Newyddion
Cefnogi cyfathrebu cynnar: Siaradwch gyda fi
23 Mawrth 2026

Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn falch o gefnogi’r ymgyrch Siarad Gyda Fi / Talk With Me, sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd cyfathrebu cynnar wrth roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant.
I rieni a gofalwyr sy’n mabwysiadu, gall deall sut i gefnogi lleferydd, iaith a chysylltiad wneud gwahaniaeth ystyrlon i ddatblygiad a lles plentyn.
Mae’r ymgyrch yn cynnig canllawiau syml ac ymarferol i’ch helpu i adeiladu eiliadau cyfathrebu bob dydd trwy chwarae, gwrando a rhyngweithio. Isod, fe welwch ragor o wybodaeth a dolenni i adnoddau defnyddiol sydd ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg.
Siarad Gyda Fi
Mae ymennydd plant yn anhygoel! Maen nhw’n tyfu o hyd ac yn gwneud cysylltiadau newydd. Pan fyddi di’n chwarae, gwrando a siarad gyda phlant, rwyt ti’n eu helpu i ddysgu siarad ac yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw. Mae gan Siarad Gyda Fi lawer o adnoddau, tips a chyngor i dy helpu i gael plant i siarad. Bydd y pethau bach rwyt ti’n eu gwneud gyda nhw yn gwneud gwahaniaeth mawr, nawr ac yn eu dyfodol.