Blog
Kylie
16 Hydref 2026
Mabwysiadodd Kylie, 38 oed, a’i gŵr Pete, eu merch sydd bellach yn saith oed, bum mlynedd yn ôl gyda chefnogaeth Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru. Ychydig dros ddwy flynedd yn ddiweddarach, croesawon nhw eu mab, sydd bellach yn dair oed, trwy fabwysiadu. Dyma eu hanes…
Ces i fy magu yn gwybod am fabwysiadu ac yn siarad amdano, gan fod fy mam wedi cael ei mabwysiadu. Roedd yn rhywbeth roedden ni bob amser yn siarad amdano’n agored iawn, ac roeddwn i bob amser yn meddwl y baswn i’n mabwysiadu un diwrnod.
Pan ro’n i’n 11 mis oed, roedd gen i lewcemia myeloid acíwt. Diolch i driniaeth, roeddwn i’n lwcus iawn i fedru gwella. Fodd bynnag, cafodd y driniaeth honno, ar oed mor ifanc, effaith ar fy ffrwythlondeb i.
Pan ddaeth yr amser i fi a ‘ngŵr ddechrau meddwl am gael teulu, dywedodd y meddygon ei bod hi’n annhebygol y byddwn i’n beichiogi’n naturiol. Dywedon nhw bod fy wyau yn debycach i rai rhywun 60 oed na rhywun 30 oed. Dyma roi cynnig ar IVF ychydig o weithiau, sef profiad dwys iawn, ond yn anffodus nid oedd yn llwyddiannus.
Cymeron ni ein hamser i ddelio â hyn, yn emosiynol ac yn gorfforol, ac i ddychwelyd i fywyd normal. Yna, un bore, deffrais i yn gwybod. Es dros y ffordd i dŷ mam, curo ar y drws, a dweud wrthi ‘mod i’n barod. Gofynnodd hi, “Barod am be’?” ac atebais i, “I fabwysiadu.” Doedd hi ddim wedi synnu o gwbl; roedd hi’n gwybod y byddai hyn yn digwydd un diwrnod. Ond cafodd sioc clywed hyn am 6.30am! Roedd fel petai rhywbeth wedi clicio, ac ro’n i’n gwybod mai dyma’r amser iawn.
Ro’n i’n ofn y broses, yr hyfforddiant, a’r angen i siarad am y trawma ro’n i wedi’i oresgyn. Doeddwn i ddim eisiau codi hen bethau, ond ro’n i’n canolbwyntio ar y ffaith y baswn i’n fam ar ddiwedd hyn oll. Doedd y broses ddim cynddrwg ag oeddwn i wedi’i ddychmygu, ro’ i’n delio â phob ffurflen a chwestiwn yn syth bin, ro’n i eisiau ei gwblhau cyn gynted â phosib.
O’r alwad ffôn gyntaf hyd nes i’n merch fach ddod adra, roedd hi’n union flwyddyn. Cyfnod eithaf cyflym o ystyried ein bod wedi cael gwybod y gallai gymryd llawer hirach. Roedd yn teimlo fel breuddwyd, cael y plentyn yma yn fy nhŷ i, yr oedd angen i mi ofalu amdani. Ond daeth popeth yn hollol naturiol, roedd yn rhyfedd iawn, a dydi bywyd heb fod yr un fath ers hynny.
Roedd hi bron yn ddyflwydd oed pan ymunodd hi â’n teulu ni, ac roedd hi’n ei chael hi braidd yn anodd ymgartrefu. Penderfynais i beidio â dychwelyd i’r gwaith ar ôl i fy naw mis o absenoldeb mabwysiadu ddod i ben, gan nad oedd hi’n barod eto. Roedd llawer yn mynd ymlaen yn y flwyddyn gyntaf yna – byw gyda ni, ac yna dechrau’r ysgol – felly roedd hi’n iawn i ni ac i’n teulu ni ‘mod i’n aros adra efo hi.
Dwi’n cofio’r eiliad y galwodd hi fi’n ‘mam’ am y tro cyntaf. Cymerodd hi tua chwe wythnos. Ro’n ni’n chwarae pi-po a dywedais i, ‘Ble mae mam?’ Ac fe ddywedodd hi: ‘Mam!’ Roedd o’n anhygoel;” “Wna i byth anghofio’r eiliad yna.
Union ddwy flynedd i’r diwrnod ar ôl iddi ddod adra, gwnaethon ni alwad ffôn i ddechrau’r broses o’r newydd. Ymunodd ein mab â ni flwyddyn yn ddiweddarach, roedd yn 11 mis oed ar y pryd. Roedd yn hyfryd cael profi cymaint o’i gamau cyntaf – o gropian i gerdded, cael ei ddant cyntaf, a chysgu trwy’r nos.
Roedd ein merch mor gyffrous. Helpodd ni i baratoi popeth, gan hongian dillad yn ei gwpwrdd. Pan ddaeth o adra, trodd hi’n fath o fam fach, gan fy helpu i newid ei gewyn a checio os oedd hi’n amser am fath neu fynd i’r gwely. Rŵan, maen nhw fel unrhyw frawd a chwaer arall, maen nhw’n chwarae gyda’i gilydd, yn caru’i gilydd, yn ffraeo, ac yn casáu’i gilydd!
Gall fod yn anodd, bydd yna sialensau yn ystod ac ar ôl y broses fabwysiadu, ond rydych chi’n cwrdd â phobl ar hyd y ffordd sydd ar daith debyg i chi – mabwysiadwyr eraill a’ch gweithwyr cymdeithasol, pobl y gallwch siarad â nhw, ac nid dim ond am fabwysiadu. ‘Da’n ni’n teimlo mor ffodus i gael ein plant. Mae’n brofiad mor werth chweil, baswn i’n annog unrhyw un sy’n ystyried mabwysiadu i wneud hynny. Codwch y ffôn, wnewch chi ddim difaru.