Blog
Cyfarwyddwr newydd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru yn amlinellu ei weledigaeth yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu
16 Hydref 2026
Mae Cyfarwyddwr newydd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru, Eifion Burke, wedi amlinellu ei weledigaeth ar gyfer dyfodol gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru.
Dechreuodd Eifion yn ei swydd yn gynharach yr haf hwn wedi ymddeoliad haeddiannol ei ragflaenydd, Suzanne Griffiths. Mae’n ymuno ar adeg arwyddocaol wrth i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol nodi 12 mlynedd o gefnogi plant, teuluoedd a mabwysiadwyr ers ei lansio yn 2014.
Ledled Cymru, gwelwyd cynnydd o 10% yn nifer yr ymholiadau ar gyfer mabwysiadu dros y flwyddyn ddiwethaf – newid cadarnhaol yn dilyn sawl blwyddyn o ostyngiad. Fodd bynnag, mae’r angen am deuluoedd mabwysiadol hefyd wedi cynyddu. Mae nifer y plant sy’n aros i gael eu mabwysiadu wedi cynyddu 11%, gyda 310 o blant yn aros ar hyn o bryd.
Yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu hon (19 i 25 Hydref), ac ochr yn ochr â theuluoedd mabwysiadol, mae Eifion yn annog mwy o bobl ledled Cymru i ystyried mabwysiadu fel ffordd o greu teulu, a hynny fel rhan o ymgyrch Mae Nawr yn Amser Da y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Ysbrydolwyd yr ymgyrch gan straeon am y foment a newidiodd fywydau rhieni wrth benderfynu dechrau’r broses fabwysiadu.
Mae tri mabwysiadwr o bob rhan o Gymru wedi rhannu eu straeon fel rhan o Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu. Mabwysiadodd Ian, Sam a Carys i gyd o dan amgylchiadau gwahanol. Maent yn siarad yn agored am yr heriau sy’n gysylltiedig â mabwysiadu, ond yn pwysleisio bod pobl a gwasanaethau ar gael i’ch cefnogi drwy gydol y broses.
Mabwysiadodd Ian o Gaerdydd, blentyn gyda’i bartner 10 mlynedd yn ôl. Roedden nhw wedi bod yn rhan o’r broses am 18 mis ac ar fin cwrdd â phlentyn yr oedden nhw wedi eu paru ag ef pan fethodd y broses fabwysiadu.
“Nathon ni ddeall yn syth bod mabwysiadu ddim yn broses hawdd. Ond gathon ni weithiwr cymdeithasol a wnaeth y broses yn un mor hawdd â phosibl.
“Os ydych chi’n newydd i fyd mabwysiadu, beth bynnag yw eich profiad, bydd rhywun arall allan yna sy’n mynd drwy rywbeth tebyg i chi. Mae’n bwysig iawn eich bod yn cadw mewn cysylltiad â mabwysiadwyr eraill sy’n gallu cydymdeimlo â chi. Maen nhw wir wedi bod yn graig i ni dros y blynyddoedd.”
Dyma Sam, a fabwysiadodd blentyn tra’r oedd yn sengl ar ôl i berthynas ddod i ben, yn sylweddoli na fyddai yna fyth amser perffaith. Dywedodd: “Meddyliais i ‘am beth ydw i’n aros? Dwi’n aros am y foment berffaith yn ‘y mywyd i’, ac er mod i newydd wahanu wrth rywun, ro’n i mor barod ag y gallwn i fod.”
Mae Carys, sy’n byw yng nghefn gwlad gorllewin Cymru gyda’i gŵr, wedi tyfu ei theulu trwy fabwysiadu ar ôl darganfod na fyddai’n gallu beichiogi’n naturiol. Dywedodd: “Wi ddim yn meddwl bo’ chi byth yn barod i gael plentyn, ond chi’n cofleidio’r peth. Cofleidio’r cariad, cofleidio’r nosweithiau di-gwsg, cofleidio popeth sy’n dod gyda mabwysiadu. Mae’n newid bywyd, ond er gwell.”
Dywedodd Eifion Burke, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru: “Mae Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu yn gyfle gwych i rannu a dathlu’r llawenydd y mae llawer o deuluoedd yng Nghymru yn profi trwy fabwysiadu. Wrth i fi ddechrau ar fy nhaith fel Cyfarwyddwr, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl deuluoedd sydd wedi agor eu cartrefi, ac i annog mwy o bobl i fynegi diddordeb.
“Gall mabwysiadu gyflwyno heriau unigryw, ond mae hefyd yn daith hynod werth chweil. Rydym am i bobl wybod nad oes neb yn mabwysiadu ar eu pen eu hunain. Mae ystod eang o gymorth ar gael i blant a theuluoedd mabwysiadol ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaethau therapiwtig, rhwydweithiau cyfoedion a chymorth yn y gymuned, er mwyn helpu teuluoedd i feithrin perthnasoedd cryf, cadarnhaol a pharhaol.
“Mae mabwysiadu yn un o’r ffyrdd mwyaf pwerus o newid dyfodol plentyn. Fy ngweledigaeth i yw i Gymru barhau i arwain y ffordd wrth ddarparu gwasanaethau mabwysiadu o ansawdd uchel, gan sicrhau bod gan bob plentyn, teulu mabwysiadol a theulu geni y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, nid yn unig i oresgyn heriau, ond i ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial.”
I gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu, ewch i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.