Mabwysiadwyd Greg, sy'n gweithio ym maes TG yn ystod y dydd ac sy'n DJ gyda'r nos, pan oedd bron yn saith oed. Dim ond ychydig o atgofion plentyndod sydd ganddo cyn ei fabwysiadu, yn bennaf o'i amser mewn gofal maeth.
Roedd tua wyth oed pan ddeallodd beth oedd mabwysiadu - ac yn ei arddegau cynnar, darganfu nad oedd ei fam enedigol yn gallu gofalu amdano oherwydd camddefnyddio sylweddau. Mae Greg yn disgrifio ei fabwysiadu fel un esmwyth ac nid yw wedi penderfynu ai cwrdd â’i deulu biolegol - mam a brawd - yw’r penderfyniad cywir, ar hyn o bryd.
Dyma stori Greg…
“Mae fy rhieni bob amser wedi bod yn agored ynglŷn â mabwysiadu - ac i mi mae wedi bod yn esmwyth. Rwy'n gwybod bod profiad pawb yn wahanol. Gall rhai pobl ddioddef o straen ôl-drawmatig oherwydd pethau sydd wedi digwydd iddyn nhw ac mae eraill yn mynd ymlaen i gael trafferth gyda phethau fel addysg a chymdeithasu. Fodd bynnag, rwy’n credu bod fy mhrofiad wedi bod yn gadarnhaol oherwydd y math o berson ydw i, neu, sut y gwnaeth fy rhieni drin pethau; mae'n gyfuniad mae'n debyg.
“Hyd at oddeutu tair ar ddeg oed, ysgrifennais at fy mam enedigol ar achlysuron arbennig fel penblwyddi a’r Nadolig. Ond yna yn ystod yr ysgol uwchradd, dechreuodd chwaraeon, cymdeithasu a thynnu sylw o ddydd i ddydd gael effaith, a daeth y cyswllt i stop yn naturiol. Rwyf bob amser wedi cadw blwch cof gydag eitemau o fy mhlentyndod cynnar.
“Bu cyfle i mi ailgysylltu â fy nheulu genedigol - ond nid penderfyniad du a gwyn mohono. Rhaid i chi fod 100 y cant yn siŵr eich bod am ei wneud ac angen ystyried pawb dan sylw a allai gael eu heffeithio. Ar hyn o bryd, nid yw'n iawn i mi.
“Rwy’n dal i gadw llun o fy mam enedigol ar ochr y gwely. Mae'n rhywbeth y byddaf bob amser yn ei drysori.”
“Yn bendant bu adegau pan rydw i wedi bod yn reit heriol gyda fy mherthynas â fy rhieni. Cefais fy ngwahardd o'r ysgol am chwarae jôc ymarferol ar fy ffrind. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i fy rhieni dalu dirwy gan fy mod i wedi fandaleiddio eiddo ysgol. Cefais ddiagnosis o ADHD a olygai fy mod bob amser yn hwyr, yn anghofio pethau ac angen sylw ychwanegol.
“Mae gen i oddeutu wyth neu naw atgof o fy mhlentyndod cynnar. Rwy'n cofio bod gan fy nheulu genedigol gi y byddem yn cerdded i fyny allt cyfagos a oedd yn edrych dros y dref. Rwy’n cofio un o gariadon fy mam enedigol yn cael tatŵ o lew ar ei gefn mewn ystafell arall o’r tŷ. Cefais frech yr ieir hefyd cyn i mi gael fy mabwysiadu yr wyf yn ei gofio fel ddoe, a chofiaf fod fy nghasineb tuag at wyau wedi cychwyn yn fy nghartref maeth. Mae gen i gof o chwydu ar draws y gegin ar ôl bwyta wy wedi'i sgramblo am y tro cyntaf. Dwi ddim yn siŵr faint o'r atgofion hyn sy'n wir am nad oes unrhyw un i'w gwirio, ond maen nhw'n annwyl i mi oherwydd dyma’r unig lond llaw sydd gen i..
“Rwy’n cofio bod eisiau mam a dad. Yn ôl pob tebyg pan wnes i gyfarfod â fy rhieni am y tro cyntaf, rhedais i fyny at fy nhad, cydio yn ei goesau a dweud, ‘Dyma fy nhad am byth’, sy’n annwyl - ond ychydig yn chwithig pan fydd yn cael ei drafod dro ar ôl tro wrth y bwrdd cinio.
“Fel plentyn, nid oedd gen i ddatblygiad lleferydd da i ddechrau. Yn y fideo a anfonodd fy ngofalwyr maeth i'm cyflwyno i'm rhieni, yn lle Maths, dywedais ‘maps’, a mafis, yn lle massive. Dwi dal ddim yn anghofio am hynny, ond mae’n ddoniol, rhaid cyfaddef.
“Ond i fod yn onest, dydyn ni ddim yn siarad am fy mabwysiadu ryw lawer, rydw i'n aml yn anghofio fy mod i gan mai dim ond teulu bob dydd ydyn ni.”
Rhannwch yr eiliadau a wnaeth eich gwneud yn deulu @nas_cymru #DewisTeulu
By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again