Newyddion
Mabwysiadu, cymuned a dod o hyd i le i berthyn yng nghefn gwlad Cymru
14 Medi 2026
Beth all tyfu i fyny yng nghefn gwlad Cymru ei gynnig i blentyn?

Lle i redeg. Ysgol lle mae pawb yn gwybod dy enw. Cymdogion sy’n galw heibio gyda bwyd pan fydd ei angen arnoch. Cymuned sy’n gofalu amdanoch.
Ond i deuluoedd mabwysiadol, gall byw mewn cymuned wledig glòs ddod ag ystyriaethau unigryw hefyd – o osod ffiniau pan fydd plentyn yn dod adref am y tro cyntaf, i helpu’r bobl o’ch cwmpas i ddeall mabwysiadu a’r profiadau a allai fod wedi siapio eich plentyn.
Yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, daeth Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru â mabwysiadwyr a gweithwyr proffesiynol ynghyd i siarad yn agored am hynny’n union: mabwysiadu yng nghefn gwlad Cymru.
Dan arweiniad y cyflwynydd Luke Davies, bu’r sgwrs yn edrych ar realiti magu plant mabwysiedig mewn cymunedau amaethyddol – ac yn herio rhai o’r rhagdybiaethau ynghylch pwy all fabwysiadu a sut beth ddylai teulu mabwysiadol fod.
“Byw ar fferm yw’r plentyndod gorau y gallech ei gael”
Mae Carys, 32, wedi mabwysiadu dau o blant drwy Fabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan fabwysiadu am y tro cyntaf pan oedd hi’n ddim ond 25 oed.
Iddi hi, mae magu ei phlant ar fferm y teulu wedi golygu gallu rhannu rhywbeth sydd wedi bod yn rhan o’i theulu ei hun ers cenedlaethau.
“Byw ar fferm yw’r plentyndod gorau y gallech ei gael,” meddai. “Ac mae’n fraint gwybod fy mod i’n trosglwyddo treftadaeth fy nheulu, sydd wedi para am genedlaethau, i’m plant drwy’r fferm.”
Ac yna, wrth gwrs, mae’r cymdogion.
“Defaid yw fy nghymdogion drws nesaf,” meddai’n cellwair.
Ond y tu ôl i’r jôc mae rhywbeth y mae Carys yn credu sydd wedi bod yn hynod bwysig i’w phlant: perthyn i gymuned lle mae pobl yn adnabod ei gilydd.
“Mewn dinas, efallai na fyddwch chi’n gwybod pwy yw eich cymydog, ond yma mae pawb yn adnabod ei gilydd.”
Daeth yr ymdeimlad hwnnw o gysylltiad i’r amlwg yn gryf drwy gydol y sgwrs yn Sioe Frenhinol Cymru.
Nododd un gweithiwr mabwysiadu proffesiynol y gall y ddaearyddiaeth ei hun fod o fudd i rai plant sydd wedi profi adfyd, gan roi lle iddynt symud, rheoli eu hemosiynau ac ymadfer o rai o’u profiadau cynharach.
Nid yw hynny, wrth gwrs, yn golygu bod bywyd gwledig yn addas i bob plentyn. Mae gan bob plentyn sy’n aros i gael ei fabwysiadu ei brofiadau, ei bersonoliaeth a’i anghenion ei hun.
Ond mae’n herio’r syniad bod byw mewn ardal anghysbell, neu fyw bywyd sy’n wahanol i’r darlun mwy traddodiadol o fywyd teuluol, rywsut yn rhwystr i fabwysiadu.
Cymuned sy’n dysgu gyda chi
Gall cymuned glòs hefyd olygu bod pobl yn sylwi pan fydd teulu’n mabwysiadu.
Roedd Carys yn cofio pobl yn ansicr ynghylch sut i ymateb pan ddaeth ei phlant yn rhan o’i theulu.
“Dw i wedi cael rhywun yn dweud wrtha i, ‘Ydw i’n dweud llongyfarchiadau, felly?’, neu bydd pobl yn osgoi’r pwnc oherwydd dydyn nhw ddim yn gwybod beth i’w ddweud.”
Mae ei hymateb hi’n syml ac yn onest.
“Dw i’n fwy na pharod i gael y sgwrs honno gyda rhywun, dim ond mater o addysg ac ymwybyddiaeth ydyw.”
I Annwyn, 38, a fabwysiadodd frodyr a chwiorydd gyda’i gŵr, roedd dod â’i phlant adref hefyd yn golygu newid rhai o reolau anysgrifenedig bywyd gwledig am gyfnod.
“Mewn amgylchedd gwledig, mae gennym ni bolisi drws agored,” eglurodd Annwyn. “Felly, er mwyn atal pobl rhag galw heibio fel y bydden nhw fel arfer, roedd rhaid i mi a’m gŵr osod rhai ffiniau o’r cychwyn cyntaf oherwydd roedd angen amser ar ein plant i ymgartrefu.”
Roedd y gymuned yn parchu’r ffiniau hynny – heb ddiflannu.
“Daeth pobl â theganau i’r plant,” meddai Annwyn. “Ac roedd ffrindiau’n gadael parseli bwyd i ni yng nghanol y nos.”
Mae’n enghraifft hyfryd o sut y gall cefnogaeth edrych weithiau.
Nid gwybod yn union beth i’w ddweud neu ei wneud o reidrwydd, ond gwrando ar deulu, parchu’r hyn sydd ei angen arnynt a bod yno iddynt beth bynnag.

Gwreiddio
Heddiw, mae Annwyn yn disgrifio ei phlant yn syml:
“Mae fy mhlant yn ffynnu.”
