Cofrestr Mabwysiadu Cymru

dau oedolyn a phlentyn yn eistedd ar soffa

Adnodd canfod teulu ar-lein yw Cofrestr Mabwysiadu Cymru a ddefnyddir gan fabwysiadwyr wedi eu cymeradwyo a gweithwyr cymdeithasol i ddod o hyd i deuluoedd i blant yn gynt.

Cysylltwch â ni

 

Mae’r gofrestr fabwysiadu yn cael ei chynnal gan

link maker company logo

Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair i gael mynediad i’r wefan.

Cofrestru

Wedi cofrestru yn barod? Mewngofnodwch yma

Cofrestr Mabwysiadu Cymru yw’r offeryn statudol cenedlaethol ar gyfer cysylltu a chanfod teuluoedd sy’n helpu i ddod o hyd i’r pariad gorau i blant sy’n aros i gael eu mabwysiadu.

Mae’n gronfa ddata ddiogel, ddwyieithog o broffiliau mabwysiadwyr a phlant a reolir gennym ni ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae’n ofyniad cyfreithiol* i wasanaethau mabwysiadu rhanbarthol ac asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol ychwanegu mabwysiadwyr at y gofrestr o fewn mis iddynt gael eu cymeradwyo, ac ychwanegu plant at y gofrestr o fewn mis i’r gorchymyn mabwysiadu. *Cyfarwyddydau Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002, Cyddrefniadau Mabwysiadu, Cymru, Diwygio, 2019.
Mae ein tîm profiadol ac ymroddedig yn gweithio’n ddyddiol gyda gweithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr ledled Cymru i ddefnyddio’r gofrestr er mwyn adnabod pariad posibl rhwng plant a darpar fabwysiadwyr.

Mae gan fabwysiadwyr cymeradwy hefyd fynediad i’r gronfa ddata i greu eu proffil eu hunain ac i ddarganfod mwy am y plant sy’n aros er mwyn eu helpu i ddod o hyd i deulu.

Defnyddir y gofrestr ochr yn ochr ag arferion dod o hyd i deulu eraill megis diwrnodau o weithgarwch mabwysiadu, diwrnodau cyfnewid a digwyddiadau proffilio ar-lein.

 

Rydym yn gweithio mor galed ag y gallwn i baru’n lleol, ond yn yr achosion prin yna ble na ellir gwneud hynny, rydym yn defnyddio’r Protocol Cyfeirio Rhwng Cofrestrau Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban i gael mynediad i gofrestrau eraill y DU a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i ddod o hyd i’r teulu iawn ar gyfer plentyn.

Mae Cofrestr Mabwysiadu Cymru yn ein helpu i adnabod tueddiadau gydag amseroedd aros, gwybodaeth am anghenion plant a pham efallai bod rhai plant yn aros yn hirach. Hefyd, sut mae’r wybodaeth hon yn bwydo i mewn i’r broses recriwtio e.e. sicrhau bod y mabwysiadwyr cywir yn cael eu recriwtio i ddiwallu anghenion y plant hynny sy’n aros hiraf ac mae’n ein helpu i wella ein gwasanaeth.

 

adoption register wales logo

493 o blant

wedi eu paru trwy Gofrestr Mabwysiadu Cymru

Ebill 2014 – Mawrth 2024

Digwyddiadau Cofrestr Mabwysiadu Cymru

Mae Diwrnodau Gweithgareddau Mabwysiadu yn ddigwyddiadau ar thema bersonol, yn llawn chwarae, gweithgareddau ac adloniant sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac sy’n briodol i’r oedran. Maent yn ffordd unigryw o ddod o hyd i fatiadau mabwysiadol ar gyfer plant. Maent wedi’u cynllunio i annog rhyngweithio a chysylltiadau cadarnhaol rhwng plant a darpar fabwysiadwyr mewn amgylchedd diogel a hwyliog.
Mae Digwyddiadau Proffilio Ar-lein fel arfer yn ddigwyddiadau byw ar-lein lle mae darpar fabwysiadwyr yn cael y cyfle i wylio proffiliau fideo o blant yn aros ac yna clywed gan weithiwr cymdeithasol y plentyn a chanfyddwr teulu am eu hanghenion a pha fath o deulu sy’n cael ei geisio ar eu cyfer.
Mae Diwrnodau Cyfnewid yn ddigwyddiadau wyneb yn wyneb lle mae darpar fabwysiadwyr yn gallu dod i gwrdd â gweithwyr cymdeithasol a phobl sy’n dod o hyd i deuluoedd y plant sy’n aros ar hyn o bryd. Mae’n ddigwyddiad rhannu gwybodaeth lle mae darpar fabwysiadwyr yn gallu darllen proffiliau plant a gofyn cwestiynau yn bersonol i weithiwr cymdeithasol y plentyn neu’r darganfyddwr teulu.

Llinell gymorth y Gofrestr Fabwysiadu

Siaradwch ag aelod o dîm Cofrestr Mabwysiadu Cymru.
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9:00am a 1:00pm.
Caiff galwadau y tu allan i’r oriau hyn eu hateb yn ystod y diwrnod gwaith nesaf.

029 2087 3799
AdoptionRegisterWales@adoptcymru.com

Teulu

Adroddiad blynyddol

Darllenwch ein Adroddiadau Blynyddol a Canol-blwyddyn

Adroddiad blynyddol
Teulu

Canllawiau arfer da

Cwestiynau cyffredin am fabwysiadu

Cwestiynau cyffredin