Mae #GweldYPlentynCyfan yn ymgyrch agored a gonest i annog pobl sy’n ystyried mabwysiadu i ddod at y broses gyda meddwl agored.
Wrth i ni gyhoeddi ein hail Adroddiad Blynyddol, sy’n dangos gwelliant sylweddol mewn mabwysiadu ledled Cymru, mae anghenion criw bychan o blant sy’n aros hiraf fel rheol wedi cael eu datgan fel ffocws allweddol. Mae cadw grŵp o dri neu fwy o frodyr a chwiorydd gyda’i gilydd yn her. Mae’r plant eraill y mae’n anos dod o hyd i fabwysiadwyr addas ar eu cyfer yn aml wedi dioddef o gam-drin yn ifanc yn eu bywydau neu cyn cael eu geni ac, oherwydd hyn, efallai bod ganddynt anghenion sylweddol yn nes ymlaen yn eu bywydau, gan gynnwys anghenion corfforol a datblygiadol.
Mae arnom ni angen pobl sydd â lle yn eu bywydau i blentyn, cariad i’w roi ac amynedd – rhinweddau unrhyw riant da.
Os ydych chi’n gallu edrych y tu hwnt i’r heriau hyn a gweld y plentyn cyflawn, gyda’n cefnogaeth ni, byddwch yn gwneud gwahaniaeth i’ch bywyd chi a’u bywyd nhw. Cysylltwch a ni
Gweld y plentyn cyfan : Storiau
By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again