Mae mabwysiadu yn ddewis arwyddocaol sy'n newid bywyd - un o'r rhai mwyaf tyngedfennol y gall unrhyw un ei wneud. Mae'r broses fabwysiadu yn gofyn am ymroddiad, cryn amser a chanolbwyntio. Ond yn bwysicaf oll, mae angen cefnogaeth gan anwyliaid a chyflogwyr.
Lawrlwythwch y pecyn cymorth
Er mwyn cynorthwyo busnesau i ddarparu'r cymorth priodol i'w gweithwyr, rydym wedi curadu pecyn cymorth cyflogwr. Mae’r canllaw rhad ac am ddim hwn yn grymuso cyflogwyr i gynorthwyo darpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr cymeradwy, o fewn a thu hwnt i faes eu busnes.
Mae ein pecyn cymorth yn rhoi cyfeiriad a chymorth, gan gynnwys gwybodaeth am:
• Sut i hybu cymorth mabwysiadu yn eich gweithle
• Cynnig absenoldeb rhiant i rieni sy'n mabwysiadu
• Rhoi cyhoeddusrwydd i'ch cefnogaeth i fabwysiadu ar-lein
• Helpu rhieni newydd
• Cymryd rhan mewn trafodaethau mabwysiadu gyda'ch cyflogeion
Ymunwch â ni i eiriol dros driniaeth deg i rieni mabwysiadol yn y gweithle. I gael cyngor mwy cynhwysfawr ar sut i wella eich polisïau ac arferion mabwysiadu, lawrlwythwch ein pecyn cymorth ‘Mabwysiadu yn Eich Busnes' yma.
By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again