Canllawiau a'r Pecyn Cymorth Cyswllt

Cyflwyno’r canllawiau a’r pecyn cymorth cyswllt

Mae cynllunio ar gyfer cyswllt i blant mewn lleoliad parhaol yn broses ddeinamig, yn hytrach na digwyddiad untro’ (Neil, 2015).

Gwyddom o waith ymchwil ei bod yn bwysig, er lles emosiynol plant a’u hymdeimlad o hunaniaeth, iddynt gael gwybodaeth am eu teulu biolegol ac o ble maen nhw’n dod. Lle mae’n ddiogel gwneud hynny, gall cynnal rhyw fath o berthynas â pherthnasau biolegol plant mabwysiedig gefnogi anghenion cynyddol y plant o ran eu hunaniaeth. Hanfodol yw sicrhau bod gan bob plentyn sydd wedi’i roi i’w fabwysiadu gynllun yn unol â’i anghenion, a all newid dros amser yn ôl yr angen, er mwyn ei helpu i ddeall ei hunain a’i hunaniaeth yn well.

Mae angen i waith cynllunio cyswllt ar gyfer plant sydd â chynllun mabwysiadu ddechrau cyn gynted â phosibl, ond dylid cadw anghenion hirdymor y plentyn mewn cof ac nid dim ond ei sefyllfa bresennol.

Mae’r templed a’r nodiadau cyfarwyddyd wedi’u cynllunio i’w defnyddio ochr yn ochr â’r cyfarwyddyd cynhwysfawr yng Nghanllawiau Arfer Da’r GMC, yn enwedig yr un sy’n trafod Cyswllt ynghyd â’r rhai ‘Gweithio gyda Rhieni Biolegol’ a ‘Cymorth Mabwysiadu’ ac offeryn cynllunio cyswllt cysylltiedig y GMC. Y bwriad yw y byddant yn cael eu defnyddio i gynorthwyo gwaith cynllunio a gwneud penderfyniadau ar yr adeg pan fydd opsiynau sefydlogrwydd yn cael eu hystyried gyntaf ar gyfer plentyn.

Lawrlwythwch isod