Clare (48) and Gareth (46)

Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd 

Mabwysiadodd Clare a Gareth drwy Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd yn 2016. Grŵp o frodyr a chwiorydd. Bachgen a dwy ferch a oedd yn 4, 3 ac 1 oed pan ddaethant i’w cartref newydd yn ne Cymru. Roedd y cwpl eisiau teulu mawr a phan sylweddolon nhw na fydden nhw'n gallu cael eu teulu'n naturiol, fe benderfynon nhw fabwysiadu grŵp o frodyr a chwiorydd o dri - er y byddai Gareth wedi cymryd saith neu wyth yn hawdd - i wireddu'r freuddwyd honno. 

“Roedden ni eisiau mabwysiadu grŵp o frodyr a chwiorydd, roedden ni eisiau teulu mawr ac yn meddwl iddyn nhw y byddai hefyd yn ddiogelwch o ran niferoedd, a fyddai yn ei dro yn eu helpu i setlo i mewn ac ymgysylltu â ni yn gyflymach. Mae’n bwysig iawn cynnal unrhyw berthnasoedd cynnar sefydlog a chadarnhaol ar gyfer plant sydd wedi cael dechrau anodd mewn bywyd ac mae grwpiau brodyr a chwiorydd yn naturiol yn fwy anodd ei lleoli na phlant unigol, felly roedd yn gwneud synnwyr perffaith i ni i gyd. Da i ni a da iddyn nhw. 

“Doedden ni ddim yn poeni am oedran y plant - mae pobl yn dueddol o feddwl po ieuengaf yw’r plentyn y lleiaf yr effeithir arno, ond nid yw hyn bob amser yn wir, gan y bydd pob plentyn mabwysiedig yn dod â rhyw lefel o drawma, boed hynny’n  gysylltiad â chyffuriau a/neu alcohol yn ystod beichiogrwydd y fam naturiol, perthnasoedd wedi chwalu, esgeulustod neu gamdriniaeth. Yn anffodus, dyma stori mabwysiadu cyfoes. 

“Mae ein merch ieuengaf, a ddaeth atom yn ddim ond 13 mis oed, yn blentyn disglair a hyfryd iawn, ond gall fod yn dreisgar sy’n gwneud bywyd ysgol yn anodd. Yn ddealladwy mae hyn wedi achosi gwrthdaro ar adegau gyda rhieni eraill. Mae ganddi bellach gefnogaeth addysgu un i un llawn amser er bod ei dyfodol hirdymor o fewn addysg brif ffrwd yn dal yn ansicr.

“Maen nhw'n dweud bod plentyn ar gyfartaledd yn chwerthin 100 gwaith y dydd ond ar y dechrau anaml iawn y byddai ein plant ni - yn enwedig ein dau hynaf - yn chwerthin. Byddem yn chwarae gemau gwirion, yn gwylio rhaglenni doniol, ond yn cael ychydig iawn o adborth. Pan oedd ein merch ganol tua 6 oed fe ddaeth yn ymwybodol mai “gwartheg go iawn” oedd cig eidion, a nygets Happy Meal yn “ieir go iawn” - disgynnodd y geiniog olaf ar ganol archebu o’n McDonald’s lleol. 

“Yn yr eiliad hon hefyd y gwnaeth hi ddarganfod ei synnwyr digrifwch. Ar ôl ychydig funudau o ddistawrwydd gofynnodd, “pam groesodd yr iâr y ffordd? Er mwyn cyrraedd McDonald’s!”, gwaeddodd yn fuddugoliaethus.

“Fe wnaethon ni i gyd rholio chwerthin am ei defnydd clyfar o eironi, ond fe ddechreuodd hi grio a gweiddi ar unwaith, ‘rhowch gorau i’r chwerthin am fy mhen’. 

“Nid yw oedran cronolegol neu allu deallusol plentyn mabwysiedig bob amser yn cyd-fynd â’u hoedran emosiynol felly nid oedd yn gallu deall bod chwerthin ar yr hyn a ddywedodd, er ei bod yn gwybod bod yr hyn yr oedd wedi’i ddweud yn ddoniol ac yn cytuno ei bod wedi dweud hynny oherwydd byddai'n gwneud i ni chwerthin, nid oedd yr un peth â chwerthin ATI hi. Cymhleth iawn!

“Fel unrhyw riant, rydych chi’n dotio ar y dechrau, ond fe fydd yna eiliadau sy'n eich dal chi o unman, a realiti yn eich taro'n galed yn eich wyneb. 

“Pan aeth ein mab ar ei daith ysgol gyntaf i gastell lleol roedd yn gyffrous iawn ar y diwrnod yn arwain at y peth, ond ar y diwrnod go iawn roedd yn mynd yn fwyfwy tawel ac yn cilio. Wrth i ni adael am yr ysgol, fe drodd ata i'n drist yn sydyn a dweud, “Mam, rwyt ti wir yn mynd i weld fy eisiau i,” ac atebais y byddwn i, wrth gwrs, roeddwn i'n gweld ei eisiau bob dydd pan aeth i'r ysgol, ond byddai'n ôl amser cinio a byddwn yn ei weld wedyn am gwtsh mawr. Disgleiriodd ei wyneb ar unwaith, a dywedodd, "O, meddyliais fy mod yn mynd i fyw yn y castell." Roedd y rhyddhad ar ei wyneb bach yn dorcalonnus.

