Blog

Amser Gwanwyn ar y Fferm: Diwrnod o Gysylltiad a Llawenydd

Roedd ein ‘Diwrnod Gweithgareddau Mabwysiadu’ diweddar, Amser Gwanwyn ar y Fferm, yn achlysur gwirioneddol arbennig, gan ddod â phlant a darpar fabwysiadwyr o bob cwr o Gymru ynghyd mewn amgylchedd cynnes, croesawgar a llawn hwyl.

Roeddem yn falch iawn o groesawu 34 o blant, rhwng dim ond 9 mis a 7 oed, gan gynnwys pum grŵp o frodyr a chwiorydd, ynghyd â gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, canfyddwyr teuluoedd, cydweithwyr o CoramBAAF a staff y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Croesawyd hefyd 13 o ddarpar fabwysiadwyr, gan gynnwys cyplau ac unigolion, pob un yn gobeithio cymryd y cam nesaf ar eu taith fabwysiadu.