Newyddion
Baromedr Mabwysiadu 2025
12 Medi 2025
Y Baromedr Mabwysiadu yw’r unig drosolwg cynhwysfawr, cenedlaethol ledled y DU o fabwysiadu, gan ddefnyddio mewnwelediadau o arolwg blynyddol mawr o fabwysiadwyr a’r rhai sydd wedi cael eu mabwysiadu, ochr yn ochr â gwerthusiad o bolisïau mabwysiadu’r llywodraeth. Mae’n darparu tystiolaeth werthfawr am realiti mabwysiadu a chael eich mabwysiadu.
Er ein bod yn cael ein calonogi gan yr adborth cadarnhaol ynghylch gwasanaethau i fabwysiadwyr newydd yng Nghymru, rydym yn cydnabod bod mwy i’w wneud o hyd i sicrhau bod teuluoedd mabwysiadol yn cael y gefnogaeth gyson ac wedi ei theilwra sydd ei hangen arnynt.
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio ar y cyd ar draws y sector i ddatblygu’r cryfderau hyn a sbarduno gwelliannau ystyrlon i bawb sy’n ymwneud â mabwysiadu. Cliciwch ar y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth: