Blog
Dweud y Gwir yn Blaen… Podlediad gwobrwyog!
17 Hydref 2024
Enillodd Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu wobr Arian Podlediadau Prydeinig yn y categori Rhianta. Dyma Ellie-Rose, un o’r cyfranwyr ifanc o ddiweddglo cyfres dau, yn rhannu ei phrofiad o gynhyrchu’r podlediad a mynychu’r seremoni wobrwyo fawreddog yn Llundain!
Creu’r Podlediad
Ar ddechrau 2023, fe wnes i ymuno â rhai ffrindiau agos o’r grwpiau Connect a Connected i gynhyrchu’r bennod Pobl Ifanc Piau Hi ar gyfer podlediad Dweud y Gwir yn Blaen.
Roedd gan y bennod hon arwyddocâd arbennig i mi gan mai dyma’r tro cyntaf i fi drafod fy siwrnai fabwysiadu bersonol yn agored. Y tu hwnt i rannu fy stori, ro’n i’n awyddus i daflu goleuni ar bwnc mabwysiadu i’n gwrandawyr.
Roedd yn gyfle da i gynnig llwyfan i oleuo eraill am fabwysiadu ond hefyd yn rhoi hwb i fy hyder i ymchwilio i bynciau dyfnach.
Chwalu Mythau am Fabwysiadu
Camsyniadau mabwysiadu? Mae’n bwysig i drafod am fod gormod yn camddeall y profiadau hyn.
Trwy ein straeon unigryw, rwy’n gobeithio ein bod ni’n herio camsyniadau. Nid yw mabwysiadu yn golygu ‘drwg’ neu ‘anlwcus’.
O’r podlediad, rwy’n gobeithio gall pobl ddeall hyn: er y gallai’r rhai sy’n cael eu mabwysiadu wynebu heriau unigryw fel materion ymlyniad, rydyn ni’n union fel pawb arall. Ry’n ni’n ‘normal’.
Y Noson Wobrwyo
Roedd cael mynd i seremoni Gwobrau Podlediadau Prydeinig yn gyfle i hyrwyddo ein podlediad. Nid oedd yn ymwneud â dathlu ein llwyddiannau yn unig; roedd yn dyst i’r ymroddiad y tu ôl i bob pennod. Ro’n i’n teimlo mor falch dros bawb.
Ro’n i’n edrych ymlaen at weld lle roedd Dweud y Gwir yn Blaen ymhlith y cystadleuwyr eraill.
Pan gyrhaeddais y lleoliad, ro’n i ychydig yn nerfus gan mai fi oedd yr unig un yno o’r criw podlediad, ond ro’n i’n gyffrous iawn hefyd. Roedd llawer o bobl ar y ciw carped coch i fynd i mewn, ac roedd gen i bili palas yn fy stumog.
Ond unwaith i fi gamu y tu mewn – gyda chymorth gwydraid o prosecco a roddwyd i ni ar ôl cyrraedd – dechreuais deimlo’n fwy cyfforddus. Roedd clustogau ar hyd y waliau gyda gwaith celf y podlediadau a enwebwyd ar eu cyfer. Roedd gweld ein clustog Dweud y Gwir yn Blaen ni yn anhygoel.
Cipio’r Arian!
Mewn categori yn llawn chwe podlediad enwog, roeddwn i yno’n ymdrochi yn y profiad, heb ragweld buddugoliaeth. Cyhoeddwyd y wobr efydd, ac nid ni chafodd ein henwi. ‘O wel,’ meddyliais. ‘Dim gwobr, ond ry’n ni gyd wedi gwneud mor wych beth bynnag’.
Ond wedyn, waw! Pan gafodd ‘Dweud y Gwir yn Blaen’ ei henwi’n enillydd y wobr arian, fe wnes i droi at fy nhîm â gwên enfawr – roedd yn teimlo’n swreal. Ar ben y byd! Doedd gen i ddim geiriau.
Yn y gwobrau, roedd llawer o enwogion adnabyddus yn crwydro o gwmpas. Fe wnes i gyfarfod â Mark a Roxanne (LadBaby) a Sam Thompson o Made in Chelsea.
Fy hoff ran o’r noson yn amlwg oedd derbyn ein gwobr, ond uchafbwynt personol oedd cael lluniau gyda LadBaby. Ro’n i’n gyffrous iawn pan welais i nhw a gofyn i gael tynnu rhai lluniau gyda nhw. Roedden nhw mor ddiffuant ac yn gwneud i mi deimlo’n gartrefol iawn ac yn falch o’r hyn yr oeddwn wedi’i gyflawni.
Tua diwedd y seremoni, cawsom ein gwobr a thynnu rhai lluniau ar y carped pinc. Roedd yn teimlo’n swreal iawn ond yn anhygoel, i gyd ar yr un pryd. Roeddwn i’n teimlo fel rhywun enwog ac roeddwn i’n meddwl ‘Ai dyma sut beth yw e?’
Pan ddywedais wrth bobl yn y digwyddiad am beth oedd ein podlediad, roedden nhw’n meddwl ei fod yn hynod ddiddorol. Fe ofynnon nhw lawer o gwestiynau am fabwysiadu, y podlediad ei hun, a phwy oedd yn rhan ohono.
Wnes i hefyd fachu socials y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol am y noson, gan rannu fy mhrofiad yn fyw o’r gwobrau, a oedd yn hwyl! Byddwn wrth fy modd yn gwneud rhywbeth fel hyn eto… Felly, beth am wneud cyfres tri, Dweud y Gwir yn Blaen?
Gwrandewch ar Ellie a phobl ifanc eraill yma.