Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yw’r opsiwn cynllunio gofal sy’n rhoi sylfaen ddiogel i blentyn cyn gynted â phosibl, pan fydd wythnosau a misoedd yn wirioneddol bwysig; gall gefnogi datblygiad iach yr ymennydd ac ymlyniad drwy berthynas ddiogel, rhagweladwy gydag oedolion sensitif, a lleihau'r symudiadau gofidus sy'n achosi trawma pellach. SCC yw'r term ymbarél a roddir i'r arfer o leoli plant, gyda gofalwyr maeth sydd hefyd wedi'u cymeradwyo fel darpar rieni mabwysiadol. Mae gofalwr SCC yn cefnogi'r plentyn yn yr un ffordd â gofalwyr maeth prif ffrwd eraill, gan ymgymryd â'r holl dasgau maethu, gan gynnwys hwyluso cyswllt. Os yw cynllun gofal y plentyn yn dod yn gynllun mabwysiadu, mae gofalwyr SCC yn gallu mynd ymlaen i gynnig cartref parhaol hirdymor i'r plentyn hwnnw.
Yng Nghymru, mae SCC yn faes ymarfer cynyddol sy'n seiliedig ar fframwaith SCC. Mae ein fframwaith cenedlaethol ynghyd â'r holl ddogfennau ategol sydd eu hangen arnoch wrth feddwl am gynllunio gofal ar gael isod.
Cynhyrchwyd y canllaw arfer da hwn gan AFKA Cymru ar ran y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn cydnabod pwysigrwydd rhannu arfer wrth i ni adeiladu ein profiad o weithio o dan fframwaith SCC. Yn yr adran hon mae ystod o wybodaeth sy'n cefnogi dysgu ymarfer o fewn eich gwasanaeth.
Ffilmiwyd y cyfweliad hwn ym mis Ebrill 2023, gyda'r nod o rannu peth o'r profiad rheoli achos cyntaf yng Nghymru a gynhaliwyd o fewn Fframwaith SCC. Yn y fideo, byddwch yn clywed myfyrdodau gweithwyr cymdeithasol mabwysiadu, maethu a gofal plant sydd wedi cefnogi plentyn o dan gynllun gofal SCC, gyda gofalwyr SCC Laura a Jonny. Nod y fideo hwn yw rhoi cipolwg i ymarferwyr a thimau sy’n ystyried datblygu SCC yn eu gwasanaeth. Mae'n cynnig cyfle i glywed drostynt eu hunain yr elfennau cadarnhaol o gefnogi cynllun gofalwyr SCC a'r heriau a allai godi wrth i weithwyr proffesiynol ddechrau gweithredu ymarfer SCC.
Gofalwyr SCC: Stori Laura a Jonny.
"roedd yna ansicrwydd, ond roedden ni wir yn gwerthfawrogi'r amser gyda'n mab yn ystod y cyfnodau cyntaf hynny, pan oedd yn profi pethau am y tro cyntaf, a ffurfio bond....roedd hynny o werth mawr i'n mab a'i ymlyniadau o fewn ein teulu."
Yn y fideo hwn byddwch yn clywed gan y rhieni, Laura a Jonny, a ddaeth ymlaen i dyfu eu teulu trwy fabwysiadu ond sy'n dewis gwneud hyn trwy lwybr Sefydlogrwydd Cynnar Cymru. Fel rhai o'r gofalwyr cyntaf yng Nghymru i gael eu cymeradwyo o dan Fframwaith SCC, dangosodd Laura a Jonny ymrwymiad cryf i ofalu am eu mab tra bod penderfyniadau'n cael eu gwneud am ei ddyfodol. Yn y fideo hwn maent yn rhannu eu taith drwy'r broses faethu a mabwysiadu ac yn rhoi eu mewnwelediadau personol o ran y pethau cadarnhaol a'r heriau y mae SCC wedi'u cyflwyno iddyn nhw a'u teulu.
Gofalwyr SCC - Stori SCC Louise a Adam
Mae Louise ac Adam yn rhieni mabwysiadol i ddau fachgen bach gwych, Jack, 3 oed a George, 8 mis oed. Mae eu taith yn unigryw, gan eu bod yn un o'r teuluoedd cyntaf yng Nghymru i gefnogi plentyn drwy Sefydlogrwydd Cynnar Cymru. Mae Louise ac Adam wedi bod yn ddigon caredig i rannu eu taith, gan roi cipolwg gwerthfawr ar eu profiadau o SCC fel mabwysiadwyr ail dro.
Gweler yn atodedig Gylchlythyr Gwanwyn 2024 SCC, gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd SCC ledled Cymru.
Am ragor o wybodaeth neu os oes gennych ymholiadau’n ymwneud â SCC, e-bostiwch Laura Betts yn laura.betts@adoptcymru.com.
Mae'r adnoddau hyn y gellir eu lawrlwytho yn rhan o Sefydlogrwydd Cynnar Cymru: Fframwaith ar gyfer Ymarfer.
Anogir ymarferwyr i ddefnyddio'r deunyddiau ffynhonnell hyn i gefnogi eu hymarfer.
Page |
Templates |
Format |
Download link |
5 |
Adran 1 Siart Llif 1: |
|
|
9 |
Adran 2 Modiwlau wedi’u recordio |
|
2a E-module for Practitioners |
2b E-module for Adoption and Fostering Panels |
|||
2c E-module for Judiciary |
|||
2d E-module for Family and Friends |
|||
10 |
Siart Llif 2: |
|
|
15 |
Adran 3 Atgyfeirio Plentyn |
Word template |
|
18 |
Adran 4 Paru ar gyfer SCC |
Word template |
|
21 |
Adran 5 Lleoli o dan SCC |
Word template |
16. Cytundeb Awdurdod Dirprwyedig
|
|
|||
|
|||
23 |
Adran 6 Recriwtio, Paratoi, Asesu a Chymeradwyo Darpar Fabwysiadwyr |
Powerpoint slides |
|
pdf (leaflet) |
|||
26 |
Siart Llif 3:
|
|
|
27 |
Siart Llif 4: |
|
|
31 |
Gwybodaeth i Ganolwyr |
Word document |
|
32 |
Gofalwyr SCC a Chyllid |
Word document |
|
33 |
Adran 7 Paratoi, Asesu a Chymeradwyo Gofalwyr SCC |
Online webinar |
Fostering Training webinar |
36 |
Adroddiad Atodol ar gyfer y Panel Maethu |
Word template |
|
36 |
Rhestr Wirio SCC |
Word template |
|
36 |
Offeryn Monitro SCC |
Word template |
|
37 |
Adran 8 Gwybodaeth i Rieni |
pdf (leaflet) |
|
pdf (leaflet) |
|
||
pdf (leaflet) |
|
||
39 |
Modiwl wedi’u recordio |
|
|
40 |
Gwybodaeth i gynrychiolwyr cyfreithiol rhieni |
pdf (leaflet) |
|
41 |
Rhestr Wirio Ymarferydd Gofal Plant |
Word template |
|
42 |
Adran 9 Pan fydd plentyn yn dychwelyd at ei rieni |
Word template |
|
Word template |
|||
44 |
Adran 10 Ar ôl penderfyniad Gorchymyn Lleoli |
Word template |
|
Adroddiad Atodol Cymru Gyfan | Word template | Adroddiad Atodol Cymru Gyfan |
By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again