“Mae rhieni mabwysiadol yn aml yn cael eu cyfeirio at blant yn ystod y broses fabwysiadu fel eich teulu am byth. Yn syml, ni sylweddolais nad oedd ganddo unrhyw syniad beth oedd ystyr ‘am byth’ mewn gwirionedd. Yn 4 oed ar y pryd ac yn cario’i faich o gwmpas ar ei ben ei hun, heb hyd yn oed sylweddoli y gallai ei rannu.

“Dywedodd ein gweithiwr cymdeithasol wrthym am ddewis ein brwydrau. Mae’n ddarn gwych o gyngor ac yn rhywbeth rydych chi’n sylweddoli’n gyflym iawn fel rhiant. Oherwydd eu profiadau bywyd cynnar a lefel eu hangen mae gennym lawer o ffiniau cadarn iawn yn eu lle i gadw pawb yn ddiogel - yn y bôn ni fyddai ein teulu yn gweithredu hebddynt, ond lle bynnag y gallwn, rydym yn ceisio ymlacio a mynd gyda'r llif, sydd, mae'n debyg, yn agosach at ein mathau o bersonoliaeth naturiol. 

“Er enghraifft, roedd ein mab yn gwisgo ei gogls nofio bob dydd, i bob man yr aeth o’r diwrnod y symudodd i mewn nes i’r strapiau rwber ddiflannu ac roedden nhw’n cwympo’n ddarnau a byddai ein merch ganol yn gwisgo ei hoff ddillad i gyd ar yr un pryd - pob haen ar ben ei gilydd fel siopladrwr lleiaf argyhoeddiadol y byd. 

“Rydyn ni eisiau iddyn nhw fod yn nhw eu hunain, datblygu eu personoliaethau unigryw eu hunain a’u hannog i gyfathrebu â ni yn y ffordd orau iddyn nhw - o fewn rheswm wrth gwrs!

“Oherwydd eu profiadau yn y gorffennol gall ein plant ei chael yn anodd dangos a derbyn anwyldeb. Maent wedi dysgu yn aml y gallant ddefnyddio cwtsh i gael yr hyn y maent ei eisiau - weithiau gall deimlo'n debycach i arf bargeinio nag arwydd o hoffter. 

“Dydy ymadroddion sy’n cael eu defnyddio’n aml fel, dwi’n casáu chi, ddim yn cael effaith. 

“Y diwrnod o’r blaen, heb i ni ddisgwyl, fe roddodd ein merch ganol gerdyn i ni yr oedd hi wedi’i wneud i ddweud diolch am roi bywyd mor hyfryd iddi. Mae'n dod â lwmp i fy ngwddf dim ond meddwl am y peth. Llawer mwy dylanwadol! 

“Yn gymaint â’n bod ni’n dweud ein bod ni mor lwcus ein bod ni’n cael dewis ein plant (ac rydyn ni’n dweud hyn wrthyn nhw drwy’r amser, cymaint nes i’n lleiaf ni ofyn i mi y diwrnod o’r blaen a fyddwn i’n ei helpu hi i ddewis plant i’w mabwysiadu pan fyddai hi'n oedolyn), mae ein plant wedi ein hawlio ni hefyd. 

“Roedd y gofalwr maeth wedi gwneud gwaith mor wych o’u cael nhw i ddod i arfer â ni cyn i ni gwrdd â nhw trwy ddangos lluniau, fideos, hyd yn oed defnyddio ein persawr ar dedis a phyjamas, nes iddyn nhw ein galw ni’n mam a dad cyn gynted ag y gwelon nhw ni. Roedden nhw eisiau mam a thad gymaint ag oedden ni eisiau plant, ac mae hyn wedi ymestyn i'n teulu cyfan. Rydyn ni i gyd yn caru dim byd gwell na theulu mawr yn dod at ei gilydd.

“Rydym yn aml yn mynd yn rhwystredig na allwn drwsio llawer o’u problemau, ac mae eu bywydau yn ddiangen yn anoddach mewn sawl ffordd. Rydyn ni'n aml yn teimlo ein bod ni wedi cymryd mwy nag y gallwn ni ymdopi ag e, ond fel y rhan fwyaf o rieni dydych chi ddim yn gwybod beth rydych chi'n mynd i'w gael, rydych chi jyst yn delio ag ef. 

“Dy’ch chi ddim yn cael dyddiau da; ond yn hytrach eiliadau da. Maen nhw'n hollol euraidd ac ni fyddem yn ei newid am y byd. Rydyn ni'n eu caru nhw'n llwyr, yn ddiamod. 

“Nid yw’n syndod i’n mab, sy’n dal i gael trafferth gyda phroblemau ymlyniad, o ystyried ei brofiadau enbyd yn y cartref teuluol genedigol, dalu’r ganmoliaeth eithaf i mi y diwrnod o’r blaen trwy ddweud wrtha i y byddai’n dymuno iddo ddod allan o fy mol. Mae yna eiliadau fel yna pan fydd Gareth a minnau’n edrych ar ein gilydd a gwneud pawen lawen, gan gofio, dyna pam rydyn ni’n gwneud hyn. Dyna sy'n ein cadw ni i fynd. Hynny, a rhwydwaith cymorth uffernol o dda!” 

Rhannwch yr eiliadau a wnaeth eich gwneud yn deulu @nas_cymru #DewisTeulu

 

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again