Sut oedd y broses fabwysiadu i chi?

Fe gawson ni brofiad cadarnhaol iawn a dros y cyfnod asesu o chwe mis fe adeiladon ni berthynas dda, agored a gonest gyda’n gweithiwr cymdeithasol, sy’n bwysig iawn dwi’n credu. Fe wnes i fwynhau ein sesiynau wythnosol gyda’n gweithiwr cymdeithasol; gan ddefnyddio’r amser i edrych ar feddyliau a theimladau’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol o ran dod yn rhiant a bywyd yn gyffredinol.

Roedd y cyfnod hyfforddi o dridiau yn ddwys ond gwerth chweil. Roedd yr hwylusydd yn wych. Roedd hi’n grêt cael bod gyda darpar fabwysiadwyr eraill. Roedd y sesiynau’n cynnig darlun ‘cytbwys’ i ni o ran plant mewn gofal a’r profiadau negyddol maen nhw’n eu dioddef yn aml. Mae gen i ddiddordeb mewn seicoleg a chymdeithaseg ta beth, felly roedd ailedrych ar stwff ro’n i wedi’i ddarllen am ddatblygiad plant yn ddiddorol iawn i fi.

Roedd y broses, i ni, yn teimlo’n eithaf strwythuredig a phroffesiynol – ond dyw hi ddim yn daith hawdd pan mae eich bywydau’n brysur a phethau eraill yn mynd ‘mlaen.

 

Sut brofiad oedd hyn o gymharu â’ch disgwyliadau?

Gwell o lawer! Dwi’n credu, am resymau dealladwy, fod y syniad o fabwysiadu – a beth sydd ei angen i gael eich cymeradwyo a chwrdd â’ch plentyn yn y pendraw – yn frawychus i lawer o bobl, gan gynnwys fi. Dwi wedi dysgu ffyrdd o reoli gorbryder yn fy mywyd, ond dyw hynny ddim y golygu ‘mod i ddim yn cael y meddyliau a’r teimladau ‘na. Roedd fy mhartner yn well am gadw ei ben ac yn poeni llai, a wnaeth helpu. Mae’n ‘naid ffydd’ fawr o hyd, fel petai, ond mae’r paratoi, hyfforddi, dysgu a siarad yn gwneud lot i droi hyn yn realiti.

Sut deimlad oedd cwrdd â’ch plentyn am y tro cyntaf?

Roedd yn sefyll yn ffenest ei ofalwr maeth yn aros amdanom ni, gyda gwên enfawr ar ei wyneb a’r llygaid pertaf welsoch chi! Gwnaeth hyn ddilyn sawl wythnos o gyfnewid lluniau a fideos, rhyngom ni a’i ofalwr maeth. Mae llawer o fabwysiadwyr yn sôn am deimlad ‘swreal’ o gwmpas y cyfnod hwn, sy’n ddealladwy dwi’n credu ar ôl profiad mwy ‘haniaethol’ yn ystod y broses o baratoi ar gyfer – a chwrdd â’ch – plentyn mabwysiedig.

Y ‘cyflwyniadau’ oedd un o brofiadau mwyaf anhygoel a blinedig fy mywyd, siŵr o fod. Ro’n i a fy mhartner wedi blino’n lân bob dydd yn ystod y bythefnos ‘na. Mae’r cyfuniad emosiynol, corfforol a seicolegol o beth sydd ei angen yn brofiad unigryw.  Wedi dweud hynny, roedd gyrru adref gyda’n mab ar y diwrnod olaf yn brofiad dwfn iawn. Ro’n ni’n gwybod, yn y foment honno, wrth edrych arno yn nrych ôl y car, fod ein bywydau ni wedi newid am byth. Gwnaeth yr ymdeimlad o gyfrifoldeb a’r dyhead i’w warchod wawrio arnom ni go iawn.

Ry’n ni’n llawn edmygedd i’n gofalwr maeth. Mae hi’n llawer mwy i ni nag wythnos ‘gyflwyno’; mae hi’n rhan o stori ein mab a’i fywyd. Ry’n ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n siarad amdani gyda’n mab.

