Os ydych yn LHDTC+ yng Nghymru, GALLWCH fabwysiadu.
Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a’n saith asiantaeth fabwysiadu ranbarthol ac Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol yn croesawu ymholiadau gan bawb, waeth beth fo’u cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Ni fydd byw gyda HIV, neu brofiad blaenorol o faterion iechyd meddwl, yn eich atal rhag mabwysiadu chwaith – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dangos bod gennych yr iechyd a’r egni i ddiwallu anghenion y plentyn hyd at oedolaeth.
Mae ymchwil yn y DU* yn dangos y canlynol:
Mae ansawdd y berthynas rhwng rhiant a phlentyn yn union yr un fath pan fo plant yn cael eu mabwysiadu gan gyplau lesbiaidd neu hoyw o gymharu â chyplau heterorywiol.
Mae datblygiad seicolegol a lles plant yr un fath pan fo plant yn cael eu mabwysiadu gan gyplau lesbiaidd neu hoyw o’u cymharu â chyplau heterorywiol.
Mae mabwysiadwyr lesbiaidd a hoyw yn fwy tebygol na mabwysiadwyr heterorywiol o fod wedi dod i fabwysiadu fel eu dewis cyntaf.
Roedd mabwysiadwyr lesbiaidd a hoyw yn teimlo eu bod wedi'u paratoi'n dda i helpu plant i ddelio â gwahaniaeth ac y byddai gan blant fanteision tyfu i fyny o fod yn oddefgar o wahaniaeth mewn eraill.
Nid yw plant mabwysiedig rhieni lesbiaidd a hoyw yn profi mwy o broblemau yn yr ysgol ac mewn perthnasoedd cyfoedion o gymharu â phlant rhieni heterorywiol ac mae bwlio a phryfocio yn brin.
*First4Adoption 2020.
Pa gymorth sydd ar gael i fabwysiadwyr LHDTC+?
Mae ein gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn agored i'n holl fabwysiadwyr. Os oes angen cymorth arnoch ar unrhyw gam o'r broses fabwysiadu, cysylltwch â'ch tîm cymorth mabwysiadu lleol.
Mae New Family Social yn elusen yn y DU ar gyfer mabwysiadwyr LHDTC+ a gofalwyr maeth gyda gwybodaeth am fabwysiadu a maethu LHDT+, cyfarfodydd aelodau, digwyddiadau, cymorth a gwasanaethau dod o hyd i deuluoedd.
Stonewall yw'r elusen lesbiaidd, hoyw a deurywiol ledled y DU, ac mae'n darparu gwybodaeth ac adnoddau am bob agwedd ar rianta gan gynnwys mabwysiadu.
Byddwn yn gweithio gyda mabwysiadwyr LHDTC+ i ddatblygu’r rhan hon o’n gwefan i sicrhau ein bod yn darparu’r wybodaeth sydd fwyaf defnyddiol iddynt hwy i’n mabwysiadwyr.
Canllaw i Fabwysiadu LGBTQ+ gan Wasanaeth Mabwysiadu Dewi Sant
About
Mae'r Canllaw Mabwysiadu LGBTQ+ gan Goleg Dewi Sant yn adnodd amhrisiadwy i'r rhai sy'n cychwyn ar y daith fabwysiadu. Gyda mewnwelediadau didwyll gan eiriolwyr, mae'r canllaw yn mynd i'r afael yn gynnes â phryderon, gan hyrwyddo cynhwysol a chefnogol awyrgylch. Mae'n amlygu agweddau cadarnhaol megis cofleidio amrywiaeth, llywio deinameg teulu, a herio normau cymdeithasol. Trwy drafod iechyd meddwl, ystyriaethau meddygol, ac ymarferoldeb fel cyflogaeth a thai yn agored, mae Coleg Dewi Sant yn sicrhau dealltwriaeth gyfannol. Mae'r canllaw yn dathlu llwyddiant lleoliadau LGBTQ+, gan arddangos ymrwymiad yr asiantaeth i baru amrywiol. Gyda naratifau dyrchafol ac arweiniad ymarferol, mae’r canllaw hwn yn esiampl i fabwysiadwyr gobeithiol LGBTQ+, gan feithrin hyder, gwytnwch ac ymdeimlad o berthyn.
https://issuu.com/stdavids.adoption/docs/_lgbtq_adoption_guide_welsh
By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again