Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu 2026
Mae Nawr yn Amser Da. Dewiswch Deulu. Dewiswch Fabwysiadu.
Rydych chi'n garedig. Rydych chi'n alluog. Rydych chi'n barod.
Does byth amser perffaith i ddechrau teulu. Ond weithiau, mae’r rhinweddau sy’n gwneud rhywun yn rhiant gwych yno eisoes.
Caredigrwydd. Amynedd. Cariad. Y gallu i gynnig cartref diogel, sefydlog a chefnogol i blentyn.
Yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu eleni, rydyn ni’n rhannu profiadau pobl sydd wedi mabwysiadu ledled Cymru, yn dathlu eu teithiau gwahanol ac yn dangos sut y gall pobl o bob cefndir greu teulu drwy fabwysiadu.
Mae pob taith fabwysiadu yn wahanol. Mae yna adegau o lawenydd, heriau a chyfleoedd i ddysgu a thyfu. Ond does dim rhaid i chi fynd drwy’r daith ar eich pen eich hun.
P’un a ydych chi wedi bod yn ystyried mabwysiadu ers blynyddoedd neu newydd ddechrau meddwl amdano, rydyn ni yma i ateb eich cwestiynau a’ch cefnogi ar hyd y ffordd.
Efallai mai nawr yw’r amser da i gymryd y cam cyntaf hwnnw.
Pobl go iawn. Teithiau gwahanol. Un profiad cyffredin.
Does dim un stori fabwysiadu sy’n debyg i un arall.
Mae teuluoedd yn cael eu creu mewn gwahanol ffyrdd, ar wahanol adegau mewn bywyd ac am wahanol resymau. Y tu ôl i bob taith fabwysiadu mae pobl go iawn, pob un â’i phrofiadau, ei gobeithion a’i heriau ei hun.
Yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu eleni, mae pedwar mabwysiadwr yn rhannu eu straeon yn eu geiriau eu hunain.
Neges gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol
Mae mabwysiadu yn ymwneud â llawer mwy nag un penderfyniad. Mae’n ymwneud â meithrin perthnasoedd, deall profiadau plant a darparu’r cariad, y sefydlogrwydd a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Ledled Cymru, mae gwasanaethau mabwysiadu yma i arwain a chefnogi teuluoedd, o’u hymholiad cyntaf hyd at fywyd ar ôl mabwysiadu.
Gwrandewch ar Eifion Burke, Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru, wrth iddo fyfyrio ar Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu a phwysigrwydd cefnogi pobl drwy gydol eu taith fabwysiadu.
Ai nawr yw eich amser chi?
Efallai bod gennych chi eisoes fwy o’r rhinweddau sydd eu hangen i ddod yn rhiant mabwysiadol nag yr ydych chi’n sylweddoli.
Does dim rhaid i chi gael yr holl atebion. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw bod yn barod i ddechrau’r sgwrs.
P’un a ydych chi’n sengl neu mewn perthynas, yn ystyried mabwysiadu am y tro cyntaf neu’n dychwelyd at y syniad ar ôl peth amser, mae eich gwasanaeth mabwysiadu lleol yma i’ch helpu i ddeall y broses ac archwilio’r posibiliadau.
Rydych chi’n garedig. Rydych chi’n alluog. Rydych chi’n barod.
Mae nawr yn amser da. Dewiswch Deulu. Dewiswch Fabwysiadu.