Modiwl e-ddysgu ar fabwysiadu ar gyfer ymarferwyr iechyd ac addysg
Modiwl e-ddysgu ar fabwysiadu ar gyfer ymarferwyr iechyd ac addysg
Mae’r modiwl hwn sydd wedi’i recordio wedi’i gynllunio ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio ym maes iechyd ac addysg i ddarparu rhywfaint o fanylion am rôl mabwysiadu mewn cynllunio sefydlogrwydd, sut mae’n cael ei gyflwyno yng Nghymru, a sut y gallwch gefnogi plant a theuluoedd orau yn eich cyd-destun.
Bydd plant mabwysiedig wedi profi trawma yn eu bywydau cynnar a byddant yn parhau i fod angen cymorth gofalus i deimlo’n ddiogel ac i feithrin eu datblygiad. Fel gweithwyr proffesiynol addysg a gofal iechyd, gall eich ymagwedd at gefnogi a gofalu am blentyn mabwysiedig a’u teulu wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau.
Mae’r modiwl ar gael ar YouTube ac mae’n para tua 1 awr a 30 munud; ond gellir ei gyrchu mewn modd hyblyg i weddu i’ch anghenion dysgu.