Newyddion
Suzanne Griffiths MBE – cydnabyddiaeth o wasanaeth ac ymddeoliad sydd ar ddod
12 Chwefror 2026
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar gyfer Cymru, wedi derbyn MBE yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin am ei gwasanaeth i ofal cymdeithasol plant.

Mae’r anrhydedd hwn yn cydnabod arweinyddiaeth barhaus Suzanne a’i chyfraniad sylweddol at ddatblygiad gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru. Ers sefydlu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, mae Suzanne wedi darparu cyfeiriad strategol a goruchwyliaeth, gan gefnogi model cenedlaethol cydweithredol sy’n dwyn ynghyd wasanaethau mabwysiadu rhanbarthol, awdurdodau lleol ac asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol er mwyn gwella cysondeb, ansawdd a chanlyniadau i blant a theuluoedd.
Mae Suzanne hefyd wedi cadarnhau ei bwriad i ymddeol o’i rôl ar ddiwedd mis Mawrth 2026. Yn ystod ei chyfnod yn y swydd, mae wedi goruchwylio cyfnod o ddatblygiad a chydgrynhoi sylweddol ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, gan wreiddio fframweithiau cenedlaethol, cryfhau gwaith partneriaeth a chefnogi gwelliant parhaus ar draws y system.
Yn 2025, cyflawnodd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol nifer o flaenoriaethau allweddol. Roedd y rhain yn cynnwys lansio a gweithredu Fframwaith Rhinweddau a Sgiliau newydd i gefnogi ymarfer mabwysiadu ledled Cymru; treialu Adroddiad Mabwysiadu Plentyn wedi’i ddiweddaru (CAR B), a ddatblygwyd ar y cyd â Coram BAAF, i adlewyrchu ymarfer mabwysiadu cyfoes; a chyflwyno’r ymgyrch genedlaethol ‘Nawr yw’r Amser Cywir’ i ymateb i heriau recriwtio sy’n dod i’r amlwg o fewn y system fabwysiadu.
Drwy gydol y cyfnod hwn, mae Suzanne wedi parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod teuluoedd mabwysiadol yn gallu cael mynediad at wybodaeth briodol, cefnogaeth a gwasanaethau ôl-fabwysiadu, yn enwedig yng nghyd-destun pwysau ehangach ar deuluoedd a gwasanaethau cyhoeddus.
Wrth i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol edrych ymlaen at 2026, hoffem gydnabod yn ffurfiol arweinyddiaeth a chyfraniad hirdymor Suzanne a’i llongyfarch ar yr anrhydedd cenedlaethol haeddiannol hwn. Estynnwn hefyd ein diolch i gydweithwyr ar draws gwasanaethau rhanbarthol, awdurdodau lleol, asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol a sefydliadau partner am eu hymrwymiad parhaus i gefnogi plant i gyflawni parhauster o fewn teuluoedd cariadus a sefydlog.