Blog

Cyfryngau Cymdeithasol: Dewch i drafod

Rhan Un – Diogelu

I unrhyw riant, mae bod yn ymwybodol o’ch presenoldeb cyfryngau cymdeithasol a phwy sydd â mynediad at unrhyw ddelweddau o’ch plentyn o’r pwys mwyaf, ac mae hyn yn arbennig o wir yn achos rhieni mabwysiadol.

Mae gwneud cysylltiadau cymdeithasol newydd bellach yn haws nag erioed, a allai gael effaith enfawr ar y rhai sydd wedi bod yn rhan o’r broses fabwysiadu.

Gwnaethom siarad â gweithwyr cymdeithasol, Sarah a Sandra, a roddodd rai awgrymiadau i ni ar sut i gadw’ch hun yn ddiogel ar gyfryngau cymdeithasol, siarad â’ch plentyn am gyfryngau cymdeithasol, a’r offer ymarferol y gallwch eu defnyddio i fonitro defnydd cyfryngau cymdeithasol eich plentyn.

 

Ble i ddechrau?

Mae llywio sgyrsiau am gyfryngau cymdeithasol yn aml yn faes dyrys, nid yn unig oherwydd y datblygiadau cyson, yr algorithmau a rhwyddineb cysylltu â phobl, ond hefyd oherwydd sefydlogrwydd ein hôl troed digidol.

I ddechrau, mae’n bwysig sicrhau bod eich gosodiadau diogelwch yn gyfredol a’ch bod yn ymwybodol o unrhyw ddiweddariadau ap a allai newid eich gosodiadau heb yn wybod i chi. Weithiau gall diweddariadau i lwyfannau cymdeithasol olygu bod prosesau diogelu yn cael eu hepgor a gellir cysylltu rhwng plant mabwysiedig a theuluoedd genedigaeth.

Pam ei fod yn bwysig?

Mae cyfryngau cymdeithasol yn rhan anochel o fywyd unrhyw riant. Ni fu erioed yn haws cael cyfrif a rhannu eich stori fabwysiadu. Mae hefyd yn hawdd cadw’ch plentyn yn ddiogel, ar yr amod eich bod chi’n deall sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gweithio ac yn cynnal gwybodaeth dda o arferion gorau.

Fel rhiant mabwysiadol, rydych chi’n gwybod cefndir eich plentyn a’r ffactorau risg y mae’n hawdd eu hadnabod ar-lein. Efallai y byddwch yn dewis bod ychydig yn fwy agored ar eich cyfrif personol, ac efallai na fydd angen rhai o’r materion a drafodwn isod ar gyfer eich sefyllfa.

Os oes gennych blentyn iau, mae’n debygol y byddwch yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol am gryn amser cyn ei bod yn briodol iddynt gael eu cyfrif eu hunain. Mae hyn yn newyddion gwych o ran siarad â’ch plentyn am ei gyfrifon personol yn y dyfodol, gan ei fod yn golygu y byddwch yn defnyddio’r holl fesurau diogelu i’w cadw’n ddiogel ac yn gallu gosod enghraifft wirioneddol wych o’r cynnwys sy’n briodol ar gyfer sianeli cymdeithasol.

Felly, beth ddylech chi fod yn ei wneud?

Mae’n debyg eich bod eisoes yn gwybod hanfodion cadw’n ddiogel ar-lein, fel gosod eich proffil yn breifat ac osgoi cyhoeddi delweddau o’ch plentyn – ond beth arall allwch chi ei ystyried?

Cadw’ch hun yn anhysbys:

Yn bennaf, mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o ba rannau o’ch proffil sy’n hygyrch i bobl nad ydynt ar eich rhestr ffrindiau. Er y bydd newid eich proffil yn breifat yn atal eraill rhag gallu gweld y rhan fwyaf o’ch cynnwys, gwiriwch ddwywaith bod pethau fel eich lluniau clawr, lluniau proffil a lluniau wedi’u tagio yn breifat.

Mae hefyd yn werth ystyried pa mor adnabyddadwy yr hoffech chi fod yn eich llun proffil a’ch llun clawr, yn enwedig os ydych chi wedi cwrdd â rhieni biolegol eich plentyn cyn i’r mabwysiadu ddigwydd. Efallai yr hoffech chi hefyd newid enw’ch proffil i rywbeth nad yw mor hawdd ei chwilio gan bobl nad ydyn nhw’n eich adnabod chi ond sy’n gadael i’ch ffrindiau a’ch teulu wybod am y newid.

Cadw’ch plentyn yn anhysbys:

Mae llawer o rieni mabwysiadol yn teimlo’n fwy diogel trwy ddefnyddio llysenw yn lle enw cyntaf eu plentyn wrth gyfeirio atynt ar gyfryngau cymdeithasol. Mae cymryd y dull hwn ac osgoi unrhyw ddelweddau adnabyddadwy o’ch plentyn yn un o’r ffyrdd mwyaf diogel i sicrhau ei fod yn cael ei amddiffyn ar-lein.

Os hoffech i hunaniaeth eich plentyn aros yn hollol ddienw, byddwch yn ymwybodol o unrhyw deganau wedi’u personoli, ffotograffau teulu, ffotograffau ysgol, lluniau grwpiau gweithgaredd neu nodweddion adnabod eraill yng nghefndir delweddau.

Beth sy’n briodol?

Efallai y bydd gan lawer o blant sydd bellach yn oedolion deimladau niweidiol am y delweddau o’u blynyddoedd ffurfiannol yn cael eu rhannu ar-lein gan eu rhieni. Mae cydsynio yn hanfodol, ac mae Sarah a Sandra yn annog pob rhiant i stopio a meddwl a fyddai eu plentyn yn hapus gyda delwedd benodol yn cael ei rhannu pan fyddant yn ddigon hen i gael cyfrif cyfryngau cymdeithasol eu hunain.

Byddwch yn ofalus gyda’ch arferion chwilio:

Mae hefyd yn bwysig cofio bod llwyfannau fel Facebook ac Instagram yn argymell ffrindiau a dilynwyr yn seiliedig ar gyfrifon rydych chi’n edrych arnyn nhw. Felly, efallai y byddwch chi’n dod i fyny fel ffrind a awgrymir os ydych chi’n treulio amser yn chwilio am dudalennau cyfryngau cymdeithasol rhiant biolegol.

Beth i’w wneud os ydych chi’n ansicr:

Er nad yw cyswllt â rhieni biolegol bob amser yn rhywbeth i’w osgoi, mae’n bwysig bod hyn yn cael ei wneud mewn amgylchedd rheoledig, gyda chaniatâd y ddau barti. Bydd cynlluniau cyswllt yn eich cynorthwyo i ystyried y math gorau o gyswllt ar gyfer eich plentyn a dylid eu trafod â gweithiwr mabwysiadu proffesiynol fel eich bod yn teimlo’n hyderus bod yr hyn rydych chi’n cytuno iddo yn teimlo’n gyffyrddus i chi ac yn hylaw yn y tymor hwy. Nid yw dulliau a wneir o gyfryngau cymdeithasol yn tueddu i gynnig y ddau beth hyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch beth arall y gallech fod yn ei wneud i amddiffyn eich plentyn ar-lein, neu os ydych chi’n poeni am ryngweithio cymdeithasol – byddem yn eich annog i gysylltu â’ch gweithiwr cymdeithasol a fydd yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad pellach i chi.

Yr wythnos nesaf, byddwn yn trafod pwysigrwydd siarad â’ch plentyn am gyfryngau cymdeithasol, sut y gallwch eu cadw’n ddiogel, a beth i’w wneud os aiff pethau o chwith.