 

Sut gwnaethoch chi benderfynu pa blentyn fyddai orau i chi?

Wel, mae hon yn broses unigryw sy’n digwydd rhwng mabwysiadwyr a’u gweithiwr cymdeithasol/asiantaeth; ac mae gormod o wahaniaethau i’w trafod a allai effeithio ar y canlyniad unrhyw bryd.

Yn y pendraw, anghenion y plentyn sy’n dod gyntaf, ond fe wnaethom ni siarad am ein dymuniadau, ein gobeithion a’n hofnau a beth fydden ni’n gallu neu ddim yn gallu ymdopi ag ef o ran bodloni anghenion plentyn. Treuliodd ein gweithiwr cymdeithasol chwe mis yn dod i’n nabod ni, felly roedd ganddi syniad digon da dwi’n meddwl. Mae hi’n bwysig cydbwyso’r hyn yr oeddech chi’n gobeithio amdano â phopeth ry’ch chi wedi’i ddysgu am blant mewn gofal, ac i gadw meddwl agored. A minnau’n 48 oed, fel gofalwr sylfaenol ro’n i’n dychmygu plentyn o oedran ysgol, er enghraifft, ond yn y pendraw dim ond dwy oed oedd ein mab pan ddaeth adref gyda ni. Digwyddodd popeth yn gyflym iawn, a dweud y gwir, ond fel dwedais i, mae pob proses fabwysiadu’n wahanol. 

 

Beth oedd y rhan fwyaf heriol o’r broses fabwysiadu?

I ni, y camau olaf cyn mynd i’r panel, ac mae’r gwiriadau cyfreithiol a’r wybodaeth bersonol sydd ei hangen ar weithwyr cymdeithasol ac asiantaethau i gyrraedd y pwynt ‘na yn gallu bod yn anodd. Mae’r disgwyl yn gallu bod yn aruthrol. Ond y pendraw, er nad yw hi’n hawdd cofio hynny bob tro, mae ‘na reswm pam fod angen gwneud y pethau ‘ma. Fy nghyngor i fyddai i gofio bod eich plentyn chi mas ‘na ac mai’r pethau gorau mewn bywyd yn aml yw’r pethau anoddaf i’w cyflawni. Felly os ydyn nhw’n dweud neidiwch, gofynnwch pa mor uchel. Mae’n hawdd colli golwg ar y ffaith bod popeth yn arwain nôl at ddiogelwch y plentyn, a gall pethau deimlo’n annheg ar adegau fel darpar fabwysiadwr.

 

Sut ydych chi’n gwybod eich bod chi’n barod i fabwysiadu?

Dydych chi byth yn gwybod 100%. Byddai rhieni biolegol yn dweud wrthych fod ‘na ddim amser perffaith i gael babi. Mae’r broses fabwysiadu yn daith i ddarganfod hynny. Pe bawn i wedi cofio hynny, efallai y bydden i wedi bod yn dawelach fy meddwl. Dwi’n cofio gweithiwr cymdeithasol mabwysiadu profiadol iawn yn dweud wrthyf i fod un o’i chleientiaid wedi cymryd 10 mlynedd i gyrraedd pen y daith fabwysiadu. Mae’n un o’r pethau anoddaf a gorau y gallwch chi ‘neud gyda’ch bywyd. 

I lawer o ddynion hoyw o’m hoedran i, doedd dod yn rhiant ddim ar fy radar yn fy 20au neu 30au (doedd mabwysiadu ddim yn gyfreithiol bosibl ta beth). Ro’n i bob amser yn gwybod ‘mod i eisiau meithrin, caru a magu plentyn ac yn fy 40au fe wnes i gwrdd a chwympo mewn cariad â rhywun oedd eisiau mynd ar y daith honno hefyd. I fi a fy mhartner, mabwysiadu oedd y dewis cyntaf a’r unig ddewis at ddod yn rhieni.

Dwi’n meddwl, os ydych chi’n rhan o leiafrif sydd wedi cael gwrthod rhywbeth yn y gorffennol, ry’ch chi’n gweithio’n galetach amdano. Mae’n eich gweud yn benderfynol i wneud y jobyn gorau posibl.

