Yn Nhymor 2, rydym yn dwyn ynghyd saith teulu o bob rhan o Gymru i drafod y plant sy’n aros hiraf i gael eu mabwysiadu ar hyn o bryd a pham. Os hoffech chi ddysgu mwy am fabwysiadu, mae ein teuluoedd yn rhannu golwg onest ar fynd drwy’r broses a bywyd fel teulu.

 

Cliciwch yma i wylio'r penodau fideo ar YouTube.

 


T2. Pennod 6 - Y Bobl Ifanc Piau Hi

Yn y bennod olaf arbennig hon, ry'n ni'n clywed o lygad y ffynnon gan bobol ifanc wedi eu mabwysiadu. Y bobl ifanc piau hi! Ydyn, maen nhw am ddweud eu dweud! Mae Mimi, Sarah a Seren oll yn rhan o grwpiau Connected, sy'n cael eu rhedeg gan Adoption UK ar ran y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Maen nhw'n trafod rhai o'r heriau maen nhw wedi eu hwynebu, yn ogystal â siarad am eu rhan yn herio y camsyniadau sydd gan eraill am fabwysiadu a sut maen nhw'n dylanwadu ar bolisi.


T2. Pennod 5 - Mae Pawb yn Gallu Mabwysiadu

Pwy sy’n gallu mabwysiadu? Ydw i’n gallu mabwysiadu os dwi mewn cwpwl un rhyw? Neu yn sengl? Neu o ddiwylliant arbennig? Yn y bennod hon ry’ ni'n ceisio cywiro'r camargraff sydd gan rai am bwy sy’n gallu gwneud cais i fabwysiadu, a thrafod pam fod cael pwll eang o fabwysiadwyr amrywiol i ddewis ohono yn hanfodol bwysig i’r plant sy’n aros am riaint. Ry’n ni’n clywed am y gofidion oedd gan Gwawr a Rhys – y ddau mewn cyplau un rhyw - cyn iddyn nhw wneud eu ceisiadu nhw i fabwysiadu. I gloi, mae Rachel, Gwawr a Rhys yn siarad am y fraint o gael magu eu plant.


T2. Pennod 4 - Help Llaw Yn Yr Ysgol

Beth mae bywyd ysgol yn meddwl i blentyn mabwysiedig? Sut mae sicrhau bod eich plentyn yn cael y profiad gorau o fyd addysg? Yn y bennod hon ry’n ni’n dod i ddeall pa mor gyffredin yw Angenion Dysgu Ychwanegol mewn plant wedi eu mabwysiadu. Ry’n ni’n clywed gan Rhys am y modd mae e wedi cyd-weithio gyda’r ysgol i wella profiad ei fab, mae Gwawr yn siarad am y pwysigrwydd o gyfathrebu ac estyn allan am gymorth lle bod angen ac mae Rachel yn sôn am ddewis yr ysgol iawn ar gyfer eich plentyn chi.


T2. Pennod 3 - Cariad a Thrawma

Ydy cariad yn gallu gorchfygu effaith trawma? Sut mae trawma yn amlygu ei hun mewn plentyn mabwysiedig? Pa gymorth a chynhaliaeth sydd ar gael i deuluoedd? Yn y bennod hon ry’n ni’n trafod effaith hir-dymor trawma yn mywyd cynnar plentyn sydd wedi mabwysiadu, y modd mae hyn yn cael ei drafod yn ystod y broses fabwysiadu a’r modd mae ein rhieni yn delio gydag e o dydd i ddydd wrth rianta. Fe wnawn ni glywed gan Rhys, Gwawr a Rachael am ddull rhianta mewn modd therapiwtig. Mae Rhys yn siarad am egwyddorion PACE – Playfulness, Acceptance, Curiosity and Empathy – tra bod Rachel a Gwawr yn ein hatgoffa ni bod pethau ddim wastad yn berffaith, ond bod cariad - a dweud sori - yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.


T2. Pennod 2 - Cadw a Chreu Cysylltiadau

Sut mae cadw cysylltiad gyda theulu geni plentyn sydd wedi mabwysiadu? A sut mae estyn allan a chreu cysylltiadau gyda brodyr a chwiorydd plentyn, plant sydd erbyn hyn ar wasgar o bosib? Yn y bennod hon mae ein rhieni yn rhannu eu profiadau nhw o’r broses o gyfathrebu gyda theuluoedd geni eu plant, ynghyd â theuluoedd maeth, ac am y ffordd maen nhw’n trin a thrafod disgwyliadau eu plant. Mae Rhys yn sôn am gwrdd â mam biolegol ei fab a Rachel yn siarad am y ffaith bod rhiant un plentyn yn ymateb i’w llythyrau blynyddol, tra bod rhiant ei merch arall ddim yn gwneud a’r dolur mae hynny yn gallu achosi - ond pwysigrwydd y broses er gwaetha’ hyn. Mae Gwawr yn trafod cydnabod hanes a stori ei merched.


T2. Pennod 1 - Ein taith fabwysiadu

Sut 'ych chi'n dechrau meddwl am fabwysiadu plentyn? Beth yw'r broses y mae'n rhaid ichi fynd drwyddi a pha benderfyniadau anodd a chymhleth sy'n dilyn? Yn y bennod gyntaf hon o gyfres newydd mae tri rhiant o Gymru yn rhannu eu profiadau nhw o'r broses o fabwysiadu plant a'u cyflwyno i'w cartrefi parhaol. Maen nhw'n siarad am ddwyster y broses, dysgu amdanyn nhw'u hunain, addasu disgwyliadau, siom a gorfoledd y broses baru, trawma, a mwy.


Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again