, a’ch cyflogwyr (lle bo’n briodol). Bydd gofyn i chi roi manylion o leiaf dri pherson sy’n gallu rhoi sylw ar eich addasrwydd i fabwysiadu, a gofynnir i chi hefyd gael asesiad meddygol a gaiff ei rannu â Chynghorydd Meddygol yr asiantaeth.

Two people talking in the kitchen

Cam 2

Hyfforddiant paratoi cyn mabwysiadu

Bydd eich asiantaeth yn gofyn i chi gwblhau hyfforddiant i’ch paratoi ar gyfer yr heriau a’r adegau gwerth chweil sydd ynglwm wrth fabwysiadu plentyn sydd wedi bod mewn gofal. Os ydych yn gwpl, bydd disgwyl i’r ddau ohonoch fynychu pob un o’r sesiynau a gynhelir gan yr asiantaeth. Mae’r hyfforddiant hefyd yn gyfle i gwrdd a siarad â darpar fabwysiadwyr eraill a phobl sydd wedi mabwysiadu.

A family getting ready for food at a table

Cam 3

Symud ymlaen i gam 2

Unwaith y bydd yr asiantaeth wedi casglu’r holl wybodaeth angenrheidiol a thrafod eich cais gyda chi, bydd yn penderfynu ar eich dilyniant i Gam 2. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn rhoi gwybod i chi beth yw penderfyniad yr asiantaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Family on the swings

Cam dau

Gwybodaeth am gam 2

Cam dau
Family walking in the park

Cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin am fabwysiadu

Cwestiynau cyffredin