Rydym yn gwybod bod mabwysiadu yn benderfyniad mawr. Yng Nghymru, gobeithiwn wneud y broses tuag at gael eich cymeradwyo fel rhiant mabwysiadol a dod yn deulu newydd mor llyfn â phosibl. Mae’r broses fabwysiadu yn gallu dod â gwobrwyon yn ei sgil, ond mae hefyd iddo ei heriau. Dyna pam mai’r cam cyntaf yw dod o hyd i asiantaeth fabwysiadu sy’n teimlo’n iawn i chi. Mae gweithwyr cymdeithasol mewn mabwysiadu yn brofiadol iawn ar y cyfan a byddant yn gallu ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon a allai fod gennych.
Argymhellwn ddarllen a gwneud eich ymchwil am fabwysiadu o flaen llaw, fel eich bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl cyn dechrau ar eich taith fabwysiadu. Mae’r wefan hon yn llawn gwybodaeth ac mae nifer o asiantaethau y gallwch eu ffonio am gyngor a manylion pellach.
Y cam cyntaf yw holi asiantaeth fydd yn rhoi gwybodaeth ysgrifenedig fanwl i chi ac yn cynnig cyfarfod cychwynnol lle bydd yn bosibl trafod beth mae mabwysiadu yn ei olygu, a chael atebion i unrhyw gwestiynau allai fod gennych. Bydd hyn yn digwydd o fewn 10 diwrnod gwaith i’ch ymholiad, a gall ddigwydd yn eich cartref, yn un o’n swyddfeydd neu dros y ffôn. Efallai bydd cyfle hefyd i fynd i ddigwyddiad sy’n rhoi gwybodaeth i chi a phobl eraill sydd â diddordeb mewn mabwysiadu.
Ar ôl eich cyfweliad cychwynnol, cewch ffurflen Cofrestru Diddordeb i’w chwblhau a’i dychwelyd, fel bod yr asiantaeth yn gallu dechrau eich asesu fel mabwysiadwr.
Mewn achosion prin, efallai y bydd rheswm pam na ellir derbyn eich cais. Os digwydd hyn, byddwch yn gwybod pam, ac yn y rhan fwyaf o achosion byddwch yn cael gwybod pa gamau sydd angen i chi eu cymryd er mwyn cael eich ystyried i fod yn fabwysiadwr yn y dyfodol.
Pan dderbynnir eich ffurflen Cofrestru Diddordeb, bydd yr asiantaeth yn disgwyl i chi fod ar gael i ddechrau eich asesiad cyn gynted â phosib. Os oes angen i chi wneud newidiadau, er enghraifft i’ch cartref neu eich gweithle, mae’n bosib y cewch gais i wneud hyn cyn i chi ymgeisio.
Unwaith i’ch Cofrestriad o Ddiddordeb gael ei dderbyn, bydd gweithiwr cymdeithasol yn cael ei ddynodi i chi fydd yn gweithio gyda chi, ac yn dod i wybod pa gryfderau sy’n debyg o fod gennych fel mabwysiadwr.
Ar gyfer canllawiau arfer gorau i staff ynghylch Ymholiadau Cychwynnol - Ymholiadau Cychwynnol Canllawiau Arfer Gorau
Cam 1: Gwiriadau a Chanolwyr
Dechrau’r broses pan fydd yr asiantaeth yn gwneud gwiriadau statudol ac yn gwirio geirdaon gyda’r awdurdodau a phobl yr ydych yn eu nabod. Fe gymer hyn ddau fis.
Bydd yr asiantaeth yn cysylltu â’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, yr heddlu, eich awdurdod lleol a’ch cyflogwyr (lle bo’n briodol). Cewch gais i roi manylion o leiaf dri pherson sy’n gallu rhoi sylw ar eich addasrwydd i fabwysiadu, a gofynnir i chi gael prawf meddygol, a’r canlyniadau’n cael eu rhannu gydag ymgynghorydd meddygol yr asiantaeth.
