Bydd plant mabwysiedig yn dod i gysylltiad â gwasanaethau iechyd mewn amrywiaeth o ffyrdd ac oherwydd y trawma maen nhw wedi’i brofi yn eu bywydau cynnar, bydd angen iddyn nhw ddefnyddio gwasanaethau a ddarperir gan staff gofal iechyd sy’n ymwybodol o drawma a mabwysiadu. Felly, mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi datblygu’r llyfrynnau byr hyn (sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg) fel rhan o’i Fframwaith Cymorth Mabwysiadu; i godi ymwybyddiaeth o fabwysiadu ymhlith ymarferwyr gofal iechyd fel y gallant ddeall a chefnogi anghenion plant mabwysiedig a’u teuluoedd yn well.