Hannah yw Rheolwr Cofrestr Mabwysiadu yn y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ac mae wedi bod yn weithiwr cymdeithasol ers ugain mlynedd.
Gan weithio gyda phlant a theuluoedd drwy gydol ei gyrfa, mae Hannah wedi gweithio fel gweithiwr cymdeithasol gofal plant, Swyddog Adolygu Annibynnol, lle bu’n goruchwylio cynlluniau gofal plant, ac yn fwyaf diweddar fel Rheolwr y Gofrestr Fabwysiadu.
Yn ei gwaith gyda’r Gofrestr Fabwysiadu, mae Hannah yn gweithio gyda mabwysiadwyr sydd newydd eu cymeradwyo, a phlant sy’n aros am deulu, wrth iddynt ddod ar y gofrestr fabwysiadu.
Ochr yn ochr â thîm profiadol y Gofrestr Fabwysiadu, mae Hannah yn helpu i nodi paru posibl rhwng plant a darpar fabwysiadwyr trwy gyfathrebu agos a rheolaidd ag asiantaethau.
Ei phrif rôl yw sicrhau bod y gofrestr yn gweithio’n dda o ran paru plant â mabwysiadwyr sydd â’r sgiliau, y rhinweddau, a’r ffordd o fyw i sicrhau bod anghenion y plentyn yn cael eu diwallu’n briodol.
Gan ystyried ffactorau fel hunaniaeth, iechyd, a chyswllt, ei nod yw sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y cyfle gorau i gael eu paru’n llwyddiannus.
Meddai Hannah...
“Y prif sgiliau a rhinweddau y mae gweithwyr cymdeithasol yn chwilio amdanynt mewn darpar fabwysiadwyr yw amynedd, tosturi, a hyblygrwydd. Ochr yn ochr â hyn, y gallu i gymryd bob dydd fel y daw ac addasu i heriau newydd.
“Bydd angen i fabwysiadwyr fod ag empathi, gwydnwch ac yn bennaf oll, synnwyr digrifwch.
“Yn anad dim, bydd angen iddynt allu cynnig cartref diogel, sefydlog a chariadus i blentyn lle gallant ddiwallu anghenion y plentyn.”
By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again