 

Beth sydd ei angen i fod yn fabwysiadwr da?

Wel, mae’r model rhianta PACE (Amynedd, Derbyniad, Chwilfrydedd, Empathi) yn mynd â chi ran fawr o’r ffordd (pan nad ydych chi’n rhy flinedig i’w weithredu!) Dysgwch am drawma, ymlyniad a’r mathau o esgeulustod mae’r plant hyn yn ei brofi, a sut gall effeithio ar eu datblygiad a’u hymddygiad. Dim gwastraff amser yw hyn, er y byddwch yn ailedrych ar y pethau hyn yn ystod eich hyfforddiant/asesiad. Byddwch yn ei chael hi’n haws wedyn i ‘weld’ y plentyn drwy’r holl bethau hyn yn ystod y broses baru. Cadwch feddwl agored am y plentyn a allai ddod yn blentyn i chi. Yn y pendraw, mae angen eich amser a’ch cariad arno – i deimlo’n ddiogel a sefydlog.

Mae’n help os ydych chi mewn lle da, sefydlog yn eich bywyd. Gwnewch bopeth ry’ch chi eisiau ‘neud heb blant cyn dechrau’r daith fabwysiadu, ac yna bodlonwch ar y pleserau symlach a ddaw gyda magu plentyn.

 

Beth ddysgest ti am dy hun wrth fabwysiadu, os o gwbl?

 ‘Mod i’n fwy amyneddgar nag o’n i’n meddwl!

 

Sut mae eich perthynas gyda’ch plentyn mabwysiedig wedi datblygu?

Mae ein mab yn hollol hyfryd ar y funud! Mae e’n chwilfrydig, caredig, doniol a chariadus. Mae e hefyd yn dlws ac yn ddymunol, ac mae pawb sy’n cwrdd ag e yn meddwl hynny hefyd.

Mae e wedi glynu wrthym ni a bondio gyda ni, er na ddigwyddodd hyn yr un ffordd nac ar yr un pryd i fi a fy mhartner, a oedd yn anodd iawn.

Ry’n ni hefyd wedi sylwi sut mae’n arddangos ei bryderon, a gall hyn gymryd amser. Mae e’n chwilio am gymeradwyaeth a sicrwydd drwy’r amser; ac angen gwybod beth sy’n digwydd nesaf. Mae hyn wedi dechrau gwneud lot mwy o synnwyr i ni ac ry’n ni’n gallu bodloni ei anghenion yn well fel rhieni mabwysiadol.

Mae ein gwaith ‘taith bywyd’ gyda’n gilydd hefyd yn bwysig iawn. Dy’n ni heb ‘neud hyn gan ddilyn gwerslyfr, a dweud y gwir, ond mewn ffordd sy’n siwtio ein teulu ni. Felly, ry’n ni’n siarad ag e am ei rieni biolegol, ei fam fiolegol a’i ofalwr maeth, gan ddefnyddio lluniau a straeon. Cawsom ni ein cynghori i ddechrau gwneud hyn ar gam cynnar, mewn ffordd sy’n addas i’w oedran, ac ry’n ni’n cytuno â hynny ar y cyfan. Dwi nawr yn gallu gweld bod hyn i gyd yn rhan o’n perthynas gyda’n mab. Ein mab ni yw e, ond nid dim ond un stori sydd ganddo.

Ry’n ni’n ei garu o waelod ein calonnau, a bydden ni’n gweud unrhyw beth drosto.

Dwi hefyd wedi sylwi bod angen creu amser i fi fy hun, ac mae hynny’n anodd iawn yn y dyddiau cynnar pan mae eich plentyn a’r broses fabwysiadu yn mynd â’ch amser i gyd. Ond dwi’n rhiant gwell oherwydd hyn, ac mae fy mherthynas gyda fy mab wedi blodeuo.

Cymryd y cam nesaf

Gweld cwestiynau cyffredin ynghylch mabwysiadu Cwestiynau Cyffredin
Siaradwch ag ymgynghorydd mabwysiadu Dewch o hyd i'ch asiantaeth agosaf

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again