MABWYSIADU YNG NGHYMRU HEDDIW 

Mae sicrhau sefydlogrwydd i blant yn egwyddor sylfaenol o'r fframwaith deddfwriaethol yng Nghymru ac o bob ymarfer gwaith cymdeithasol gyda phlant a theuluoedd. Mae dewis y math cywir o sefydlogrwydd mor bwysig.  Mae'n dibynnu ar ddealltwriaeth gadarn a dadansoddiad o anghenion ac amgylchiadau'r plentyn, yn ogystal â'r gwahanol opsiynau sefydlogrwydd sydd ar gael a'r hyn y maent yn ei gynnig.

Er mwyn gwneud y penderfyniad cywir ar gyfer pob plentyn rhaid i ni ystyried opsiynau realistig ar gyfer sefydlogrwydd ac yn y pen draw bydd yr opsiwn hwn yn darparu'r math o rianta i ddiwallu anghenion y plentyn a bydd yn ei helpu i adfer o drawma – nid yn unig nawr ond drwy ei oes. I rai plant, gellir sicrhau sefydlogrwydd trwy ddychwelyd i'w teulu yn llwyddiannus, lle bu'n bosibl mynd i'r afael â'r ffactorau ym mywyd y teulu a arweiniodd at y plentyn yn derbyn gofal. Ar gyfer plant eraill, gall llwybrau tuag at sefydlogrwydd gynnwys gofal a ddarperir gan deulu a ffrindiau, yn enwedig pan fydd gorchymyn cyfreithiol yn gallu cefnogi gofal o'r fath.  Ac i rai plant nad ydynt yn gallu dychwelyd at eu rhieni neu deulu ehangach, mae mabwysiadu'n cynnig teulu newydd parhaol gydol oes yn gyfreithiol.

 

Cynlluniwyd y 4 modiwl sydd wedi’u recordio ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.

 

Gwyliwch rhan 1
Mae Mabwysiadu Modern 1 yn fodiwl cyn-gymhwyso sy'n rhoi trosolwg cyffredinol o fabwysiadu a sut beth ydyw yng Nghymru heddiw. Mae hefyd yn cynnwys dealltwriaeth o rôl mabwysiadu o ran cynllunio gofal ar gyfer rhai plant, a rolau a chyfrifoldebau'r gwahanol ymarferwyr dan sylw.

 

Gwyliwch rhan 2
Mae Mabwysiadu Modern 2 yn fodiwl ôl-gymhwyso sy'n ymdrin â manylion y gwaith mabwysiadu drwy achosion gofal, a rôl y gweithiwr cymdeithasol gofal plant wrth ddangos yr angen i fabwysiadu.

 

Gwyliwch rhan 3
Mabwysiadu Modern 3 yw’r ail fodiwl ôl-gymhwyso a gynlluniwyd ar gyfer ymarferwyr sy'n ymwneud â chynllunio gofal i blant gyda mwy o fanylion am sut rydym yn cynllunio ac yn sicrhau sefydlogrwydd i blant a rôl mabwysiadu yn hyn o beth.

 

Gwyliwch rhan 4
Mabwysiadu yng Nghymru heddiw: Goblygiadau Ymarfer i Cafcass Cymru
Mae'r modiwl wedi'i recordio hwn wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer gwarcheidwaid plant ac mae'n edrych ar sut mae mabwysiadu yng Nghymru yn moderneiddio a goblygiadau hyn i warcheidwaid wrth gynrychioli buddiannau gorau plant ar hyd eu hoes yn y llys.

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again