Blog
Donna
15 Hydref 2026
Mabwysiadodd Donna ei merch fach fel mabwysiadwr sengl ar ôl gadael ei gyrfa yn yr heddlu i fod yn rhiant. Roedd ei merch yn bedair oed pan ymunodd â’i chartref yn 2021, gyda chefnogaeth Gwasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant. Ers hynny, mae Donna wedi symud ymlaen i weithio fel Swyddog Marchnata a Recriwtio i Wasanaeth Mabwysiadu Deddwyrain Cymru.
Dyma ei hanes hi…
Roeddwn i’n swyddog heddlu am 17 mlynedd: ro’n i’n dditectif, ac roedd yn waith caled. Ro’n i’n delio â llawer o bethau anodd…yn gweithio ar droseddau difrifol, ac yn gwneud llawer o waith yn y maes amddiffyn plant. Gwelais i lawer o bethau. Fydden i methu dod â phlentyn i mewn i ‘mywyd i yn y math yna o amgylchedd, felly ymddeolais i’n gynnar o’r heddlu a dechrau ar fy nhaith i ddod yn fam.
Ro’n i bob amser yn gwybod y byddai mabwysiadu yn rhan o fy nhaith i. Ro’n i’n disgwyl cael plant biolegol, yna ystyried mabwysiadu yn ddiweddarach. Ro’n i’n berson sengl beth bynnag, felly ro’n i’n gwybod taw rhywbeth y byddwn i’n ei wneud ar fy mhen fy hun fyddai hyn.
Ces i driniaeth IVF sawl gwaith. Ar y chweched tro, dywedais i “dyna ‘ny, dwi wedi cael digon, yn amlwg nid yw hyn ar fy nghyfer i”, felly roedd hi’n amser ystyried mabwysiadu. Roedd yn mynd i fod yn rhan o fy nhaith beth bynnag.
Pan ddechreuais i, roedd gen i syniadau penodol am yr hyn roeddwn i eisiau. Ro’n i eisiau babi. Dwi’n siŵr bod llawer o bobl sy’n mabwysiadu yn teimlo’r un peth ar y dechrau. Ro’n i’n meddwl, “Dwi’n rhiant sengl, felly allai ddim ymdopi â hyn a’r llall”, ac roedd yn benderfyniad anodd iawn. Mae’n anodd gorfod nodi ar ffurflen beth rydych chi’n gallu a methu ymdopi ag e’ – chi’n teimlo ychydig o euogrwydd. Ond ro’n i’n byw ar fy mhen fy hun, ac roedd angen i fi allu gweithio.
Digwyddodd y gwaith asesu a’r hyfforddiant yn ystod Covid. Dywedodd fy ngweithiwr cymdeithasol wrthai eu bod yn cynnal sesiwn ar-lein am blant sy’n “anoddach eu lleoli”. Fy ymateb i oedd, “na, dyw hynna ddim i fi”, ond llwyddodd hi i fy mherswadio i fynychu, felly ymunais gyda’r bwriad o eistedd yn y cefndir. Gwrandewais i ar ychydig o bethau. Yna, yn sydyn, ymddangosodd fideo o’r ferch fach yma ar y sgrîn. Roedd hi’n dair oed ar y pryd, bron yn bedair. Daliodd hi fy sylw, ac roedd fel rhywbeth na allai egluro. Roedd rhywbeth ynddai oedd yn gwybod taw hi oedd fy merch i.
Newidiodd fy meddwl o fod eisiau ystyried babi yn unig, i “na, dyna hi, fy merch i yw hi”. Fe wnes i gwrdd â hi ddechrau mis Hydref 2021, a daeth hi adref yn ddiweddarach y mis hwnnw.
Mae’r holl beth wedi bod fel corwynt; hi yw’r peth mwyaf gwerthfawr erioed. Mae hi wedi bod yn bum mlynedd bellach ac mae hi’n llond o bopeth anhygoel. Ond dyw pethau ddim wedi bod yn hawdd bob amser, ac ry’n ni wedi cael ein siâr o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau.
Fel person sengl sy’n mabwysiadu, un o’r prif bryderon oedd nad oedd ‘da fi neb i rannu syniadau â nhw na thrafod pethau â nhw. Y cwestiwn bob amser oedd “a fydda i’n ddigon?” Felly, roedd cael rhywun i siarad â nhw, heblaw fy ngweithiwr cymdeithasol (roedd gen i berthynas wych â hi), yn bwysig iawn i fi. Dyna pam dwi’n creu cysylltiadau â darpar rieni mabwysiadol nawr, yn ogystal â bod y person yna y maen nhw’n gallu trafod unrhyw bryderon â nhw, i gefnogi ein gilydd.
Fel mabwysiadwr, mae’n naturiol i chi gael eiliadau o ansicrwydd; byddwch chi’n cwestiynu popeth. Ond cofiwch pam rydych chi’n gwneud hyn, a cofiwch eich bod yn ddigon da ar gyfer y plentyn yna.
Hyd yn oed os nad oes gennych rwydwaith mawr o deulu neu ffrindiau o’ch cwmpas, ceisiwch estyn allan a chreu cysylltiadau o fewn y gymuned fabwysiadu. Mae’r gefnogaeth yn amhrisiadwy, oherwydd mae’r bobl yna wir yn deall y sefyllfa.