Newyddion
Cynllunio ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu Cymru yn y dyfodol
30 Gorffennaf 2025
Rôl bwysig Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yw bod â chynllun blaengar, fel y gall gwasanaethau barhau i ddatblygu a gwella. Mae disgwyl i’r cynllun ‘Mabwysiadu Cymru 2025 a thu hwnt….’ presennol gael ei adnewyddu, felly cyfarfu’r Bwrdd Llywodraethu a rhanddeiliaid eraill ym mis Mehefin i ystyried cynllun o fis Ebrill 2026.
Ystyriodd cyfanswm o 36 o weithwyr proffesiynol a chynrychiolwyr y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau mabwysiadu Cymru, flaenoriaethau presennol a rhai’r dyfodol mewn sesiwn a hwyluswyd gan yr Athro Keith Moultrie o’r Sefydliad Gofal Cyhoeddus.
O hyn, mae cynllun yn cael ei ddatblygu ac rydym yn anelu at ei rannu’n eang cyn ei gwblhau, a’i ddefnyddio i lywio gwasanaethau yn y dyfodol.
Rydym yn llunio adroddiad cyhoeddus ddwywaith y flwyddyn i amlinellu cynnydd, ac yn ei drafod â’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Bydd ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2024/25 yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, ac ar gael yma. Bydd y ddolen hon hefyd yn mynd â chi at adroddiadau blynyddol a chanol blwyddyn blaenorol.