Adroddiad y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar Gymorth Mabwysiadu yng Nghymru
Rydym yn falch o gyhoeddi'r adroddiad hwn ar ymchwil a gwblhawyd ar gyfer GMC gan y Sefydliad Gofal Cyhoeddus ym Mhrifysgol Oxford Brooks.
Daw'r canfyddiadau o weithgarwch a gynhaliwyd ym mis Hydref a mis Tachwedd 2020. I gyd, clywodd yr astudiaeth gan dros 430 o unigolion yn ymwneud â chymorth mabwysiadu yng Nghymru, gan gynnwys 313 o rieni mabwysiadol.
Mae'r adroddiad yn rhoi darlun calonogol o welliannau o ran argaeledd cymorth mabwysiadu yng Nghymru a phositifrwydd ymhlith teuluoedd mabwysiadol wrth ofyn am a derbyn cymorth, ac yn disgrifio gwasanaethau newydd ychwanegol ac arloesol. Mae'r astudiaeth hefyd yn rhoi cipolwg pwysig ar anghenion presennol teuluoedd mabwysiadol ochr yn ochr â nodi'r gwaith pellach sydd ei angen i greu gwasanaethau cyson a chynaliadwy.
Bydd yr adroddiad yn parhau i weithredu fel glasbrint ar gyfer cynnal y trefniadau gwell a datblygu yn y dyfodol. Mae'r canfyddiadau'n cyd-fynd â chorff cynyddol o ymchwil sy'n dangos sut mae anghenion plant mabwysiedig yn debycach i blant sy'n 'derbyn gofal' na phlant eraill mewn perthynas â'u hanghenion emosiynol, iechyd a lles uwch. Gellir darllen yr adroddiad llawn yma.
Mae'r prif ganlyniadau'n cynnwys:
By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again