Hyfforddiant paratoi cyn mabwysiadu
Cynigir hyfforddiant gan sawl asiantaeth yn ystod Cam 1 a’r bwriad yw eich cefnogi i feddwl yn ofalus am yr hyn a olygir wrth fabwysiadu plentyn mewn gofal sydd angen teuluoedd mabwysiadol. Bydd yr asiantaeth yn disgwyl i chi fynychu’r holl hyfforddiant ac os ydych yn gwpl, bydd disgwyl i’r ddau ohonoch fynychu. Mae hyn yn gyfle da i ddysgu mwy am y plant sydd angen teulu yn ogystal â’r heriau a’r gwobrwyon sydd o’ch blaen. Mae’r grŵp yn anffurfiol a bydd hefyd yn rhoi’r cyfle i chi gyfarfod â mabwysiadwyr posib eraill sydd yn yr un safle â chi. Byddan nhw ar yr un cam yn y broses felly gallwch rannu eich profiad a helpu eich gilydd. Byddwch hefyd yn cael cyfarfod â phobl sydd eisoes wedi mabwysiadu plant.
Diwedd Cam 1
Ar ôl i’r asiantaeth gasglu’r holl wybodaeth hon a thrafod eich cais gyda chi, bydd yn penderfynu pa un ai i symud i Gam 2 ai peidio. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn rhoi gwybod i chi beth yw penderfyniad yr asiantaeth, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Lluniwyd y broses ddau-gam i sicrhau bod y rhai hynny sy’n symud ymlaen i Gam 2 mewn sefyllfa i fwrw ymlaen gyda’u cais ac yn debygol o gael eu cymeradwyo fel mabwysiadwyr ar gyfer y math o blant sydd angen teuluoedd.
Cam 2: Dod i’ch adnabod yn well
Ar y cam hwn, bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn ymweld â chi yn eich cartref ac yn trafod gyda chi pam yr ydych am fabwysiadu, y math o blant y byddech chi’n gallu gofalu amdanyn nhw orau, a’ch cryfderau a’ch addasrwydd cyffredinol. Byddan nhw hefyd yn ystyried a oes gennych chi unrhyw anghenion am gymorth. Byddwch yn siarad am eich cefndir, gan gynnwys eich profiad yn tyfu i fyny yn ogystal â sut yr ydych wedi delio â heriau neu unrhyw ddigwyddiadau straenus yn eich bywyd.
Os ydych wedi cael perthynas tymor hir o’r blaen neu os ydych wedi gofalu am blant o berthynas flaenorol, bydd eich gweithiwr cymdeithasol am drafod hyn gyda chi, a gyda’ch cydsyniad, am siarad o bosib gyda’ch partner blaenorol. Ond ni fydd hyn yn digwydd os yw’n debygol o achosi loes i chi, eich teulu neu eich cyn-bartner.
Os oes gennych blant yn barod, naill ai’n byw gyda chi neu mewn man arall, bydd angen eu holi hefyd neu, yn dibynnu ar eu hoedran, yn cael eu gweld gyda chi. Mae hyn i gyd yn ymddangos yn dipyn o her, ond bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn ei esbonio i chi ac yn gwneud yn siŵr bod pob tasg yn cael ei chyflawni mewn modd sensitif.
Pecyn Adnoddau
Rydym yn cydnabod bod llawer i’w ystyried wrth wneud cais i fabwysiadu a mynd drwy’r broses o asesu a chymeradwyo. Bydd yr asiantaeth y byddwch yn penderfynu gweithio gyda hi yn rhoi gwybodaeth a hyfforddiant i chi a fydd yn eich cefnogi i ddod yn rhieni mabwysiadol. Bydd hefyd yn gofyn i chi roi gwybodaeth amdanoch chi a meddwl am rai o’r pethau y gallech fod eisiau neu angen eu hystyried yn fanylach. Mae pecyn adnoddau wedi’i atodi sy’n cynnwys rhai ymarferion a allai fod o gymorth i chi ddechrau meddwl am rai o’r pethau hynny. Mae’r pecyn wedi’i gynllunio i chi ei ddefnyddio cymaint neu cyn lleied ag y dymunwch a gall yr asiantaeth a ddewiswch hefyd ddefnyddio rhai o’r ymarferion neu rai eraill sy’n debyg. Dolen
Ar ôl i’r asesiad gael ei gwblhau, bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn ysgrifennu adroddiad fydd yn amlinellu eich cryfderau fel mabwysiadwr, a bydd yn cyflwyno hyn i Banel Mabwysiadu annibynnol. Ar y panel, mae mabwysiadwyr profiadol yn ogystal â phobl sydd â gwybodaeth am feysydd perthnasol o fabwysiadu, ynghyd ag ymgynghorydd meddygol.
