Mae Nawr yn Amser Da


Caredigrwydd. Amynedd. Cariad. Cefnogaeth gyson. Ry’n ni’n adnabod y rhinweddau hyn yn ein ffrindiau a'n teulu yn aml, ond a ydyn ni’n stopio i’w dathlu?
Mae nifer y plant sy’n aros i gael eu mabwysiadu ledled Cymru yn cynyddu; ond mae nifer yr ymholiadau yn gostwng.
Heddiw, rydym yn lansio ymgyrch newydd wedi’i hysbrydoli gan eiriau teulu a ffrindiau sydd wedi helpu mabwysiadwyr i gymryd y camau tuag at fabwysiadu.
P’un ai’n ystyried mabwysiadu neu’n cefnogi rhywun annwyl drwy’r broses, dyma straeon gan eraill sydd wedi mabwysiadu am rywfaint o ysbrydoliaeth.
Eu neges:
Rwyt ti’n garedig. Rwyt ti’n abl. Rwyt ti’n barod.
Mae nawr yn amser da i fabwysiadu.
Camau nesaf
Beth am gysylltu â’ch asiantaeth fabwysiadu leol am ragor o wybodaeth?
Gwneud ymholiad