“Maen nhw wrth eu bodd yn rhedeg o gwmpas y fferm, ac mae hynny’n rhoi teimlad cynnes braf i mi a’m gŵr oherwydd rydyn ni wedi hau’r hadau hynny ac wedi rhoi’r gwreiddiau hynny i’n plant.”
Mae’r gwreiddiau hynny’n ymestyn y tu hwnt i’r cartref.
Siaradodd y ddwy am brofiadau eu plant mewn ysgolion gwledig bach a’r perthnasoedd maen nhw wedi gallu eu meithrin gydag athrawon.
“Mae fy mhlant yn mynd i ysgol sydd â 36 o blant,” meddai Annwyn. “Felly, er bod y plant wedi cymryd ychydig o amser i ymgartrefu, roeddwn i’n gallu cael sgwrs gyda’u hathro ac maen nhw’n fwy agored i wrando a dysgu am anghenion y plant.”
Roedd Carys wedi cael profiad tebyg.
“Dw i’n teimlo bod mwy o ddealltwriaeth o’m plant, a dydyn nhw ddim yn rhif yn unig, felly mae eu hathrawon wir yn eu hadnabod.”
Roedd un manylyn bach yn arbennig yn golygu llawer iddi.
Yn yr ysgol, mae ei phlentyn yn cael ei adnabod wrth ei enw cyntaf ac yna enw’r fferm.
“Mae’n dangos nad ydyn nhw’n wahanol i blant eraill.”
Ar yr olwg gyntaf, mae’n bwynt bach, ond yng nghyd-destun sgwrs am fabwysiadu, mae’n un pwerus.
Oherwydd, yn y pen draw, nid oedd cymaint o’r hyn a ddisgrifiodd Carys ac Annwyn yn ymwneud â mabwysiadu o gwbl.
Roedd yn ymwneud â theulu, hunaniaeth, cymuned a pherthyn.
Nid oes un math o deulu mabwysiadol
Roedd honno’n neges arall a ddaeth i’r amlwg yn glir yn Sioe Frenhinol Cymru.
“Rydyn ni wedi gweithio gyda chymaint o wahanol deuluoedd sydd i gyd yn edrych mor wahanol, ac maen nhw’n dod â rhywbeth mor unigryw i’r plant hynny,” meddai un aelod o’r panel. “Rydyn ni wir eisiau dathlu hynny. Mae teuluoedd yn dod at ei gilydd drwy fabwysiadu yn rhywbeth hudolus, a dweud y gwir.”
Mae oedran yn un o’r pethau y gall darpar fabwysiadwyr boeni amdano.
“Mae pobl yn meddwl, ‘O, dw i’n hŷn – does dim ffordd y gallaf i wneud hyn.’ Ond dw i’n meddwl os ydych chi’n fodlon gwneud hynny, mae plentyn allan yna sydd angen i chi ei helpu.”
Ac nid oes rhaid i fabwysiadu fod yn rhywbeth y mae pobl yn ei ystyried dim ond ar ôl i bob posibilrwydd arall gael ei archwilio.
Fel y dywedodd cyfrannwr arall yn ystod y sgwrs:
“Ddylai mabwysiadu ddim cael ei weld fel y dewis olaf. Dylai fod yn opsiwn o’r cychwyn hefyd. Mae’n ddewis.”
Mae hynny’n teimlo’n arbennig o bwysig.
Nid oes un llwybr yn unig at ddod yn rhiant mabwysiadol – ac nid oes un darlun yn unig o sut beth yw teulu mabwysiadol.
Magu’r plentyn sydd o’ch blaen
Roedd gonestrwydd hefyd ynghylch y ffaith y gall magu plentyn mabwysiedig weithiau olygu edrych y tu hwnt i ymddygiad er mwyn deall yr hyn y gallai plentyn fod yn ceisio ei gyfathrebu.
Eglurodd Annwyn:
“Gallwn ni uniaethu â rhieni biolegol, ond rydyn ni’n edrych ar bethau’n wahanol. Os yw plentyn yn ymddwyn mewn ffordd benodol, rydyn ni bob amser yn gofyn y cwestiwn, ‘Ai ymateb i drawma yw hyn?’, lle efallai na fydd rhai rhieni’n gwneud hynny.”
Ac mae Carys yn wyliadwrus o gymharu ei ffordd hi o fagu plant â’r darlun a gyflwynir ar-lein.
“Dw i’n ceisio peidio ag edrych arno. Mae pob plentyn yn wahanol, felly mae’r ffordd rydych chi’n eu magu nhw’n wahanol hefyd.”
Efallai mai dyna un o’r gwersi symlaf o’r sgwrs gyfan.
Nid oes y fath beth â rhiant mabwysiadol perffaith.
Nid oes y fath beth â theulu perffaith.
Ac nid oes un lle perffaith i fagu plentyn.
Yr hyn sy’n bwysig yw bod yn barod i ddeall y plentyn sy’n dod yn rhan o’ch teulu, dysgu beth sydd ei angen arno a meithrin y gefnogaeth o’i gwmpas sy’n ei helpu i deimlo’n ddiogel, yn gysylltiedig ac yn gallu ffynnu.
I Carys, mae’r ffordd mae hi’n disgrifio’r hyn y mae mabwysiadu wedi’i roi i’w theulu yn dweud y cyfan:
“Dyma ein diweddglo hapus ni a’u dechrau cyffrous nhw.”
A phan ofynnwyd i Carys ac Annwyn beth fydden nhw’n ei ddweud wrth rywun a allai fod yn ystyried dechrau ar ei daith fabwysiadu ei hun, roedd eu hateb yn llawer byrrach:
“Ewch amdani.”

