Mabwysiadu ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Iechyd
Lawrlwythwch y Canllaw ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd
Bydd plant mabwysiedig yn dod i gysylltiad â gwasanaethau iechyd mewn amrywiaeth o ffyrdd ac oherwydd y trawma a brofasant yn eu bywydau cynnar, bydd angen iddynt gael mynediad at wasanaethau a ddarperir gan staff gofal iechyd sy'n ymwybodol o drawma a mabwysiadu. Felly, mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wedi datblygu'r llyfrynnau byr hyn (ar gael yn Saesneg a Chymraeg) fel rhan o'i Fframwaith ar gyfer Cymorth Mabwysiadu; i godi ymwybyddiaeth o fabwysiadu ymhlith ymarferwyr gofal iechyd fel y gallant ddeall a chefnogi anghenion plant mabwysiedig a'u teuluoedd yn well.
Lawrlwythwch y Canllaw