Blog
Valerie
16 Hydref 2026
Roedd Valerie yn fam i ferch bum mlwydd oed ac yn llysfam i fab oedd yn oedolyn, pan benderfynodd hi a’i gŵr ehangu eu teulu trwy fabwysiadu. Ymunodd eu mab mabwysiedig â’r teulu yn 2021 gyda chefnogaeth Gwasanaeth Mabwysiadu Deddwyrain Cymru. Dyma eu hanes…
Ges i fy merch pan o’n i’n 44 oed. Gan ‘y mod i bach yn hŷn na’r rhan fwyaf o fenywod sy’n dod yn famau am y tro cyntaf, roedden ni’n teimlo y gallai beichiogrwydd arall fod yn beryglus. Rydym ni’n dau yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol, felly yn gwybod beth yw’r canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal, ac roedden ni’n teimlo bod ganddon ni le a chariad yn ein bywydau ar gyfer plentyn arall.
Dechreuon ni’r broses fabwysiadu ar ddechrau 2020. Oherwydd Covid, digwyddodd y cyfan ar-lein, yr hyfforddiant a’r paneli, hyd nes i ni gael ein paru â bachgen bach sydd bellach yn fab i ni.
Mae’r profiad o fynd i gartref gofalwr maeth a chwrdd â’ch mab yn brofiad anarferol ac unigryw iawn. Wi’n cofio bod yn y gwely y noson cynt a meddwl, ‘Wi’n mynd i gwrdd â fy mab ‘fory.’ Mae’n brofiad rhyfedd iawn, ond yn gyffrous dros ben.
Roedd ein merch mor gyffrous i gael brawd bach. Mae’n ddoniol i edrych yn ôl, dwi’n credu roedd hi’n disgwyl tegan bach, rhywun y gallai ddod adref ag e’ a chwarae ag e’. Dyma ni’n trafod mabwysiadu gyda hi, ond efallai ddim gymaint am gael plentyn bach yn y tŷ. Byddai hi’n trefnu te parti, dim ond iddo fe chwalu’r cyfan! Ond wi’n credu taw gyda hi y gwnaeth e’r cysylltiad cyntaf. Roedd ganddyn nhw’r berthynas yna rhwng dau blentyn sy’n chwarae â’i gilydd. Byddai’n chwerthin yn afreolus gyda hi, roedd yn hyfryd gweld eu perthynas yn datblygu.
Mae ein mab yn hynod lwcus i gael cylch mor eang o bobl o’i amgylch. Fel rhan o’r broses fabwysiadu, cadwyd mewn cysylltiad â’i deulu geni. Yn ffurfiol, dylai hyn ddigwydd ddwywaith y flwyddyn, ond mae e’n caru ei chwiorydd hŷn ac ry’n ni gyd yn dod ymlaen mor dda nes ein bod yn eu gweld bob ychydig fisoedd. Yn ddiweddar, rydym wedi dechrau cysylltu â’i fam geni. Cawsom gefnogaeth gan ein gweithiwr cymdeithasol, a weithredodd fel rhyw fath o gyfryngwr a chynghorydd ar yr arfer gorau er mwyn hwyluso hyn. Dwi’n cofio meddwl yn ystod y hyfforddiant, y gallai cysylltiad â’r teulu geni fod braidd yn frawychus neu achosi pryder, ond mae popeth wedi mynd yn llyfn iawn. Roedd pawb yn cytuno fod y berthynas honno er budd y plentyn.
Mae’n gwybod ei fod wedi cael ei fabwysiadu. Mae’n deall bod ganddo chwiorydd sy’n byw gyda rhywun arall, bod ei frawd hŷn wedi tyfu i fyny ac yn byw ar ei ben ei hun, a bod ei fam geni yn rhan o’i fywyd hefyd. Mae’n deall nad oes rhaid i deuluoedd i gyd fyw gyda’i gilydd. Iddo fe, mae hynny’n rhan normal o’i fywyd, ac ry’n ni yma i’w gefnogi drwy’r broses. Roedd yr hyfforddiant yn hynod ddefnyddiol i sicrhau bod y sgiliau a’r adnoddau cywir gyda ni i ymdopi â sefyllfa fel hon.
I unrhyw un sy’n ystyried mabwysiadu, fy nghyngor i yw, ewch amdani. Gwnewch yr hyfforddiant, darllenwch gymaint â phosibl, ond mwynhewch y broses hefyd. Does dim amser gwael i fabwysiadu, a chyflwyno cyffro, a chariad, a theulu, a’r holl lawenydd yna i’ch bywyd.