Newyddion

Dyddiad i’r Dyddiadur: Arolwg Baromedr Mabwysiadu 2026

Dyddiad i’r Dyddiadur: Arolwg Baromedr Mabwysiadu 2026

Bydd yr arolwg ar gyfer Baromedr Mabwysiadu blynyddol Adoption UK yn mynd yn fyw ddydd Mawrth 6 Ionawr tan ddydd Llun 9 Chwefror. Bellach yn ei 8fed flwyddyn, mae’r adroddiad Baromedr Mabwysiadu yn garreg filltir flynyddol yn y calendr, gan adlewyrchu barn miloedd o bobl sydd â phrofiad bywyd o fabwysiadu a gwthio’r agenda bolisi ymlaen ym mhob un o bedair gwlad y DU.

 

Eleni, rydym yn cynnal arolwg tynnach, byrrach gyda mwy o ffocws i ddarpar fabwysiadwyr, rhieni mabwysiadol sydd â phlant 0-25 oed, a phlant mabwysiedig 16+ oed. Ni ddylai gymryd mwy na 10-15 munud i’w gwblhau a bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yn ein Diweddariad Baromedr Mabwysiadu 2026 yr haf nesaf.

 

Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu’r ddolen i’r arolwg trwy eich sianeli cyfathrebu ac unrhyw gylchlythyrau sydd wedi’u trefnu ar gyfer Rhagfyr, Ionawr neu ddechrau mis Chwefror: https://www.surveymonkey.com/r/AdoptionBarometer2026