Blog
Ditta a Lal
15 Hydref 2026
Daeth Ditta, 46, a Lal, 48, yn rhieni yn eu 40au ar ôl treulio 20 mlynedd gyda’i gilydd yn meithrin bywyd a chymuned yn Abertawe, ar ôl symud o Hwngari yn y 2000au. Mabwysiadodd y cwpl eu mab, sydd bellach bron yn ddyflwydd oed, yn haf 2025 trwy Wasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin.
Dyma eu hanes…
Roedden ni eisiau teulu erioed, ac wedi bod yn ystyried hynny ers blynyddoedd – maethu a mabwysiadu. Daethon ni at fabwysiadu yn hwyrach na’r rhan fwyaf o bobl, dyma ni’n treulio ein hugeiniau a’n tridegau yn teithio ac yn adeiladu bywyd yma yn y DU – yn Llundain i ddechrau, ac yna yn Abertawe. Ry’n ni wrth ein boddau yma, mae pawb mor gyfeillgar, ac mae’n ein hatgoffa gymaint o gartref. Mae’r diwylliant a’r gymuned mor gyfarwydd.
Yn ystod Covid, dyma ni’n colli dau fabi, ond roedd mabwysiadu wedi bod ar ein meddyliau ers blynyddoedd er mwyn creu teulu ac, un diwrnod, roedd hi’n teimlo fel yr amser iawn i gysylltu.
Cawson ni ymateb yn gyflym iawn, a dechreuodd y broses ar unwaith. Roedd cymaint o wiriadau ac ymchwiliadau, ymweliadau cartref a sesiynau hyfforddi. Roedd y rhan fwyaf yn gwneud synnwyr, ond roedd yna adegau pan roedd hi’n anodd.
Doedden ni ddim yn siŵr a allen ni fabwysiadu yma gan ein bod yn dod o wlad arall, felly roedden ni’n falch o glywed ein bod yn gallu symud ymlaen drwy’r system. Gan ein bod o Hwngari, roedd angen gwiriadau ychwanegol, dyma nhw’n siarad â’n teuluoedd, gan ddefnyddio cyfieithydd i siarad â’n rhieni gan nad ydyn nhw’n siarad Saesneg. Dyma nhw hyd yn oed yn siarad â’n cyn-bartneriaid! Roedd yna lawer nad oedden ni wedi’i ddisgwyl, ond ry’n ni’n deall nawr pam fod y broses mor drylwyr, ac mae’r canlyniad yn un gwych.
Siaradon ni â phobl ar-lein mewn gwahanol fforymau, a dyma ni’n deall y gallai gymryd blynyddoedd. Ond yna, dyma ni’n croesawu ein mab pan oedd yn naw mis oed, 18 mis ar ôl cysylltu y tro cyntaf yna.
Pan gawson ni ein cymeradwyo, derbynion ni broffiliau o blant i’w hystyried ac roedden ni’n teimlo bron yn euog wrth ddweud na. Dywedon ni na wrth ddau blentyn arall cyn ein mab ni, ond mae’n rhaid i’r sefyllfa fod yn iawn i chi a’ch teulu. Dwi’n gwybod ei fod yn swnio’n ddwl, ond mae’n rhaid i chi gydweddu’n berffaith, ac felly yr oedd hi i ni. Roedd peth ansicrwydd yn ei gylch oherwydd ei fod mor ifanc, a llawer o ymchwiliadau i’w iechyd. Cawson ni lot o gyfleoedd i newid ein meddyliau, ond roedden ni’n benderfynol – fe oedd ein mab ni.
Pe bawn i’n dangos llun i chi o fy mrawd i yr un oedran, fyddech chi ddim yn credu’r peth, maen nhw fel efeilliaid. Mae’n fachgen bach hyfryd.
Ry’n ni hefyd mewn cysylltiad â sibling geni ein mab, mae hynny’n hyfryd ar gyfer y ddau ohonyn nhw. Ac ry’n ni’n credu fod y cyfle yna’n bwysig iawn, pan yn briodol.
Mae ein teuluoedd ni wedi bod yn gefnogol iawn drwy’r broses gyfan, ac roedden nhw mor gyffrous i gwrdd ag e’. Ry’n ni’n ei fagu’n ddwyieithog, felly mae’n dysgu siarad Hwngareg a Saesneg. Roedd y ddwy fam-gu yma ar gyfer Nadolig y llynedd – maen nhw wedi syrthio mewn cariad ag e’.
Pan ddechreuon ni siarad â’n ffrindiau a’n cydweithwyr am y peth, dysgon ni lawer mwy am fabwysiadu a darganfod fod gan gymaint o bobl straeon i’w rhannu. A thrwy wasanaeth Bae’r Gorllewin, ry’n ni wedi cwrdd â mabwysiadwyr eraill a theuluoedd y gallwn ni droi atyn nhw am gyngor a chefnogaeth. A bellach, ry’n ni’n cynnig yr un gefnogaeth a chyngor iddyn nhw.