News

Cyd-gadeirydd Annibynnol Newydd ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru

Cyd-gadeirydd Annibynnol Newydd ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi penodiad Dr Carolyn Sampeys fel cyd-gadeirydd annibynnol newydd ei Fwrdd Llywodraethu.

Yn gyn gynghorydd proffesiynol arweiniol y GIG ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, maethu a mabwysiadu yng Nghymru, mae Dr Sampeys wedi gweithio gyda phlant a rhieni mabwysiadol yng Nghymru fel ymgynghorydd pediatrig a meddygol ochr yn ochr â gwneud gwaith ymchwil, datblygu a chynghori ledled y DU gan gynnwys gyda’r BAAF gynt a Coram BAAF.

Mae Dr Sampeys yn ymuno â’r GMC wrth iddo ddathlu 10 mlynedd ers ei sefydlu yn ddiweddarach eleni.  Dywedodd y cyd-gadeirydd annibynnol sy’n gadael, Mr Phil Hodgson MBE: “Mae wedi bod yn fraint anhygoel cael bod yn rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ac yn rhan o’r twf a gwelliant sylweddol sydd wedi bod o fudd i blant mabwysiedig, eu rhieni ac eraill y mae mabwysiadu wedi effeithio arnynt.   Rwy’n dymuno’n dda i’r gwasanaeth, a phawb sy’n gweithio ynddo, ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Dr Sampeys, “Rwy’n falch iawn o ymuno â’r Bwrdd Llywodraethu fel Cyd-gadeirydd Annibynnol. Trwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi hyrwyddo mabwysiadu a gwella canlyniadau ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal.  Ar ôl bod yn rhan o Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru ers ei sefydlu, rwy’n falch iawn o’i chyflawniadau. Edrychaf ymlaen at weithio ar y cyd â’r sector statudol a gwirfoddol a phawb y mae mabwysiadu’n effeithio arnynt, i wella ansawdd gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru ymhellach.”

Hoffai’r gwasanaeth ddiolch o galon i Phil am ei stiwardiaeth hyd yma gan edrych ymlaen at weithio gyda Carolyn yn ei rôl newydd.