Byddant yn ystyried yr holl wybodaeth a gasglwyd yn ystod y broses asesu, ac yn gwneud argymhelliad am eich addasrwydd i fod yn rhiant mabwysiadol i’r sawl yn yr asiantaeth sy’n gwneud y penderfyniad. Byddwch yn cael gweld yr adroddiad, yn cael cyfle i roi sylwadau arno ac i fynychu’r panel.
Pan gewch eich cymeradwyo i fabwysiadu, byddwn yn dechrau chwilio am blentyn y byddwch yn gallu diwallu ei anghenion. Weithiau, bydd gan asiantaeth blentyn mewn golwg i chi. Mae hyn yn wych gan y bydd yn gwneud y broses baru yn llawer byrrach i chi, ac yn osgoi oedi diangen ar gyfer plentyn.
Gellir dod o hyd i blant mewn nifer o ffyrdd:
Os ydych yn mabwysiadu drwy ranbarth byddant yn ystyried yr holl blant sy’n aros yn y rhanbarth hwnnw
Drwy Gofrestr Fabwysiadu Cymru Yn ystod y broses asesu byddwch yn cael eich annog i roi eich manylion ar y gofrestr ar ôl i chi gael eich cymeradwyo fel bod pob asiantaeth ledled Cymru yn gwybod pryd byddwch ar gael. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn esbonio sut mae hyn yn gweithio ac mae gwybodaeth ar y wefan hon i’ch cynorthwyo i wneud hyn
Drwy fynd i Ddiwrnod Gweithgareddau Mabwysiadu - cynhelir y rhain yn flynyddol yng Nghymru a ledled y DU ac maent yn gyfle i gael rhagor o wybodaeth am y plant sy’n aros am deulu
Drwy ddigwyddiadau Cyfnewid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol lle rhennir eich manylion chi a manylion plant gydag eraill ledled Cymru mewn amgylchedd diogel a chyfrinachol
Pan fydd eich asiantaeth yn dod o hyd i blentyn y maen nhw’n ei ystyried yn addas i chi, bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn cyfnewid gwybodaeth gyda gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Dyma’ch cyfle i gael gwybod mwy am y plentyn. Byddwch yn gweld fideo neu ffotograffau ohonynt yn eu cartref maeth ac yn cael cyfle i gyfarfod â phobl allweddol yn eu bywyd, fel eu rhiant maeth presennol. Pan gewch chi’r holl wybodaeth am y plentyn ac yn teimlo’n barod i fwrw ymlaen, bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn cyflwyno’r pâr i’r panel mabwysiadu.
Mae’r aros drosodd a byddwch yn cael cyfle i gwrdd â’ch plentyn am y tro cyntaf. Cyn i blant ymuno â’u teulu newydd, dyma’r amser i’r mabwysiadwr/wyr a’r plant ddod i nabod ei gilydd drwy raglen o ymweliadau. Pan fydd y ddwy ochr yn barod bydd y plentyn/plant yn symud o’r teulu maeth i ymuno â’ch teulu chi.
Unwaith i’r plentyn neu blant symud i mewn bydd yna gyfnod o fyw gyda’ch gilydd. Yn ystod y cyfnod hwn bydd yr asiantaeth yn parhau i ymweld ac yn eich cefnogi i ddod i nabod eich gilydd yn well.
Ar ôl lleiafswm o 10 wythnos, cewch gyfreithloni’r mabwysiadu a gwneud cais i’r llys am Orchymyn Mabwysiadu. Gall eich gweithiwr cymdeithasol a gweithiwr cymdeithasol y plentyn eich helpu i benderfynu pryd mae’r amser iawn i wneud cais i’r llys. Unwaith i’r llys ganiatáu Gorchymyn Mabwysiadu bydd yr holl gyfrifoldeb rhianta cyfreithiol yn symud i chi a bydd y plentyn wedyn yn cymryd eich cyfenw.
Adeiladu eich dyfodol
Bydd yr wythnosau a’r misoedd i ddod yn gyffrous iawn ond hefyd yn heriol, weithiau mewn ffyrdd annisgwyl. Bydd gweithwyr cymdeithasol felly yn dal wrth law i roi cymorth. Byddan nhw’n gallu rhannu ystod eang o strategaethau cymorth ymarferol yn ogystal â chymorth emosiynol i’r holl deuluoedd mabwysiadol cyn hired ag sydd angen.
By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again