Cofrestr Fabwysiadu Cymru
Fel adnodd canfod teulu ar-lein a gwasanaeth data, mae Cofrestr Fabwysiadu Cymru bellach yn fwy sefydledig mewn gwasanaethau yng Nghymru benbaladr ac mae’n dal i adnabod lleoliadau mabwysiadol ar gyfer nifer fawr o blant. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae 60 o blant wedi dod o hyd i deuluoedd parhaol drwy’r gofrestr ac mae nifer fawr yn fwy o fabwysiadwyr posibl bellach wedi cofrestru. I gael rhagor o wybodaeth am hyn a digwyddiadau gweithgareddau dod o hyd i deulu eraill a gynhaliwyd yn y flwyddyn gweler Adroddiad Blynyddol 2019-2020 sydd wedi’i atori
Dod o hyd i gartref i blant yng Nghymru.
Y gofrestr genedlaethol sy’n cysylltu ac sy’n dod o hyd i deuluoedd yw Cofrestr Fabwysiadu Cymru. Y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru sy’n ei chynnal. Mae’n cynnig gwasanaeth unigryw i gynorthwyo asiantaethau mabwysiadu Cymru sy’n dod o hyd i deuluoedd i blant a darpar fabwysiadwyr.
Tîm profiadol ac ymroddedig sy'n cyflawni gwaith Cofrestr Fabwysiadu Cymru, ac mae wedi meithrin perthnasoedd gwaith ar y cyd â phob Asiantaeth Fabwysiadu ledled Cymru er mwyn lleihau oedi i blant sy’n aros am deulu mabwysiadol, ac er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd blaengaredd a brys wrth ddod o hyd i deuluoedd i blant.
Rydym yn rheoli cronfa ddata’r Gofrestr Fabwysiadu; ar hon cedwir manylion plant sydd angen teuluoedd, a phobl sydd wedi eu cymeradwyo i fabwysiadu. Mae ein tîm profiadol yn nodi plant a darpar fabwysiadwyr y gellid eu paru drwy gysylltu’n rheolaidd ac yn agos ag asiantaethau er mwyn sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y cyfle gorau i gael eu paru’n llwyddiannus. Rydym yn chwilio am gysylltiadau i bob plentyn a mabwysiadwr ar ein Cofrestr o leiaf unwaith yr wythnos, drwy ein cronfa ddata paru a thrwy edrych ar broffiliau pob plentyn a mabwysiadwr sydd ar gael.
Ar yr un pryd, rydym hefyd yn gweithio’n agos ag Asiantaethau Mabwysiadu, ymarferwyr a mabwysiadwyr. Mae hynny'n cynnwys gwneud cysylltiadau drwy drafod ag ymarferwyr a chynnal gweithgareddau fel Diwrnodau Cyfnewidfa Fabwysiadu a Diwrnodau Gweithgareddau Mabwysiadu.
Mae Cyfarwyddiadau Deddf Mabwysiadu a Phlant, 2002 (Trefniadau Mabwysiadu ar y Cyd) (Cymru) (Diwygiad) 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod Lleol ac Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol roi manylion plant a mabwysiadwyr i Gofrestr Fabwysiadu Cymru os na wneir penderfyniad i baru o fewn tri mis i’r dyddiad y cafodd yr awdurdod lleol ei awdurdodi i drefnu i blentyn gael ei fabwysiadu, neu o fewn un mis wedi i’r mabwysiadwr gael ei gymeradwyo.
Lansiom ein gwasanaeth ym mis Mehefin 2014 er mwyn ehangu'r gronfa o ddarpar fabwysiadwyr o blant sydd angen cael eu mabwysiadu, pan nad yw'r awdurdod lleol wedi gallu eu gosod yn lleol. Mae’n ein gwneud yn bosibl nodi cyfleoedd i baru'n gynt o lawer na phe na bai'r cyfleuster hwn ar gael i bob asiantaeth fabwysiadu yng Nghymru. Hefyd yn rhan ohono y mae mecanwaith i gysylltu plant â Chofrestrau mewn rhannau eraill o'r DU, os ydynt yn bodloni meini prawf penodol.
Rydym yn cynnal amrediad o weithgareddau i baru teuluoedd â phlant. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfleoedd i ddarpar fabwysiadwyr i fod yn fwy rhagweithiol ac maent yn cynnig gwybodaeth yn uniongyrchol i fabwysiadwyr am blant sy'n aros i gael eu paru. Rydym hefyd yn gweithio gydag asiantaethau mabwysiadu i ddarparu canllawiau arfer gorau i broffilio plant.
