Gwybodaeth ar gyfer Gwefan

Two boys walking along a path alongside a river Two boys walking along a path alongside a river

Stori Adam a Louise

Mae Louise ac Adam yn rhieni mabwysiadol i ddau fachgen bach gwych, Jack, 3 oed a George, 8 mis oed. Mae eu taith yn unigryw, gan eu bod yn un o'r teuluoedd cyntaf yng Nghymru i gefnogi plentyn drwy Sefydlogrwydd Cynnar Cymru. Ar ôl mabwysiadu Jack trwy'r llwybr mabwysiadu traddodiadol, roedd Louise ac Adam bob amser o'r farn bod gan eu teulu fwy o le i dyfu ac felly pan gysylltodd eu cydweithfa fabwysiadu â nhw yn 2022 i ddweud bod mam fiolegol Jack yn disgwyl plentyn arall, gofynnwyd iddynt ystyried SCC. Mae Louise ac Adam wedi bod yn ddigon caredig i rannu eu taith, gan roi cipolwg gwerthfawr ar eu profiadau o SCC fel mabwysiadwyr ail dro

Stori Adam a Louise
Two boys walking along a path alongside a river

Rhywun Newydd:  Stori Sefydlogrwydd Cynnar Cymru ar gyfer Brodyr a Chwiorydd

Mae Rhywun Newydd yn llyfr am Sefydlogrwydd Cynnar Cymru, wedi’i adrodd trwy lygaid Seren, merch fach bedair oed a fabwysiadwyd gan ei Mam pan oedd hi’n ddwy oed. Yn y llyfr mae Mam Seren yn dod yn ofalwr SCC ac mae’r stori’n canolbwyntio ar bersbectif Seren gan archwilio ei meddyliau, ei theimladau a’i dealltwriaeth wrth i Megan ymuno â’r cartref.

Mae’r stori wedi’i chynllunio ar gyfer gofalwyr SCC i’w rhannu gyda’u plant presennol, boed yn blentyn geni neu’n blentyn mabwysiedig, i’w helpu i ddeall y broses SCC a chefnogi teuluoedd yn eu paratoadau  i ofalu am blentyn o dan gynllun sefydlogrwydd cynnar.

Gobeithio y bydd clywed stori Megan a Seren yn rhoi sicrwydd i’r plant bod hwn yn bwnc y gellir ei drafod yn agored gyda’u rhieni a gadael iddyn nhw wybod ei fod yn normal teimlo’n ansicr am blentyn newydd yn ymuno â’r teulu a dechrau meddwl am realiti sut allai hynny edrych a theimlo nawr ac yn y dyfodol. Mae Llyfr Gweithgareddau yn cyd-fynd â’r Llyfr Stori, y gallwch ei gwblhau gyda’ch plentyn i’w helpu i ddysgu a deall.

Llyfr Stori

Llyfr Stori

Llyfr Stori
Llyfr Gweithgareddau

Llyfr Gweithgareddau

Llyfr Gweithgareddau

Cefnogi Eich Plentyn

Cliciwch yma i gael gwybodaeth ychwanegol allai eich helpu wrth drafod rhai o elfennu mwy cymhleth Cynllun Sefydlogrwydd Cynnar Cymru gyda’ch plentyn. Rydym yn gobeithio y bydd darllen y tudalennau hyn cyn i chi ddarllen ‘Rhywun Newydd’, gyda’ch plentyn, yn eich helpu i deimlo’n fwy parod i ateb cwestiynau eich plentyn mewn ffordd sy’n fwyaf addas i’w anghenion unigol.