"Diwrnod amhrisiadwy ac anhygoel, ac yn ein barn ni, dylai pob darpar fabwysiadwr allu mynd arno."
Mabwysiadwr,
Diwrnod Gweithgareddau Mabwysiadu
"Mae’n gwella eich dealltwriaeth o blant ac yn brofiad unigryw o ran meithrin cysylltiad â phlentyn."
Mabwysiadwr,
Diwrnod Gweithgareddau Mabwysiadu
"Fe wnaeth plant fwynhau'r diwrnod a hynny oedd y flaenoriaeth bennaf - Diwrnod Llawn Hwyl i blant!"
Rhiant Maeth,
Diwrnod Gweithgareddau Mabwysiadu
"Ffordd wych i baru teuluoedd. Roedd y diwrnod yn hamddenol iawn" Gweithiwr Cymdeithasol,
Diwrnod Gweithgareddau Mabwysiadu
"Mae’r cyfarfodydd yn gyfle i weithwyr cymdeithasol o bob rhanbarth drafod y plant sy'n dal i aros – ac yn aml caiff plant eu gosod mewn lleoliadau cadarnhaol o ganlyniad."
Rheolwr Mabwysiadu,
am Gyfarfodydd Ymarferwyr a gynhelir gan Gofrestr Fabwysiadu Cymru
"Bu’r sesiynau hyn yn ddefnyddiol iawn ac yn llawn gwybodaeth i mi a 'dw i wir yn gwerthfawrogi eich ymdrechion i'w cynnal."
Asiantaeth Fabwysiadu Wirfoddol sy’n rhan o Gofrestr Fabwysiadu Cymru
"Mae’r diwrnodau cyfnewidfa 'ma mor fuddiol i fabwysiadwyr. Diolch!" Mabwysiadwr,
digwyddiad Cyfnewidfa Fabwysiadu
"Gwych. Roedd yn ddefnyddiol iawn ac yn ddifyr iawn."
Mabwysiadwr, digwyddiad Cyfnewidfa Fabwysiadu
"Roedd yn dda i fabwysiadwyr gael gweld y plant sy’n aros, eu hanghenion gwirioneddol a nifer y plant. Wedi’i drefnu’n dda."
Gweithiwr Cymdeithasol,
digwyddiad Diwrnod Cyfnewidfa
"Roedd y Diwrnod Cyfnewidfa’n ddigwyddiad cadarnhaol IAWN i’n hasiantaeth ni oherwydd o ganlyniad iddo cafodd tri o blant o Gymru eu paru â dau o'n teuluoedd mabwysiadu"
Rheolwr Mabwysiadu,
digwyddiad Cyfnewidfa Fabwysiadu
Rydym yn casglu ystadegau hanfodol mewn perthynas â phlant a mabwysiadwyr yng Nghymru yn unig. Drwy gydweithio o fewn Fframwaith Rheoli Perfformiad Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, mae modd i ni fapio ymarfer a gweithgarwch presennol ym maes mabwysiadu.
Y data trosolwg a'r dadansoddiad o dueddiadau y mae'r Gofrestr yn eu darparu yw sylfaen y gwaith cynllunio strategol ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol. Yn ogystal â chynnwys gwybodaeth ar gyfer ymgyrchoedd marchnata a recriwtio sy’n targedu cynulleidfa, mae hefyd yn ddefnyddiol o ran rheoli adnoddau a chapasiti sydd eu hangen er mwyn sicrhau gwasanaethau mabwysiadu gydol oes.
Mae staff y Gofrestr yn cynnal ein Llinell Gymorth i Fabwysiadwyr bum diwrnod yr wythnos rhwng 9.00am ac 1.00pm. Mae modd i'r sawl sy’n cysylltu y tu allan i’r oriau hynny adael neges lais, a chânt ymateb y diwrnod gwaith nesaf.
029 2087 3799 yw'r rhif ffôn.
Mae Cofrestr Fabwysiadu Cymru yn trefnu cymaint o gyfleoedd â phosibl i blant a darparwyr fabwysiadwyr drwy gyfeirio at Gofrestrau eraill yn y DU pan fo hynny'n briodol, drwy’r Protocol Cyfeirio Rhwng Cofrestrau Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, sydd wedi’i ddylunio i alluogi Rheolwyr Cofrestrau pob rhanbarth i dderbyn atgyfeiriadau ac i'w gwneud.
By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again